Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, J. Gilasbey a L. Roberts
|
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr W.T. Evans a K. Broom wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach)
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2017) a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle hefyd i'r Aelodau newydd, a benodwyd i'r Pwyllgor yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol, fwrw golwg ar y safle fel y gwnaeth y pwyllgor blaenorol ar 19 Ebrill 2017.
Dywedodd fod y Pwyllgor, yn y cyfarfod ar 19 Ebrill, wedi penderfynu gohirio'r cais er mwyn gallu trafod â'r ymgeiswyr yngl?n â'r posibilrwydd o osod ffenestri sefydlog yn lle'r ffenestri Ffrengig/Balconïau Juliette yn y cefn ar y llawr cyntaf er mwyn atal mynediad i'r estyniad to fflat. Roedd hyn yn dilyn pryderon gan wrthwynebwyr y byddai to fflat yr estyniad yn cael ei ddefnyddio fel teras. Cafwyd cytundeb yn hynny o beth, ond roedd yn amodol ar sicrhau bod modd agor y ffenestri at ddibenion awyru ac i ddianc mewn argyfwng, yn unol â'r rheoliadau adeiladu, yn ogystal â gweithredu amodau 4 a 5 yn yr adroddiad, gan atal mynediad i'r to. Pe bai'r amodau hyn yn cael eu tramgwyddo ar unrhyw adeg, cymerir camau gorfodi ar unwaith.
Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad ôl-weithredol, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ôl-weithredol ac a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-
· O ran y cynnig i newid y ffenestri Ffrengig, mynegwyd y farn y gellid dal cael mynediad i'r to drwy wneud newidiadau bach iawn i'r ffenestri. Ceisiwyd cael sicrwydd, felly, na roddid byth caniatâd i fynediad o'r fath ac y byddai amodau priodol yn cael eu gosod, gan hynny, ar unrhyw ganiatâd. Ystyrid bod yr amod hwnnw'n angenrheidiol oherwydd byddai modd cerdded ar y gorchudd a gynigir ar gyfer y to. · Roedd yr estyniad ar y llawr gwaelod, a godwyd heb ganiatâd cynllunio ac sy'n mesur 4.3m x 5m x 9m, yn cael ei ystyried yn ormesol ac ystyrid y byddai'n cael effaith ar amwynder y tai preswyl cyfagos. Byddai'r effaith honno'n waeth pe bai modd cael mynediad i'r to. · Mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd y byddai rhagor o geisiadau ôl-weithredol yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol o ran defnyddio'r to fflat fel teras a defnyddio'r padog. · Gofynnwyd i'r Pwyllgor osod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i atal mynediad i do'r estyniad ar y llawr cyntaf.
Dywedodd yr Uwch-gyfreithiwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor y rhoddid y cyfle, yn unol â phrotocol, i'r ymgeiswyr ymateb i'r materion cynllunio a fynegwyd gan y gwrthwynebwyr, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |