Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Mercher, 9fed Mawrth, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies, M.J.A. Lewis a T. Theophilus. 

 

Croesawyd y Cynghorydd J. Williams gan y Cadeirydd i'w chyfarfod cyntaf ers cael ei henwebu'n aelod o'r Pwyllgor.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd D.J.R. Bartlett

 

Eitem 6

 

Roedd ef a'i deulu yn adnabod Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Llanedi a'i theulu.

 

Mrs. V. Kenny

 

 

Eitem 6

 

Ei merch-yng-nghyfraith yw Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol yr Hendy.

 

 

Y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths

 

 

Eitem 7

 

Mae ei ferch yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymunedol Bancffosfelen.

 

Y Cynghorydd G.O. Jones (Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant)

 

Eitem 7

 

Ei wraig yw Pennaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Llanddarog, sydd wedi'i chynnwys yn un o'r opsiynau yn y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Bancffosfelen.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cwestiynau canlynol yn y cyfarfod.

 

4.1

CWESTIWN GAN CHARLOTTE JONES, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

Pa dystiolaeth sydd gan y Cyngor i gefnogi’r honiad “o safbwynt addysgiadol, bod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn anodd dros ben i Ysgol Llanedi gyflwyno’r ystod eang o brofiadau cwricwlaidd a chymdeithasol sydd angen ar blant yr oedran yma er mwyn datblygu’n llawn?”

Cofnodion:

Pa dystiolaeth sydd gan y Cyngor i gefnogi’r honiad “o safbwynt addysgiadol, bod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn anodd dros ben i Ysgol Llanedi gyflwyno’r ystod eang o brofiadau cwricwlaidd a chymdeithasol sydd angen ar blant yr oedran yma er mwyn datblygu’n llawn?”

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Diolch am eich cwestiwn, sy'n cyfeirio, wrth gwrs, at adroddiad ESTYN, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013, ynghylch maint yr ysgol mewn perthynas ag effeithiolrwydd addysgu a dysgu. Mae'r adroddiad hwn, er enghraifft, yn nodi rhai gwendidau megis bylchau o ran arbenigedd staff a phrinder amser i adolygu targedau a monitro cynnydd. Yr hyn yr wyf yn mynd i'w awgrymu yn awr yw ein bod ni, fel pwyllgor craffu, yn ymateb yn gadarnhaol i'ch cwestiwn drwy fwrw golwg arall ar yr adroddiad a chael trafodaeth â'r Ymgynghorwyr Her i weld sut y gellir goresgyn neu gael gwared ar y rhwystredigaethau hyn.

4.2

CWESTIWN GAN ELINOR WILLIAMS, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

Pan yn cyfeirio at y capasiti yn ysgol yr Hendy, mae cynigion y Cyngor yn anwybyddu  at y cynlluniau i adeiladu 91 o gartrefi newydd yn yr Hendy sydd wedi ei gymeradwyo gan adran gynllunio’r Cyngor Sir ei hun ar 15 Rhagfyr 2015 a bydd wedi ei gwblhau cyn y dyddiad mae’r cyngor yn cynnig cau Ysgol Llanedi yn Awst 2017. Mae’r datblygwyr yn dweud: “Cwrt Y Bedw has much to offer to families with Hendy County Primary School within walking distance”. Mae datblygiad ychwanegol o 40 o dai yn cael eu cynllunio ar gyfer y Fforest, sydd rhwng Llanedi a’r Hendy a datblygiad o 800 o dai wedi ei gymeradwyo ar gyfer Pontarddulais gerllaw. Yn ogystal, mae cynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i ail-ddynodi ysgol Llangennech i cyfrwng Cymraeg yn cynnig bod y rhieni hynny sy’n dymuno addysg cyfrwng Saesneg i’w plant yn danfon eu plant i’r Hendy. Ym marn y cyngor, mae’r holl lwybrau’n arwain i ysgol yr Hendy. Rhagwelir y niferoedd yn yr Hendy ym mis Medi 2016 yn 173 gyda chapasiti o 197. Ody’r cyngor wir yn meddwl y bydd lle digonol i blant ysgol Llanedi ym mis Medi 2017?

