Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 22ain Medi, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell a J.E. Williams.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth drist y Cynghorydd T. Theophilus a rhoddodd deyrnged iddo am ei wasanaeth hir a’i gyfraniad i waith y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Aelod

Eitem(au) yn y Cofnodion

Natur y Buddiant

Cyng. P. Hughes- Griffiths

7 – Canlyniadau Amodol Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a Data Amodol Presenoldeb yn yr Ysgolion

Mae ei ferch yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymunedol Bancffosfelen

Mrs. E. Heyes

6 – Cynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 2016-17

Gwobr Dug Caeredin – Mae ei g?r yn gweithio yn Ysgol Bryngwyn

Cyng. M.J.A. Lewis

12.2 – Cofnodion y Cyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2016

Cofnod 7 – Adroddiad Diweddaru y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid – Mae’n gweithio gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd

Mrs. V. Kenny

7 – Canlyniadau Amodol Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a Data Amodol Presenoldeb yn yr Ysgolion

Ei merch-yng-nghyfraith yw Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Yr Hendy

Cyng. D.W.H. Richards

6 – Cynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 2016-17

Mae’n gweithio gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr eitemau ar gyfer y dyfodol i’w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Hydref 2016. Nodwyd fod yr adroddiad arfaethedig ar y Cynnig fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer Talacharn, Llanmilo a Thremoilet wedi cael ei ohirio i’w gwneud yn bosibl cael rhagor o wybodaeth am berchnogaeth ar dir a materion eraill, ac y byddai bellach yn cael ei amserlennu ar gyfer ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar ohirio’r adroddiad ar y Cynnig fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer Talacharn, Llanmiloe a Thremoilet i gael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, nodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar ddydd Llun 10 Hydref 2016.

 

6.

CYNLLUN BUSNES GWASANAETH CYMORTH IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN 2016-17 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 2016-17, y cyntaf i gael ei ddatblygu yn dilyn uno Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin dan un strwythur rheoli ar 1 Ionawr 2016, i’r Pwyllgor er mwyn iddo’i ystyried. Roedd uno’r ddau wasanaeth yn ei gwneud yn bosibl datblygu dull mwy holistaidd o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled y Sir i roi amrywiaeth gadarn o gymorth o fynediad agored i gymorth arbenigol i alluogi plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc (8-25 oed) i gyflawni eu llawn botensial o safbwynt personol, cymdeithasol ac addysgol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â darparu clybiau ieuenctid, a ble’r oeddent yn perthyn o fewn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar y cyfan, hysbyswyd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth, fel endid, wedi’i rannu’n 4 tîm gwahanol a oedd yn cynnwys Cymorth Cyffredinol, Cymorth Ieuenctid wedi’i Dargedu, Cymorth Ieuenctid wedi’i Dargedu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 8-18 oed a Chyfiawnder Ieuenctid. Roedd y Gwasanaeth Clybiau Ieuenctid o fewn cylch gwaith y Tîm Cymorth Cyffredinol a oedd yn gweithredu 9 clwb ieuenctid yn uniongyrchol, gan roi cymorth hefyd i Dr M’z yng Nghaerfyrddin ynghyd â thri Chlwb Urdd o fewn y Sir.

 

·         Gan nodi’r uchod, mynegwyd barn nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at rôl Clybiau Ffermwyr Ifanc a chlybiau gwirfoddol eraill o fewn y Sir ac na ddylid anwybyddu pwysigrwydd y rôl honno. Mynegwyd siom hefyd nad oedd gan y Cyngor swyddog pwrpasol yn gweithio gyda’r Mudiad Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr a wneir ganddo, a oedd yn cynnwys gweithio gydag ysgolion i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael gwaith.

 

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn croesawu’r pwyslais a oedd yn cael ei roi ar ddarparu gwasanaeth cyffredinol ynghyd â’r cyllid allanol yr oedd hynny’n ei ysgogi. Hysbysodd fod buddsoddiad y Cyngor yn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio’r ddarpariaeth at y rhai ac arnynt fwyaf angen cymorth yn hytrach na buddsoddi mewn cymorth cyffredinol, fel a adlewyrchir yn genedlaethol. Fodd bynnag, hysbysodd fod cyllideb graidd y Cyngor i gyllido’r gwasanaeth ieuenctid sy’n 31% o’r setliad refeniw llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn is nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru, ac mai 73% oedd y cyfartaledd ar gyfer Cymru. Er gwaethaf y gwahaniaeth hwnnw, roedd y Cyngor yn dal i ddarparu lefel uchel o wasanaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, a phe bai’r cyllid yn cynyddu i’r cyfartaledd cenedlaethol gellid cyflawni cryn dipyn yn fwy.

