Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Gwener, 17eg Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.E.M. Jones a J. Williams yn ogystal â’r Canon B. Witt. Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cynghorydd G.O. Jones (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Cynghorydd

Eitem(au) yn y Cofnodion

Natur y Buddiant

 

Y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths  

 

Eitem 9

 

 

Mae’n llywodraethwr yn Ysgol Bro Myrddin. Hysbysodd y Pwyllgor, er y gallai gymryd rhan a phleidleisio, na fyddai’n cyfrannu i’r trafodaethau tra bo’r eitem hon yn cael ei hystyried.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL y byddai’r eitemau i’w hystyried yn ei gyfarfod nesaf, sydd wedi’i amserlennu ar gyfer dydd Iau 22 Medi 2016, yn cael eu nodi.

6.

Y DIWEDDARAF AM Y RHWYDWAITH DYSGU 11-19 pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau’r Adolygiad o’r Cwricwlwm 11-19 yn Sir Gaerfyrddin. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr Awdurdod Lleol a Choleg Sir Gâr wedi comisiynu’r adolygiad ar y cyd gan fod y ddau sefydliad o’r farn bod angen dull strategol cyffredin o ddarparu addysg a hyfforddiant 11-19 yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn nodi’r camau gweithredu a oedd yn ofynnol i weithredu’r cwricwlwm newydd a sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg dda ac yn cael eu paratoi’n addas ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu bywydau.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol ESTYN yn 2015 a oedd yn amlygu rôl ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol o ran cydweithio i ddatblygu cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgwyr a sectorau allweddol yr economi leol a gofynnwyd hefyd beth oedd y raddfa amser debygol ar gyfer y cydweithio hwn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i’r Pwyllgor hefyd y rhagwelir y byddai’r trefniadau hyn yn weithredol erbyn 2021, gan gyd-daro â’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol newydd. 

 

Awgrymwyd hefyd fod llawer o ysgolion uwchradd yn teimlo’n bryderus ynghylch colli disgyblion i Goleg Sir Gâr a gofynnwyd sut y gellid rhoi’r cynigion hyn ar waith heb greu cystadleuaeth rhwng darparwyr ac a fyddai’r cyrsiau a gynigir gan y Coleg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg? Rhoddodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu wybod i’r Pwyllgor fod yr Awdurdod Lleol a Choleg Sir Gâr yn gweld addysg ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin fel darpariaeth economi-gymysg. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor hefyd fod colegau addysg bellach dan fwy o bwysau gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a bod Coleg Sir Gâr yn gweithio tuag at hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant mai nod yr adolygiad hwn a’r argymhellion a oedd yn deillio ohono oedd cael gwared ar unrhyw ymdeimlad o gystadleuaeth rhwng darparwyr a sicrhau bod pobl ifanc yn cael cynnig y ddarpariaeth orau. Roedd yn cydnabod pryderon dilys ysgolion ond pwysleisiodd fod perthynas ardderchog yn bodoli rhwng yr Awdurdod a Choleg Sir Gâr o ran darpariaeth ôl-16. Fodd bynnag, dywedodd na fyddai’r un coleg nac ysgol uwchradd yn gallu cynnig pob pwnc posibl neu gyfuniad posibl o bynciau yn y dyfodol a’i bod felly’n hanfodol bod sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth.

 

Roedd yr Aelodau’n croesawu’r adroddiad a’r cyd-destun ac er bod y rhestr o’r holl strategaethau perthnasol, yn rhai blaenorol a phresennol, yn cael ei gwerthfawrogi hefyd, roedd teimlad y byddai cynnwys mwy o ddata ynghylch cyrchfannau pobl ifanc ar ôl addysg lawn-amser orfodol wedi bod o fudd (e.e. y rhai sy’n mynd ymlaen i’r brifysgol, colegau addysg bellach neu’r rhai sy’n dod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)). Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu ei fod yn croesawu’r sylwadau a bod data o’r fath ar gael yn rhwydd, ac y byddai’n hapus i gyflwyno gwybodaeth o’r fath i’r Aelodau mewn cyfarfod yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer y gwariant refeniw a chyfalaf mewn perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant, ym mlwyddyn ariannol 2015/16. Hysbyswyd y Pwyllgor mai hon oedd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ac nid y sefyllfa ariannol ‘wirioneddol bron â bod’ fel a oedd wedi’i nodi ar glawr yr adroddiad. Nododd y Pwyllgor fod gorwariant net o £735,000 am y flwyddyn yng nghyllideb refeniw’r Adran Addysg a Phlant tra bo’r rhaglen gyfalaf yn dangos amrywiant o