Cofnodion:

Pan yn cyfeirio at y capasiti yn ysgol yr Hendy, mae cynigion y Cyngor yn anwybyddu  at y cynlluniau i adeiladu 91 o gartrefi newydd yn yr Hendy sydd wedi ei gymeradwyo gan adran gynllunio’r Cyngor Sir ei hun ar 15 Rhagfyr 2015 a bydd wedi ei gwblhau cyn y dyddiad mae’r cyngor yn cynnig cau Ysgol Llanedi yn Awst 2017. Mae’r datblygwyr yn dweud: Cwrt Y Bedw has much to offer to families with Hendy County Primary School within walking distance”. Mae datblygiad ychwanegol o 40 o dai yn cael eu cynllunio ar gyfer y Fforest, sydd rhwng Llanedi a’r Hendy a datblygiad o 800 o dai wedi ei gymeradwyo ar gyfer Pontarddulais gerllaw. Yn ogystal, mae cynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i ail-ddynodi ysgol Llangennech i cyfrwng Cymraeg yn cynnig bod y rhieni hynny sy’n dymuno addysg cyfrwng Saesneg i’w plant yn danfon eu plant i’r Hendy. Ym marn y cyngor, mae’r holl lwybrau’n arwain i ysgol yr Hendy. Rhagwelir y niferoedd yn yr Hendy ym mis Medi 2016 yn 173 gyda chapasiti o 197. Ody’r cyngor wir yn meddwl y bydd lle digonol i blant ysgol Llanedi ym mis Medi 2017?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Diolch am dynnu ein sylw at y datblygiad tai a fydd yn gyfrifol am godi dros 900 o dai yn yr ardal. Nid yw hwn yn fater y gellir ei anwybyddu, ac felly rwy’n cynnig ymateb byr a syml. Mae hwn yn fater pwysig, ac yn un y bydd yn rhaid i ni roi sylw manwl iddo cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud. 

 

4.3

CWESTWIN GAN ANTHONY MATTHEWS, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

Mae dogfen y Cyngor yn datgan mae 19 o ddisgyblion sy’ yn Llanedi ac “amcangyfrifir y bydd nifer y disgyblion yn aros yn gyson gyda dim gobaith gwirdroi’r duedd”. Nid dyna’r gwir. Disgwylir y bydd lleiafswm o 26 o ddisgyblion yn yr Ysgol yn y flwyddyn academaidd 2016/17 a 29 yn y flwyddyn academaidd 2017/18. Gan mai dyna yw’r sefyllfa, ody’r Cyngor yn dal o’r farn y dylai’r ysgol gau?

Cofnodion:

Mae dogfen y Cyngor yn datgan mae 19 o ddisgyblion sy’ yn Llanedi ac “amcangyfrifir y bydd nifer y disgyblion yn aros yn gyson gyda dim gobaith gwirdroi’r duedd”. Nid dyna’r gwir. Disgwylir y bydd lleiafswm o 26 o ddisgyblion yn yr Ysgol yn y flwyddyn academaidd 2016/17 a 29 yn y flwyddyn academaidd 2017/18. Gan mai dyna yw’r sefyllfa, ody’r Cyngor yn dal o’r farn y dylai’r ysgol gau?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Rwy’n credu bod eich cwestiwn, Mr Matthews, yn mynd â ni i'r un cyfeiriad â'r cwestiwn a ofynnwyd gan Mrs. Elinor Williams. Rwy’n derbyn eich bod yn anghytuno â'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, i'w ystyried yn Eitem 6. Cyn belled ag y gallaf ei ragweld, mae nifer y teuluoedd ifanc a allai symud i fyw yn y tai newydd arfaethedig yn berthnasol iawn i ddyfodol yr ysgol. O ganlyniad, mae'n bwysig iawn bod hyn yn cael ei werthuso cyn bod unrhyw argymhellion yn cael eu gwneud gennym.

 

4.4

CWESTIWN GAN DAWN RICHARDS, FFRINDIADU YSGOL LLANEDI

Os bydd digsyblion ysgol Llanedi’n cael eu symud i’r Hendy, yn syml iawn, byddai gan ein plant llai o ofod a chymhareb uwch o ddisgyblion i staff wedi eu cartrefu mewn adeilad h?n. Sut mae’r cyngor yn meddwl bod y newid hwn yn mynd i elwa plant ysgol Llanedi a fel ym marn y cyngor bydd y newid yn cyfoethogi trefniant bugeiliol plant ysgol Llanedi. Gall y cyngor brofi i ni fel rhieni bydd ein plant yn well eu byd o’r herwydd?

Cofnodion:

Os bydd disgyblion ysgol Llanedi’n cael eu symud i’r Hendy, yn syml iawn, byddai gan ein plant llai o ofod a chymhareb uwch o ddisgyblion i staff wedi eu cartrefu mewn adeilad h?n. Sut mae’r cyngor yn meddwl bod y newid hwn yn mynd i elwa plant ysgol Llanedi a fel ym marn y cyngor bydd y newid yn cyfoethogi trefniant bugeiliol plant ysgol Llanedi. Gall y cyngor brofi i ni fel rhieni bydd ein plant yn well eu byd o’r herwydd?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Diolch i chi hefyd am eich cwestiwn. Hoffwn eich cyfeirio ar yr adeg hon at yr adroddiad yn Eitem 6 lle nodir gwahanol opsiynau. Er bod manteision ac anfanteision i bob un o'r opsiynau a restrir, rwy’n credu bod angen i ni fel Pwyllgor weld yr ysgolion drosom ni ein hunain unwaith yn rhagor, cyn y gallwn wneud unrhyw argymhellion.