 

Hysbysodd y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod trafodaethau wedi cael eu cynnal, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Ebrill 2016 (gweler cofnod 7) lle penderfynwyd “y byddai swyddogion yn gwneud ymdrech ar y cyd i gryfhau cysylltiadau rhwng yr Awdurdod a'r rhwydwaith CFfI yn y sir”, gyda CFfI Caerfyrddin i drafod yr hyn y gallai’r awdurdod ei wneud, yn niffyg adnoddau digonol, i gryfhau’r cysylltiadau hynny. Roedd cyfarfodydd pellach yn yr arfaeth gyda’r CFfI hefyd.

·         Mewn ymateb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU AC ASESIADAU ATHRAWON A DATA PRESENOLDEB YSGOLION (HEB EU CADARNHAU) pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor fanylion y Canlyniadau Amodol Arholiadau ac Asesiadau Athrawon ynghyd â’r Data Amodol Presenoldeb yn yr Ysgolion. Nodwyd fod y data heb ei gadarnhau, ac y byddai’r adroddiad terfynol wedi’i gadarnhau yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad yn gynnar yn 2017.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:

 

·         Gan groesawu’r canlyniadau, gofynnwyd a oedd unrhyw ganlyniadau wedi bod yn siomedig a pham?

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg mai un maes a oedd yn destun siom oedd canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen. Er nad oedd y canlyniadau diwedd tymor gystal â’r disgwyl, efallai fod hynny i’w briodoli i’r ffordd yr oedd asesiadau athrawon wedi cael eu cynnal ac efallai fod angen cynyddu hyder athrawon wrth gynnal yr asesiadau

 

Roedd perfformiad ysgolion â niferoedd uchel o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim wedi bod yn siomedig hefyd ac roedd yn faes yr oedd angen ei archwilio gan fod rhai ysgolion wedi perfformio’n dda tra bod eraill heb berfformio’n dda.

 

·         Cyfeiriwyd at y cyflawniadau yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg yn y Gymraeg a gofynnwyd sut yr oedd eu hysgolion hwy wedi perfformio’n well na’r rhai yn Sir Gaerfyrddin.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg mai un rheswm posibl dros y canlyniad hwnnw oedd bod gan Sir Gaerfyrddin, fel Gwynedd a Cheredigion, nifer uwch o ddisgyblion yn cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, roedd gwaith yn cael ei wneud i wella perfformiad yn y maes hwnnw.

 

·         Cyfeiriwyd at berfformiad mewn Cymraeg ail iaith, a oedd wedi dirywio o 79.5% yn 2015 i 74.8% yn 2016. Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg y byddai’r ffordd yr addysgir Cymraeg mewn ysgolion yn newid dros y 5 mlynedd nesaf. Byddai’r cwrs Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli, gyda Chymraeg yn cael ei haddysgu’n gyfan gwbl trwy’r continwwm Iaith Gymraeg.

 

·         Cyfeiriwyd at y ffocws ar gyflawniad academaidd a mynegwyd barn y dylid rhoi pwyslais ar ddarpariaeth alwedigaethol hefyd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod angen i addysg fod ar gyfer pawb a bod angen i’r ddarpariaeth o ran cyrsiau adlewyrchu gallu addysgol er mwyn cynyddu cyflawniadau disgyblion i’r eithaf. O ran hyfforddiant galwedigaethol, roedd darpariaeth ar gael ar hyn o bryd yn Ysgol Bro Myrddin a’r Pentref Galwedigaethol ym Mryngwyn, yn Llanelli. Roedd gwaith yn cael ei wneud hefyd i baratoi adroddiad ar gyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Cyfalaf yr Adran Addysg a Phlant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 yn ôl y sefyllfa ar 30 Mehefin 2016. Hysbyswyd fod yr adroddiad yn dynodi y gallai fod gorwariant o £1.17m ar ddiwedd y flwyddyn yn y gyllideb refeniw a gwarged net o £5.275 yn y gyllideb gyfalaf.

 

Hysbysodd y Cyfrifydd Gr?p, mewn perthynas â’r gorwariant yn y gyllideb refeniw, fod hwnnw’n ymwneud yn bennaf â cholli swyddi ac ymddeoliadau gwirfoddol cynnar mewn ysgolion a oedd yn gyfanswm o tua £750,000. O ran y tanwariant yn y gyllideb gyfalaf, roedd hwnnw’n ymwneud â llithriannau o fewn y Rhaglen Moderneiddio Addysg oherwydd graddfeydd amser cynlluniau penodol, a byddai’n cael ei ddefnyddio dros oes y cynlluniau.

