Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.C.
Jones a G.B. Thomas.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Enw
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
Y
Cynghorydd Dot Jones
|
5 – Cais
S/39358 newid defnydd preswylfa o Ddosbarth C3 i Gartref preswyl
plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14
9SF
|
Roedd y
g?r yn gysylltiedig â'r ymgeisydd o'r blaen;
|
Y
Cynghorydd Dot Jones
|
6 - Cais W/39441 bwriad i agor Canolfan
Iechyd a Llesiant Cross Hands yn Uned 1, Parc Maes Yr Eithin, Cross
Hands, Llanelli, SA14 6SY;
|
Wedi
siarad am y mater hwn mewn cyfarfodydd cymuned lleol.
|
John
Thomas (Uwch-swyddog Rheoli Datblygu)
|
6 -
Cais W/39822 estyniad i ddarparu storfa o ran peiriannau, gwellt a
gwasarn yn Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33
6UT
|
Ymgeisydd yn berthynas
|
|
4. |
S/38285 - ADEILADU DATBLYGIAD PRESWYL SY'N CYNNWYS HYD AT 210 O UNEDAU YNGHYD Â GWAITH TIRWEDDU A SEILWAITH CYSYLLTIEDIG AR DIR YN NOC Y GOGLEDD, SEASIDE, LLANELLI, SA15 2LY PDF 709 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyfeiriodd y
Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r
safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 o gyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio ar 12 Rhagfyr 2019) a oedd wedi ei gynnal er
mwyn i'r Pwyllgor weld yr effaith y gallai'r datblygiad ei chael yn
weledol ac o ran y rhwydwaith ffyrdd lleol. Cyfeiriodd, gyda
chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth
Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â
disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a
gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a
chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod
y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y
manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/38285 yn amodol
ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac ar yr amod
ychwanegol na fydd unrhyw waith yn dechrau ar y safle hyd nes bod y
gwaith bwriadedig o wella priffyrdd ar hyd yr A484 yn Sandy wedi'i
gwblhau.
|
5. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 657 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais
cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y
Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
E/39454
|
Newidiadau, adnewyddu a helaethu yn ogystal â
dymchwel y strwythurau diangen a'r wal derfyn. Newid defnydd
rhannau o'r adeilad i fod yn ddosbarth A1 (adwerthu), A3 (bwytai a
chaffi), B1 (busnes) a D2 (ymgynnull a hamdden, prif ran neuadd y
farchnad i fod â defnydd cymysg (dosbarthiadau A1, B1 a D2)
yn hen neuadd
y farchnad, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, SA19 6AE
|
|
6. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 645 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
ymweld â'r safle:-
S/39358
|
Newid defnydd preswylfa o ddosbarth C3 i Gartref
preswyl plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14
9SF
[Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater
hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor
cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r
Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn gweld y safle a'r briffordd
leol.
Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg
ar y safle ac i asesu'r effaith ar y briffordd.
|
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/39644
|
Bwriad i greu estyniad yn y blaen ac yn y cefn ac
ychwanegu ffenestri dormer newydd, cynyddu llinell bresennol y grib
i 350mm a newidiadau i oleddf y to yn 43 Heol Pen Llwyn Gwyn, Bryn,
Llanelli, SA14 9UH;
|
S/39750
|
1) Estyniad unllawr newydd y tu cefn, 2)
dymchwel y garej, ystafell aml-bwrpas a'r sied presennol a chreu
estyniad ar y llawr gwaelod i ddarparu cegin/ystafell fwyta ac
ystafell aml-bwrpas newydd yn eu lle. 3) dymchwel portsh mynediad
ochr presennol ac adeilad portsh mynediad newydd yn ei le yn 37
Oaklands, Llanelli, SA14 8DE
|
|
7. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 928 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
6.1 PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
ymweld â'r safle:-
W/39590
|
Bwriad i newid defnydd y tir o dir pori i wersyllfa -
i gynnwys 1 cwt bugail moethus a phum pabell yn Penrhiwsych,
Glantren Lane, Llanybydder, SA40 9SA
Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg
ar y safle ac asesu'r effaith ar y briffordd.
Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a
ailadroddai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig
y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r
canlynol:
·
Mae'r lôn sy'n arwain
i'r safle yn gul ac ond ychydig o leoedd pasio sydd ar
gael.
·
Mae'r rheiny sy'n
defnyddio'r lonydd yn aml yn defnyddio mynedfeydd preifat megis
lleoedd pasio ac yn achosi rhwystr;
·
Mae cerbydau'n rhwystro
lôn oherwydd eu bod yn gorfod aros hyd nes bod gatiau trydan
y safle'n agor.
·
Mynediad acíwt o'r
lôn i'r safle;
·
Pryderon yn ymwneud â
diogelwch a cholli preifatrwydd.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r
Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a
godwyd.
|
6.2 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio
a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/37398
|
Cais am adeiladu un breswylfa newydd ar
dir ger y
Glyn, Drefelin, Llandysul, SA44 5XB;
|
W/39414
|
Darparu dau blot adeiladu ar dir ger
Mwynfan, Heol Brynhaul, Pontyates, Llanelli, SA15 5TD;
|
W/39441
|
Bwriad i agor Canolfan Iechyd a Llesiant
Cross Hands yn Uned 1, Parc Maes yr Eithin, Cross Hands, Llanelli,
SA14 6SY;
[Noder - Gan fod y Cynghorydd D Jones wedi datgan buddiant yn
y mater hwn yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor
ystyried y mater a phenderfynu arno].
|
W/39668
|
Newid defnydd y siêd defaid ac ?yn i
gynelau c?n ym Mlaenffrwd, Heol Blaen-y-coed, Trawsmawr,
Caerfyrddin, SA33 6EJ
|
W/39822
|
Estyniad i ddarparu storfa i beiriannau,
gwellt a gwasarn yn Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33
6UT;
[Noder - Gan fod J Thomas, Uwch-swyddog
Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] wedi datgan buddiant yn y mater
hwn yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor
ystyried y mater a phenderfynu arno].
|
|
8. |
COFNODION - 12 RHAGFYR 2019 PDF 326 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019 gan eu bod yn
gywir.
|