Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies a G.B. Thomas.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
YSTYRIED ADRODDIAD PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CAIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLE YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CAIS Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Awst 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith y briffordd a'r amwynderau lleol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a phreswylwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd pryder yw llifogydd posibl a'r systemau draenio d?r brwnt, yr effaith ar seilwaith, diogelwch priffyrdd a cherddwyr, ac amwynderau. Felly, roedd y gwrthwynebwyr o'r farn bod y cynnig yn groes i Bolisïau TR1, TR3, EQ5, TAN 15, TAN 20 a TAN 24.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.
PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio S/21597, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar y sail ganlynol:-
3.1.1 Mae'n groes i Bolisïau TR1 a TR3, tagfeydd traffig a mynediad annigonol i'r safle; yn groes i Bolisi EQ5, yr effaith ar y Gymraeg ac yn groes i TAN 5, yr effaith ecolegol (pathewod).
3.1.2 Bydd y swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio ynghylch Adran 77 (Erthygl 18) yn cael ei galw i mewn.
|
|||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 535 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|