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant rhagamcanol o £116,000 yng nghyllideb yr Uned Gofal Preswyl a Seibiant a gofynnwyd am eglurhad o’r sefyllfa honno.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod darparu canolfannau preswyl i blant ag anghenion gofal arbennig wedi cael ei gynnig fel arbediad posibl pan oedd cyllideb 2016/17 yn cael ei hystyried ar y sail bod y gwasanaeth yn ymwneud yn bennaf ag angen meddygol, ac roedd teimlad y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud cyfraniad mwy tuag at ddarparu’r gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi bod yn rhoi’r cyfraniad mwy a oedd yn ddisgwyliedig, gan olygu bod y gwasanaeth yn rhagweld gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn. Hysbysodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt yn barhaus gyda’r Bwrdd Iechyd ynghylch ei gyfraniad tuag at y gwasanaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at y Rhaglen Moderneiddio Addysg a gofynnwyd cwestiwn am y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr ysgol gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Rhydaman. Hefyd, gofynnwyd a oedd hyn wedi cael ei roi ar yr agenda ar gyfer y tasglu adfywio newydd a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer Rhydaman.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y sefyllfa yn Rhydaman yn gymhleth nid dim ond am fod y cynnydd sylweddol yn niferoedd y disgyblion dros y pedair blynedd ddiwethaf wedi gwneud y cynigion gwreiddiol yn amherthnasol, ond hefyd am fod anawsterau wedi codi o ran dod o hyd i safle addas ar gyfer yr ysgol newydd. Er gwaethaf yr anawsterau hynny, roedd darparu’r ysgol newydd yn dal i gael ei gyfrif yn un o flaenoriaethau’r Cyngor.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r gorwariant o £1,017m a ragwelir yn y gyllideb refeniw a goblygiadau cyllidebol posibl hynny ar gyfer darparu gwasanaethau, hysbysodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers paratoi’r adroddiad, a bod y gorwariant a ragwelir wedi cynyddu i £1.4m. Dywedodd fod disgwyl i bob adran weithio o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd iddynt, a bod yr Adran Addysg wedi gwneud hynny’n llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond bod un pryder yn ymwneud â cholli swyddi ac ymddeoliadau gwirfoddol cynnar mewn ysgolion. Er mai ysgolion oedd yn gwneud y penderfyniad i ddileu swyddi staff yr ysgolion/ cynnig ymddeoliad gwirfoddol cynnar, roedd canlyniadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17: CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2016 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 ar gyfer chwarter 1 mewn perthynas â’r Camau Gweithredu a Meysydd Gorchwyl sy’n berthnasol i’w faes gorchwyl er mwyn craffu arno.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at EDU/015a a oedd yn ymwneud â’r ganran o ddatganiadau terfynol o angen addysgol arbennig a ddyroddwyd o fewn 26 wythnos, yr oedd canlyniad o 66.7 wedi’i gofnodi ar ei gyfer o’i gymharu â tharged o 40. Gofynnwyd pam fod targed rhy isel wedi cael ei osod yn ôl pob golwg.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg fod y targed isel yn adlewyrchu’r perfformiad a gyflawnwyd yn 2015/16. Y rheswm dros y perfformiad gwell oedd bod llai o ddatganiadau’n cael eu hysgrifennu a bod cyfraniad uwch na’r disgwyl yn cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd. Os bydd y duedd yn parhau, bydd modd ailystyried y targed yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2015/16 pdf eicon PDF 369 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015/16, a oedd yn nodi gwybodaeth am ystod eang o faterion y rhoddwyd sylw iddynt dros y flwyddyn, er mwyn craffu arno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r eglurhad a ddarparwyd am beidio â chyflwyno dau adroddiad ar y cynigion i gau Ysgolion Cynradd Llanedi a Bancffosfelen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r eglurhad a ddarparwyd am beidio â chyflwyno’r adroddiadau.

12.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

12.1

9FED O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 345 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 fel cofnod cywir.

12.2

14EG O EBRILL 2016 pdf eicon PDF 497 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2016 fel cofnod cywir.

12.3

23AIN O FAI 2016 pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Mai 2016 fel cofnod cywir.

12.4

17EG O FEHEFIN 2016 pdf eicon PDF 328 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2016 fel cofnod cywir.

13.

DERBYN COFNODION CYFARFOD AR Y CYD Y PWYLLGORAU CRAFFU ADDYSG A PHLANT A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR Y 23AIN O FAI 2016 pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion Cyfarfod ar y Cyd y Pwyllgorau Craffu Addysg a Phlant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 23 Mai 2016.