Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Mr Kevin James, a fu farw'n ddiweddar yn dilyn salwch byr, dim ond ychydig fisoedd ar ôl iddo ymddeol. Mr James oedd y Cyn-beiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a oedd wedi bod yn bresennol ar gyfer nifer o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.
|
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: · Nid oedd y Cynghorwyr C. Jones a G.B. Thomas yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 ac er iddynt aros yn y Siambr yn ystod y trafodaethau, nid oeddent wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.
· Nid oedd y Cynghorwyr W.T. Evans a D. Jones yn bresennol ar gyfer yr ymweliad safle ac felly nid oeddent wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais hwn.]
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 6.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Ionawr 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y datblygiad arfaethedig i asesu'r effaith ar y briffordd.
Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cyflwynwyd sylw gan yr Aelod Lleol ynghylch y datblygiad arfaethedig, ac iddo gydnabod rhai o'r gwrthwynebiadau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, mynegodd ei fod yn cefnogi'r datblygiad gan y byddai'n annog ymwelwyr i'r ardal gan ychwanegu at yr economi leol.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/39590, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
|
|||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1021 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
4.2 PENDERFYNNWYD yn unfrydol ganiatáu Cais Cynllun W/39684, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod, ar y sail ganlynol:
4.1.1 bod y Pwyllgor o'r farn bod y cais yn cydymffurfio â Pholisïau H5, GP1, TSM4 ac EMP4;
4.1.2 bod y Pennaeth Cynllunio'n cael ei awdurdodi i bennu amodau priodol gan gynnwys: a) bod y caniatâd yn ddilys am gyfnod o 2 flynedd; b) bod y mynediad presennol yn cael ei gau; c) sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a'r disgrifiad; d) cymeradwyaeth y rhestr ddeunyddiau.
|
|||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN IONAWR, 2020 PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.
|