Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, J. Gilasbey, H.I. Jones a J.E. Williams.
|
||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan fod y Cynghorydd A. Lenny, y Cadeirydd, wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach ac yn absenoldeb y Cynghorydd H.I. Jones, yr Is-gadeirydd, gofynnodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirio Eitem 3.1 ar yr Agenda.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd T. Evans yn Gadeirydd ar gyfer Eitem 3.1 ar yr Agenda.
Nid oedd y Cynghorydd A. Lenny yn cadeirio'r drafodaeth arno ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra oedd y cais dan sylw. Y Cynghorydd T. Evans a gadeiriodd y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd.
[Gan fod y Cynghorydd K. Lloyd a Mrs L. Quelch, y Pennaeth Cynllunio, eisoes wedi datgan buddiant yn y cais hwn, nid oeddynt ychwaith yn bresennol yn Siambr y Cyngor tra oedd y cais dan sylw.]
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle yn gynharach y diwrnod hwnnw, (gweler cofnod 3.3 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017) a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld y datblygiad o safbwynt y sawl sy'n gwrthwynebu a gweld yr adeilad o fewn cyd-destun y bragdy yn ei gyfanrwydd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyniad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Roedd sylw wedi dod i law gan yr aelod lleol a siaradodd a mynegodd ei bryderon gwreiddiol ynghylch y 'strwythur dros dro ar y safle' gan gynnig y sylwadau canlynol a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
· "Mae'r Cyngor Tref lleol wedi ymholi ynghylch dynodi'r adeilad hwn yn 'adeilad dros dro' ond mae'n ymddangos i mi ei fod yn adeilad parhaol sy'n debygol o fodoli am fwy na 10 mlynedd. Felly rwy'n methu deall pam y caiff ei ddynodi'n adeilad 'dros dro'"; · Er ei fod yn anffodus bod yr adeilad hwn eisoes wedi cael ei godi cyn cael caniatâd cynllunio, mae wedi'i leoli yn ardal fasnachol y dref; · Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan gymdogion cyfagos; · Mae preswylwyr ar hyd Heol Bethlehem, ar draws y dyffryn, wedi mynegi pryder ynghylch maint yr adeilad, ei fod yn tarfu ar eu golygfeydd ac ynghylch llygredd golau; · Mae'r cais ôl-weithredol hwn ar gyfer math o adeilad sy'n wahanol i'r cynllun mwy traddodiadol a gafodd ganiatâd cynllunio o dan y cyfeirnod E/27895; · Ni ddylai'r cais gael ei benderfynu gan swyddog 'ar ôl ystyried yr hanes â'r swyddfa leol yn y gorffennol'. Nid oes unrhyw eglurhad wedi cael ei roi ynghylch y gair 'hanes';
·
Mae'r gwaith potelu yn
darparu cyflogaeth bwysig mewn ardal wledig. Rhoddodd yr Aelod Lleol wybod i'r Pwyllgor ei fod wedi dod i'r casgliad ei fod yn cefnogi'r cais.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) i'r materion a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.1 |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle yn gynharach y diwrnod hwnnw, (gweler cofnod 3.3 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017) a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld y safle er mwyn asesu a allai'r cynnig gael effaith niweidiol ar amwynder yr eiddo cyfagos o ran colli golau. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyniad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
PENDERFYNODD y Pwyllgor fod cais cynllunio E/35434 yn cael ei ganiatáu yn amodol ar yr amodau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|