Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 20fed Chwefror, 2018 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J.E. Williams.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

Eitem 3.1 – DATBLYGIAD PRESWYL I GYNNWYS 51 O BRESWYLFEYDD YNGHYD Â GWAITH CYSYLLTIEDIG, TIR GER CLOS Y BENALLT FAWR, FFOREST, ABERTAWE, SA4 0TQ

Yn unol â pharagraff 8a yng Nghôd Ymddygiad yr Aelodau.

 

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU

Dogfennau ychwanegol:

3.1

S/35215 - DATBLYGIAD PRESWYL I GYNNWYS 51 O BRESWYLFEYDD YNGHYD Â GWAITH CYSYLLTIEDIG, TIR GER CLOS Y BENALLT FAWR, FFOREST, ABERTAWE, SA4 0TQ pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Yn unol â pharagraff 8a yng Nghôd Ymddygiad yr Aelodau, gadawodd y Cynghorydd Gareth Thomas y cyfarfod cyn bod yr eitem yn cael ei thrafod a phenderfynu arno.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Ionawr 2018), er mwyn i'r Pwyllgor asesu gwelededda mynediad i'r safle o Heol y Fforest.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau a oedd wedi'u nodi yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio lle roedd prif bwyslais y gwrthwynebiadau yn canolbwyntio ar bryderon ynghylch y pwll casglu d?r a'r cefnfur, yr effaith ar gymeriad Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Llwchwr yn gyffredinol, ynghyd â chapasiti cyffordd Clos Benallt â'r A48.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd, yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

3.1.1    gwrthod cais cynllunio S/35215 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio gan fod y Pwyllgor yn barnu bod y datblygiad yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol, sef EQ6, TR3 a Nodyn Cyngor Technegol 12;

 

3.1.2.  bod y Pennaeth Cynllunio yn cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol, i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor, yn manylu ar y rhesymau cynllunio dros wrthod y cais a hynny'n seiliedig ar yr uchod.

 

 

 

3.2

S/35962 - CADW'R LLAWR GWAELOD FEL BAR CAFFI YN YSTOD Y DYDD GAN DDEFNYDDIO CEFN Y LLAWR GWAELOD A'R LLAWR CYNTAF FEL CLWB NOS YN YSTOD Y NOS YNGHYD AG YCHWANEGU GRISIAU SY'N DDIHANGFA DÂN YN Y CEFN, 56 STRYD STEPNEY, LLANELLI, SA15 3TG pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Ionawr 2018) er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle i gael gwell amcan o leoliad y clwb nos arfaethedig mewn perthynas â'r eiddo cyfagos.

 

Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr aelod lleol, ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/35962, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

 

 

3.3

S/36429 - ESTYNIAD DEULAWR AR YR OCHR YNGHYD Â PHORTH CEIR AR LEFEL Y DDAEAR, 36 COEDLAN PARC Y STRADE, LLANELLI, SA15 3EF pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Ionawr 2018) er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu a allai'r cynnig gael effaith niweidiol ar amwynder yr eiddo cyfagos o ran colli golau, ac ystyried cymeriad y cynnig mewn perthynas â'r ardal.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau a oedd wedi'u nodi yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio; roedd y prif feysydd a oedd yn peri pryder yn ymwneud â natur ormesol yr estyniad a cholli golau, ynghyd â phryderon y byddai'r cais yn arwain at newid cymeriad golwg y stryd yng Nghoedlan Parc y Strade.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio S/36429 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio oherwydd bod y Pwyllgor o'r farn bod y datblygiad yn groes i bolisi Cynllun Datblygu Lleol GP6 ar y sail y byddai amwynder yr estyniad arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar yr eiddo cyfagos o ran colli golau.

 

 

3.4

S/35028 - PRESWYLFA DDEULAWR, 15A BRYNCAERAU, TRIMSARAN, CYDWELI, SA17 4DW. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd Joseph Davies yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2017 ac felly nid oedd wedi cyfrannu at y broses o benderfynu neu bleidleisio ar benderfyniad y cais.]

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Ionawr 2018), er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'i fynediad yn sgil y pryderon a fynegwyd ynghylch diogelwch ffyrdd.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

Rhoddodd yr aelod lleol a oedd yn cefnogi'r cais wybod bod yr ymgeisydd bellach wedi llofnodi'r adran 106 a bod y cymydog ar ochr dde'r eiddo yn agored i drafod unrhyw ddatblygiadau gofynnol.

 

Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) i'r ymholiadau a godwyd mewn perthynas â'r posibilrwydd o wella gwelededd ar dir trydydd parti ar y safle.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio er mwyn galluogi'r swyddog achos i gysylltu â'r ymgeisydd i drafod y posibilrwydd o wella gwelededd dros dir trydydd parti gerllaw.

 

 

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

4.1

1AF RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
1 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.

 

 

4.2

14EG RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
14 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.