Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gilasbey a K. Madge.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 10 Gorffennaf 2018), a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â'i leoliad yn Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Cafwyd sylw a gefnogai'r cais yn yr ystyr bod y busnes, a oedd yn cael ei redeg gan yr ymgeisydd yn unig, wedi bodoli ar y safle ers 1998 ac wedi tyfu'n raddol dros y blynyddoedd. Gellid mynd i'r afael â'r effaith bosibl ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi trwy waith tirweddu priodol. Roedd modd unioni'r materion a godwyd gan y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn rhwydd. Roedd gan yr ardal hanes o fusnesau eraill oedd y tu allan i derfynau datblygu. Nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynnig.
Wrth ystyried yr adroddiad, clywodd y Pwyllgor sylwadau a oedd o'r farn na fyddai'r cais yn cael effaith negyddol ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi. Yn yr un modd, er bod y safle'r tu allan i derfynau datblygu Nantgaredig, barnwyd ei fod yn briodol i'r lleoliad o ystyried ei natur amaethyddol, ynghyd â'r hanes o fusnesau eraill yn gweithredu/wedi gweithredu yn yr ardal. Am y rhesymau hynny, barnwyd na fyddai'r cais yn gwrthdaro â Pholisïau EMP2 ac EQ6 a nodwyd gan y Pennaeth Cynllunio fel rhesymau dros wrthod y cais.
PENDERFYNWYD, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, fod cais cynllunio W/37328 yn cael ei ganiatáu ar y sail na fyddai'r datblygiad yn gwrthdaro ag egwyddorion Polisïau EMP2 ac EQ6, oherwydd ni fyddai'n niweidiol i gymeriad a gwedd y dirwedd, roedd yn addas ar gyfer ei leoliad a defnyddiau cyfagos, ac ni fyddai'n cael effaith negyddol ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi:
|
|||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 979 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 927 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod
|
|||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
28AIN MEHEFIN, 2018 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.
|
|||||||
10FED GORFFENNAF, 2018 PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.
|