Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 24ain Ionawr, 2017 11.15 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans, W.J. Lemon a M.K. Thomas.  

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

3 - Cais Cynllunio S/34627 - Cais ôl-weithredol am gadw canopi patio yn y cefn, 91 Heol y Parc, Pontarddulais, Abertawe, SA4 0XX

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

3.

S34627 - CAIS ÔL-WEITHREDOL AM GADW CANOPI PATIO YN Y CEFN, 91 HEOL Y PARC, PONTARDDULAIS, ABERTAWE, SA4 0XX pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cyng. G. B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod ar ôl ei sylwadau a chyn i'r Pwyllgor ystyried y cais.)

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 6 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oedd wedi ei gynnal ar 20 Rhagfyr 2016) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y canopi mewn perthynas â'r eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio S/34627 am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

 

 

4.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 961 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

 

E/34841

Un breswylfa ar dir gyferbyn â Brodawel, Llandeilo, SA19 7TA.

 

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

 

S/33421

Adeiladu 4 preswylfa ynghyd â gwaith tirweddu a mynediad cysylltiedig, tir yn 58 Heol Llannon, Pontyberem, Llanelli SA15 5LY;

 

S/34146

 

 

Datblygiad preswyl i gynnwys hyd at 24 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig, tir ger  Park View Drive, Cydweli, SA17 4UP.

 

5.2 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio.

 

S/34721

Adeiladu preswylfa i alluogi rheoli olyniaeth fferm, tir sy'n rhan o Fferm Coed Derwen, Llwynteg, Llannon, Llanelli, SA14 8JQ.

 

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1019 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

W/34798

Mae'r cais hwn yn ymwneud ag adeiladu caban pren ger yr adeiladau presennol yng Nghreigiau Bach. Mae angen llety ychwanegol er mwyn i'r busnes gwyliau presennol ddarparu lleoedd ychwanegol.Bydd y llety yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn a'r rhai llai abl er mwyn cefnogi ein model busnes i ddarparu llety hygyrch o ansawdd uchel sy'n brin yn yr ardal hon, Creigiau Bach, Llangain, Caerfyrddin, SA33 5AY;

 

 

6.2  PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhesymau dros gymeradwyo'r cais a'r amodau a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog ar 20 Rhagfyr Medi, 2016:-

 

W/34187

Cais am 10 carafán newydd a 2 garafán sefydlog wedi eu hail-leoli ym mharc carafannau Waunygroes, Llan-y-bri, Caerfyrddin, SA33 5AN. 

 

 

7.

COFNODION pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a oedd wedi'u cynnal ar 18 a 20 Rhagfyr 2016, gan eu bod yn gywir.