-£6,154,000 o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2015/16. Hefyd, nid oedd cronfeydd wrth gefn adrannol ar gael ar gyfer blwyddyn 2016/17.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y costau a oedd yn gysylltiedig ag ymddeoliadau gwirfoddol cynnar a cholli swyddi mewn ysgolion a chan fod y rhain yn debygol o barhau a chynyddu, gofynnwyd a oedd yr Adran yn gallu rhagweld beth oedd yr effaith ariannol yn debygol o fod dros y deuddeng mis nesaf ac a oedd deialog yn digwydd rhwng yr Awdurdod ac ysgolion am y mater hwn. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p, yn seiliedig ar yr achosion busnes a oedd eisoes wedi dod i law, fod yr Adran yn rhagweld gorwariant o oddeutu £500,000 ar gyfer 2016/17. Hysbyswyd y Pwyllgor fod newidiadau i’r broses yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod y system yn gliriach a bod yr Awdurdod yn gweithio gydag ysgolion o’r dechrau un i gynllunio ceisiadau am ymddeoliad a defnyddio cyfleoedd adleoli ar gyfer staff sy’n wynebu colli swyddi.  

 

Yng ngoleuni’r pwysau ariannol parhaus a wynebir gan ysgolion, awgrymodd y Cadeirydd y dylid gofyn i’r Bwrdd Gweithredol ystyried dyrannu mwy o gyllid i’r Adran Addysg a Phlant i helpu i leddfu’r pwysau ariannol a brofir ar hyn o bryd. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1       Y byddai’r adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.2       Y dylid gofyn i’r Bwrdd Gweithredol ystyried dyrannu mwy o gyllid i’r Adran Addysg a Phlant i helpu i leddfu’r pwysau ariannol a brofir ar hyn o bryd. 

 

8.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - YMATEB YMGYNGHORIAD 2016/17 pdf eicon PDF 634 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad 2015 o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a gymeradwywyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2014. Atgoffwyd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) i gael ei gymeradwyo neu ei addasu gan Weinidogion Cymru ac y dylid adolygu’r rhain yn flynyddol. Nododd yr Aelodau nad oedd unrhyw newidiadau wedi bod i’r saith deilliant gwreiddiol heblaw am integreiddio anghenion yr economi leol fel rhan o’r Cynllun. 

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor, o ran cydymffurfio â’r gofyniad yn Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 i adolygu ei Gynllun yn flynyddol (h.y. adolygiad o’r cynnydd wrth fynd ar drywydd y targedau a nodir yn y Cynllun), bod peth dryswch wedi bod mewn perthynas â’r gofyniad i ymgynghori ynghylch y fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod yn ddiweddarach ei bod yn ofynnol ymgynghori ynghylch y fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun hefyd ac felly fe gynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori rhwng 29 Mawrth a 12 Mai 2016. Cafwyd cyfanswm o 16 o ymatebion ac roedd dadansoddiad wedi’i gynnwys yn yr adroddiad a oedd wedi’i atodi.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun diwygiedig:

 

Roedd y cynnydd tuag at gyrraedd y targedau a oedd wedi’u nodi yn y Cynllun gwreiddiol yn cael ei groesawu ond yng ngoleuni’r llu o dargedau heriol a’r graddfeydd amser tynn, gofynnwyd faint o gynnydd pellach ellid ei gyflawni. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei fod yn croesawu’r sylw a’i fod yn cydnabod bod y targedau yn heriol yn wir a bod ffactorau eraill yn aml yn dylanwadu arnynt. Er enghraifft, roedd newid categorïau iaith ysgolion yn golygu ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod ymlynu wrth brosesau statudol ac roedd y rhain yn aml yn digwydd dros gyfnod hwy. Ychwanegodd hefyd fod 10 ysgol â dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin a nid 6 fel a oedd wedi’i nodi yn y Cynllun Gweithredu (Adran 2).

 

Awgrymwyd fod cynnydd gyda Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ledled Cymru wedi bod yn weddol siomedig ar y cyfan ac y gallai’r gofyniad ar gyfer strategaeth arall a fformat y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fod wedi cyfrannu at yr ymateb araf gan awdurdodau lleol eraill o ran datblygu eu cynlluniau eu hunain. Cynigiwyd fod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol (Addysg a Phlant) yn lobïo Llywodraeth Cymru a oedd newydd ei sefydlu ac yn gofyn am ymgorffori Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn strategaethau corfforaethol presennol awdurdodau lleol, yn hytrach na’u bod yn cael eu hystyried yn ddogfennau ar wahân. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn.     

