Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, I.W. Davies, W.T.E. Evans, H.I. Jones, M.J.A. Lewis, K. Madge a B.A.L. Roberts.
|
|||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Awst 2017) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y trefniadau o ran mynediad yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ar y ffordd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Daeth sylw i law a oedd yn ategu'r gwrthwynebiadau a fynegwyd yn y cyfarfod ar 24 Awst 2017 a'r rhai y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio; roedd y prif feysydd a oedd yn peri pryder yn ymwneud â lleoliad yr uned a'r ffaith y byddai'n agos at dai cyfagos, a phroblemau iechyd a allai godi.
Ar ôl cael cyngor am ei sefyllfa gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith cyn y cyfarfod, bu i'r aelod lleol, y Cynghorydd A. James, ddatgan buddiant yn yr eitem hon; anerchodd y Pwyllgor – o blaid y cais – a gadawodd y cyfarfod.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd. PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio E/33695, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau EMP 4 a TR3 a Nodyn Cyngor Technegol 6.
|
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[NODER: Bu i'r Cynghorydd S. M. Allen ddatgan buddiant personol yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 21 Medi 2017) a gynhaliwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle arfaethedig y datblygiad ac ystyried y pryderon o ran d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal, ynghyd â'r effaith y gallai'r datblygiad ei gael ar bentref Bancyfelin a'r pryderon sy'n bodoli o ran parcio wrth ysgol y pentref a diogelwch ar y priffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Daeth sylwadau i law a oedd yn ategu'r gwrthwynebiadau a fynegwyd yn y cyfarfod ar 21 Medi 2017 a'r rhai y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio; roedd y prif feysydd a oedd yn peri pryder yn ymwneud â draenio d?r, llifogydd a mynediad.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd. PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio W/35461 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, ynghyd â Chytundeb Adran 106.
|
|||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 931 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:
|