Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 9fed Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.A.B. Davies, T. Davies ac M.K. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1007 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safleoedd:-

 

 

E/33595

Addasu tanc storio d?r a'r sied offer i lety gwyliau ar dir yn Bryngioallt, Felingwm, Caerfyrddin, SA32 7PX;

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

E/34720

8 t? pâr o fewn safle presennol ar dir ym Maespiode, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3YS.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle mewn perthynas â'r llecyn gwyrdd a'r hen gartref gofal sydd ar fin cael ei ail agor.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/34486

Newid defnydd y tir i greu maes parcio cerbydau i gwsmeriaid ar dir ger Stryd Andrew, Llanelli, SA15 3YW;

S/34872

Bwriad i ailosod cawod, bloc tai bach a charborth yn Safle Carafannau, Llwynifan Farm, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli, SA14 8AX;

S/34972

Dymchwel adeilad presennol y garej a chodi sied amaethyddol â ffrâm ddur gyda llawr concrid y tu cefn i'r ardd yn 17 Heol y Bryn, Pontyberem, Llanelli, SA15 5AG;

S/35069

Cais am breswylfa ar wahân ar lain ger 1 Heol Penygraig, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9PA.

 

4.2

 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/34900

Gosod to ar oleddf yn lle'r to gwastad presennol; newid ac adnewyddu'r llawr gwaelod o fod â thair ystafell wely i ddwy ystafell wely.  Bydd y llawr cyntaf newydd yn cynnwys dwy ystafell wely, en-suite, ystafell ymolchi a swyddfa yn New Lodge, Y Llan, Felin-foel, Llanelli, SA14 8DY;

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad arfaethedig, a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

       Colli preifatrwydd;

       Dominyddiaeth annerbyniol o'r strwythur, yn enwedig ar yr ochr ddeheuol.

Daeth y sylwadau i law ar ran yr ymgeisydd mewn ymateb i'r materion a godwyd. Cafwyd ymateb pellach gan y Swyddog Rheoli Datblygu hefyd.

Yn sgil y sylwadau uchod, cynigiwyd ac eiliwyd y dylai'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/21986

Cais am benderfynu ar amodau caniatâd gorchymyn datblygu interim yn Chwarel Maesdulais, Porth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin;

 

[Diwygio amod 10(b) o gychwyn am 0800 i gychwyn am 0730 yn ystod yr wythnos]


W/35024

Ystafell baratoi arfaethedig a mannau storio gydag estyniadau i gegin ac ystafell fwyta masnachol yn The Old Board School Guest House, Stryd Fawr, Sanclêr, SA33 4DY;

W/35078

Newid defnydd yr ystafell flaen ar y llawr gwaelod presennol i ystafell driniaeth harddwch (ôl-weithredol) yn 43 Heol Rudd, Caerfyrddin, SA31 1ST.

 

[Amodau ychwanegol yn gysylltiedig â lleiniau gwelededd wrth y fynedfa.]

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor oedd wedi eu cynnal ar 24 Ionawr 2017 ac ar 9 Chwefror 2017, gan eu bod yn gywir.