 

Cyfeiriwyd at Ganolfannau Iaith yr Awdurdod a’r ffaith bod pennaeth ysgol, yn ystod ymweliadau’r Pwyllgor ag ysgolion yn gynharach yr wythnos honno, wedi awgrymu wrth Aelodau nad oedd y gwasanaeth hwn yn ddigonol i gefnogi dysgwyr. Awgrymwyd hefyd y dylai’r prosiect gorsafoedd iaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID CATEGORI IAITH YSGOL BRO MYRDDIN O DDWYIEITHOG (2A) I'R GYFRWNG GYMRAEG (CC) pdf eicon PDF 494 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths wedi datgan yn flaenorol ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Bro Myrddin ac er y gallai gymryd rhan a phleidleisio, na fyddai’n cyfrannu i’r trafodaethau tra bo’r eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r cynnig i newid categori iaith Ysgol Bro Myrddin o ‘Dwyieithog’ (2A) i ‘Cyfrwng Cymraeg’ (CC) yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2016, i gyhoeddi’r Hysbysiad Statudol. Roedd yr hysbysiad wedi rhoi 28 diwrnod i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig at y Cyngor. Daeth cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 10 Mai ac roedd cyfanswm o 2 wrthwynebiad wedi dod i law.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried y cynnig:

 

Mynegwyd siom fod y prosesau yr oedd yn ofynnol eu dilyn er mwyn galluogi ysgolion i newid eu categorïau iaith i’w gweld yn rhwystr yn hytrach nag o gymorth. Awgrymwyd fod Llywodraeth Cymru i’w gweld fel pe bai’n cefnogi egwyddor caniatáu i ysgolion symud ar hyd y continwwm iaith, ond bod ei phrosesau hi ei hun wedi’u bwriadu mewn gwirionedd i greu rhwystr i’r broses ar yr un pryd. Awgrymwyd y dylid gofyn i’r Cyngor Sir, trwy’r Bwrdd Gweithredol, lobïo Llywodraeth Cymru a gofyn iddi symleiddio’r broses sy’n ofynnol ar gyfer newid categorïau iaith ysgolion, gan felly ei gwneud yn haws i ysgolion symud ar hyd y continwwm iaith. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL:

 

9.1       Y dylid derbyn yr adroddiad.

 

9.2       Y dylid argymell wrth y Bwrdd Gweithredol ei fod yn bwrw ymlaen â’r cynnig i newid categori iaith Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o ‘Dwyieithog’ (2A) i ‘Cyfrwng Cymraeg’ a gweithredu’r cynnig fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, sef o 1 Medi 2016.

 

9.3       Y dylid gofyn i’r Bwrdd Gweithredol argymell wrth y Cyngor Sir ei fod yn lobïo Llywodraeth Cymru ac yn gofyn iddi symleiddio’r broses sy’n ofynnol ar gyfer newid categorïau iaith ysgolion, gan felly ei gwneud yn haws i ysgolion symud ar hyd y continwwm iaith a newid eu categorïau iaith i ‘Cyfrwng Cymraeg’.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (2015/16) A CHYNLLUN GWELLA (2016/17) - DRAFFT pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad ar gynnydd yn y Flwyddyn Gyntaf gyda Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor (2015-20) yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol y Cyngor (2015/16) a’i Gynllun Gwella (2016/17). Nododd y Pwyllgor fod adrodd yn flynyddol yn un o’r prif gyfleoedd i adolygu, monitro a myfyrio ac yn gyfle i’r Awdurdod gofnodi ei weithgarwch parhaus i gyflawni ei ddyletswyddau cyffredinol a phenodol. Nodwyd hefyd ei bod yn gyfreithiol ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi Cynllun Gwella cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol (h.y. 1 Ebrill) a hefyd cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad yn y gorffennol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL ei fod yn cymeradwyo’r fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol (2015/16) a Chynllun Gwella (2016/17) y Cyngor.

 

11.

ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gopi i’w ystyried o’r Adroddiad Rheoli Perfformiad Diwedd Blwyddyn ar gyfer y gwasanaethau o fewn ei gylch gwaith, am y cyfnod o 1 Ebrill 2015 – 31 Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Trosolwg o Berfformiad gan Benaethiaid Gwasanaeth

·         Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

·         Monitro Cwynion a Chanmoliaeth

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Consortiwm ERW (Education through Regional Working), rhoddodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr wybod i’r Pwyllgor ei fod yn cael ei arolygu gan ESTYN ar hyn o bryd, fel a gafodd y tri chonsortiwm addysg arall yn Ne, Dwyrain a Gogledd Cymru. 

 

PENDEFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn yr adroddiad.

12.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd mewn perthynas â chamau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a ddeilliodd o gyfarfodydd craffu blaenorol.

 

PENDEFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn yr adroddiad.