3. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD
gohirio ystyried y ceisiadau
cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad
safle:-
S/34755
|
Dwy garafán breswyl sefydlog ynghyd ag
adeiladu ystafell ddydd/amlbwrpas, dwy garafán deithiol a
stablau (rhannol ôl-weithredol), ar dir sy'n rhan o Hillside View, yr Hendy,
Llannon, SA14 8JX
[Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd G.B. Thomas y cyfarfod cyn
ystyried a phenderfynu ar y mater, yn dilyn cyngor gan y
cyfreithiwr oherwydd yn ei rôl fel aelod lleol byddai gan y
cynghorydd farn eisoes am y cais dan sylw S/34755].
Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn cael
golwg ar y mynediad.
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y
gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem
hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn ystod y cyfarfod ar ôl
yr ymweliad â'r safle.
|
|
Y RHESWM:
Galluogi'r Pwyllgor i weld y
mynediad i'r safle oherwydd y pryderon ynghylch y ffaith ei bod yn
anodd gweld ffordd y B4306 wrth adael y safle.
|
S/36679
|
Materion a gadwyd yn
ôl mewn perthynas â mynediad, gwedd, tirweddu, cynllun
a maint, ynghyd â diddymu Amodau 7, 9 a 11 sy'n rhan o
ganiatâd cynllunio S/27346, ar dir ym Maes y Bryn, Heol
Penllwyngwyn, y Bryn, Llanelli, SA14 9RQ
Cafodd y Pwyllgor gais i gynnal ymweliad safle ar sail y
ffaith y byddai traffig ychwanegol y datblygiad yn cyfrannu at y
broblem draffig a'r tagfeydd sy'n bodoli eisoes a'r effaith ar
ddiogelwch ffyrdd.
Y RHESWM:
Er mwyn rhoi cyfle i'r
Pwyllgor gael golwg ar y mynediad ar gyfer y datblygiad arfaethedig
yn dilyn y pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd.
|
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i ganiatáu'r cais cynllunio canlynol
yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth
Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
S/36707
|
Adeiladu 29 o unedau preswyl ynghyd â gwaith
cysylltiedig o ran mynediad, tirweddu, ac isadeiledd ar dir gerllaw
Teras Frondeg, Llanelli, SA15 1QB
[Sylwer: Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad
safle. Cynigiwyd ac eiliwyd y cais yn
briodol ond yn dilyn pleidlais gwrthodwyd y cais.]
|
3.4 PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL gymeradwyo'r rhesymau dros wrthod oedd wedi eu drafftio gan y
Pennaeth Cynllunio, fel yr oeddynt yn yr adroddiad, mewn perthynas
â'r cais cynllunio canlynol yr oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi
gwrthod caniatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y
Pennaeth Cynllunio ar 8 Chwefror 2018.
S/35645
|
Preswylfa a garej ar dir oddi ar Heol yr Hafod,
T?-croes, Rhydaman, SA18 3GA
[Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd H. I. Jones yn bresennol yn y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2018 ac felly nid
oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad na phleidleisio ar
benderfyniad y cais].
|
|
4. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL i
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau
y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/36448
|
Garej ddwbl arfaethedig yn 9 Trysor, Glenfryn,
Porth-y-rhyd, Caerfyrddin, SA32 8PP
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a oedd yn
cefnogi’r datblygiad arfaethedig ac roedd yn cynnwys y
canlynol:-
- Cydnabuwyd o ran termau cynllunio nad yw golygfa yn
hawl.
- Mae'r cais cynllunio ar gyfer garej domestig na fyddai'n cael
ei defnyddio at ddibenion masnachol;
- Roedd y trefniadau draenio a gwaredu d?r wyneb yn cael eu
hystyried yn ddigonol.
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ohirio'r cais canlynol
W/36577 oherwydd bod yr ymgeisydd yn ddiweddar wedi cyflwyno'r
rhybudd gofynnol ar drydydd parti sydd â diddordeb yn y
safle.
W/36577
|
Amrywio amod 2 o ganiatâd cynllunio
W/30595 (estyn yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno materion a
gadwyd yn ôl), ar dir yng Nghaeglas, Sanclêr,
Caerfyrddin, SA33 4ET
|
4.3 Penderfynwyd caniatáu y cais cynllunio canlynol yn groes
i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, yn amodol ar gytundeb Adran
106 ac amodau perthnasol;
W/36522
|
Adeiladu preswylfa ar wahân (anghenion
lleol) ar lain gyferbyn ag Ael-y-Bryn, Caerfyrddin, SA33
3EH
Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] wrth y
Pwyllgor petai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu byddai'n
ofynnol i'r ymgeisydd ddilyn amodau Adran 106.
RHESYMAU: Roedd y Pwyllgor o'r farn bod y cais yn cydymffurfio â
pholisïau GP1, TAN 6, AH3, a bod y cais yn bodloni angen lleol
gwirioneddol.
|
|