Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 6ed Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.C. Evans.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D. Davies

5 – Cais Cynllunio W/34225 -

Darparu llwybr aml-ddefnydd ar hyd pen isaf Dyffryn Tywi.  Byddai'r cais yn defnyddio rhannau o hen goridor trên a hawl tramwy sy'n bodoli eisoes, ar dir amaethyddol ar hyd Llwybr Beicio Dyffryn Tywi rhwng Nantgaredig a Felin-Wen, Caerfyrddin

Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Amatur Sir Gaerfyrddin

A. Lenny

5 – Cais Cynllunio W/35161 -

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys atgyweirio, ailosod ac adnewyddu briciau sydd wedi torri neu sydd ar goll ar ymylon terfyn allanol trac y felodrom ym Mharc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX.

Aelod o'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am y Felodrom

A. Lenny

5 – Cais Cynllunio W/35162 -

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys atgyweirio, ailosod a disodli briciau sydd wedi torri neu sydd ar goll ar ymylon terfyn allanol trac y felodrom ym Mharc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX

Aelod o'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am y Felodrom

A. Lenny

5 – Cais Cynllunio W/35169 -

5 – Cais Cynllunio W/35170 -

H.I. Jones

5 – Cais Cynllunio W/35161 -

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys atgyweirio, ailosod a disodli briciau sydd wedi torri neu sydd ar goll ar ymylon terfyn allanol trac y felodrom ym Mharc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX

Mae'n defnyddio'r parc oddi mewn i'r Felodrom yn gyson fel aelod o glwb y Quins.

Mae'n defnyddio'r parc oddi mewn i'r Felodrom yn gyson fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD nodi y bydd y penderfyniad ynghylch y cais canlynol yn cael ei ohirio er mwyn ymgynghori rhagor, fel y nodir yn yr Atodiad. 

E/33695

Cais cynllunio llawn i godi uned ddofednod ar fferm er mwyn cadw ieir maes (i gynhyrchu wyau) ynghyd â biniau bwydydd cysylltiedig, mynediad mewnol o'r fferm a gwaith cysylltiedig yng Ngodre Garreg, Llangadog, SA19 9DA

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

E/34849

Un breswylfa (anghenion lleol) ar dir gyferbyn â Tegfan, Talyllychau, Llandeilo, SA19 7YL

Nodwyd bod yr adroddiad yn datgan ‘Cyngor Cymuned Maenordeilo a Salem – Nid oes sylwadau wedi dod i law hyd yma’, ond dylai hyn ddatgan ‘Cyngor Cymuned Talyllychau – Nid oes sylwadau wedi dod i law hyd yma.’

E/35109

Newid defnydd o Ddosbarth A1 (Adwerthu) i Ddosbarth A3 (Bwyd a Diod) gan gynnwys gosod seddau ategol ac offer echdynnu ac awyru yn 9 Adeiladau’r Cross Inn, Stryd y Coleg, Rhydaman, SA18 3AL

3.3       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL wrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

E/33595

Addasu tanc storio d?r a'r sied offer i fod yn llety gwyliau ar dir yn Bryngoiallt, Felin-gwm, Caerfyrddin, SA32 7PX

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 925 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

S/35189

Lleoli dau d? ar wahân ar dir ar safle hen felin goed Cwmblawd, Heol Llannon, Pontyberem, Llanelli, SA15 5NB  

Y RHESWM: Er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil hanes y safle o ran cynllunio.

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1       PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

W/31230

16 uned breswyl ynghyd â mannau parcio cyhoeddus a ffyrdd cysylltiedig ar gyfer y safle. Mae'r cais yn cynnwys cael gwared ar goed niferus a deiliach eraill. Mae'r unedau preswyl yn cynnwys 4 t? ar wahân â 4 ystafell wely yr un, 5 t? fforddiadwy â 2 ystafell wely yr un, 1 t? ar wahân â 2 ystafell wely, a 6 th? pâr â 3 ystafell wely yr un ar dir y tu cefn i Maesgriffith, Stryd Fawr, Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, SA33 5JW

W/34225

Darparu llwybr aml-ddefnydd ar hyd pen isaf Dyffryn Tywi.  Byddai'r cais yn defnyddio rhannau o hen goridor trên a hawl tramwy sy'n bodoli eisoes, ar dir amaethyddol ar hyd Llwybr Beicio Dyffryn Tywi rhwng Nantgaredig a Felin-Wen, Caerfyrddin

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd D. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei chylch]. 

Amod ychwanegol a fydd yn cynnwys gatiau rheoli mynediad.

5.2     PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

[Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd A. Lenny y Gadair er mwyn gallu rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio W/35161, W/35162, W/35169 a W/35170, a gadawodd Siambr y Cyngor wedi hynny. Cadeiriodd y Cynghorydd D. Davies y cyfarfod tra oedd yr eitemau uchod yn cael eu hystyried.

Bu i'r Cynghorydd H.I. Jones ddatgan buddiant mewn perthynas â Cheisiadau Cynllunio W/35161, W/35162, W/35169 a W/35170 a gadawodd Siambr y Cyngor.]

W/35161

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys atgyweirio, ailosod ac adnewyddu briciau sydd wedi torri neu sydd ar goll ar ymylon terfyn allanol trac y felodrom. Atgyweirio ac ailosod y rheilen a'r pyst concrid gwreiddiol o amgylch ymyl y trac.  Atgyweirio'r concrid ar risiau'r felodrom ar ochr ogleddol y trac. Atgyweirio arwyneb concrid presennol y felodrom.  Ymestyn ymyl arwyneb y felodrom ar yr ochr fewn i greu "Parth Glas" diogel. Gosod ffens ddiogelwch newydd ar ymyl y trac yn Felodrom Parc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX

W/35162

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys atgyweirio, ailosod ac adnewyddu briciau sydd wedi torri neu sydd ar goll ar ymylon terfyn allanol trac y felodrom. Atgyweirio ac ailosod y rheilen a'r pyst concrid gwreiddiol o amgylch ymyl y trac.  Atgyweirio'r concrid ar risiau'r felodrom ar ochr ogleddol y trac. Atgyweirio arwyneb concrid bresennol y felodrom.  Ymestyn ymyl arwyneb y felodrom ar yr ochr fewn i greu "Parth Glas" diogel. Gosod ffens ddiogelwch newydd ar ymylon y trac yn Felodrom Parc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX

W/35169

Gwarchod, adnewyddu a gwella Felodrom Parc Caerfyrddin gan gynnwys:  atgyweirio, ailosod ac adnewyddu briciau sydd wedi torri neu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAWRTH, 2017 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9fed Mawrth 2017, gan eu bod yn gywir.

Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar Agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw we-ddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.