4.5

CWESTIWN GAN Y CYNG. GARETH THOMAS, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

Mae deuddeg o ddisgyblion yn Ysgol Llanedi’n teithio i’r ysgol o tu allan i’r dalgylch. A yw’r cyngor yn cytuno bod hyn yn awgrymu bod gan Ysgol Llanedi nodweddion arbennig ac unigryw i’w gynnig, nad yw ysgolion eraill yr ardal yn gallu gynnig?

Cofnodion:

Mae deuddeg o ddisgyblion yn Ysgol Llanedi’n teithio i’r ysgol o tu allan i’r dalgylch. A yw’r cyngor yn cytuno bod hyn yn awgrymu bod gan Ysgol Llanedi nodweddion arbennig ac unigryw i’w gynnig, nad yw ysgolion eraill yr ardal yn gallu gynnig?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Mae'r cwestiwn hwn yn codi pwynt diddorol unwaith eto. Un o'r ffactorau sy'n effeithio ar nifer y plant mewn unrhyw ysgol yw dewis rhieni. Rydym yn gwybod bod y rhesymau dros y penderfyniadau hyn yn amrywio, ac rwyf yn credu y byddai o gymorth mawr i ni pe baem yn cael mwy o wybodaeth ynghylch pam y mae rhieni'r 12 disgybl yn credu bod Ysgol Gynradd Gymunedol Llanedi yn cynnig dimensiwn unigryw, nad yw'n bodoli mewn ysgolion eraill yn yr ardal. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech annog y rhieni hyn i anfon eu sylwadau atom.

4.6

CWESTIWN GAN DYLAN JONES, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

O fod wedi symud i Lanedi yn ddiweddar rydym wedi ein siomi o’r ochr ore gyda’r cynnydd a wnaeth eim merch mewn cyfnod byr o’i gymharu a’i hysgol blaenorol lle roedd yn un o 34 ac yn ymlwybro gyda chyrhaeddiadau canolig, ond heb geal ei herio mewn unrhyw ffordd. Sut mae’r Cyngor Sir yn bwriadu monitro cynydd ein plant – nid yn unig yn erbyn y fframwaith o gyfnode allweddol ond hefyd i gymharu cynydd a chyrhaeddiad cyn ac ar ol y cau arfaethedig er mwyn sicrhau bod datblygiad ein plant  heb ddioddef neu gael ei lesteirio?

Cofnodion:

O fod wedi symud i Lanedi yn ddiweddar rydym wedi ein siomi o’r ochr ore gyda’r cynnydd a wnaeth eim merch mewn cyfnod byr o’i gymharu a’i hysgol blaenorol lle roedd yn un o 34 ac yn ymlwybro gyda chyrhaeddiadau canolig, ond heb geal ei herio mewn unrhyw ffordd. Sut mae’r Cyngor Sir yn bwriadu monitro cynnydd ein plant - nid yn unig yn erbyn y fframwaith o gyfnode allweddol ond hefyd i gymharu cynnydd a chyrhaeddiad cyn ac ar ôl y cau arfaethedig er mwyn sicrhau bod datblygiad ein plant  heb ddioddef neu gael ei lesteirio?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant 

 

Cyn ateb eich cwestiwn, hoffwn ddweud pa mor falch yr wyf o glywed bod eich merch yn gwneud cynnydd rhagorol, ac mae'n amlwg ei bod yn hapus yn yr ysgol. Gallaf eich sicrhau bod safonau addysgu a chyflawniad disgyblion o ddiddordeb mawr i'r Pwyllgor hwn, ac ein bod yn monitro datblygiad a pherfformiad ysgolion yn rheolaidd. Mae swyddogion yn casglu ac yn crynhoi deilliannau'r dysgwyr yn rheolaidd ac yn systematig er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu monitro a’u gwella'n barhaus ar draws yr holl bynciau craidd. Byddai hyn yn parhau cyn ac ar ôl cau unrhyw ysgol, er mwyn sicrhau bod deilliannau'r dysgwyr yn cael eu monitro'n rheolaidd ac nad yw symud ysgol yn effeithio arnynt. Caiff y canfyddiadau sy'n deillio o waith yr Ymgynghorwyr Her eu cyflwyno i ni'n rheolaidd a'u rhannu â chyrff llywodraethu ysgolion hefyd. Yn ogystal, rydym yn cynnal ymweliadau ag ysgolion sy'n rhoi cyfle i ni drafod perfformiad a safonau yn uniongyrchol â phenaethiaid. Ym mis Tachwedd 2014, sefydlodd y Cyngor Banel Gwella Ysgolion hefyd, sy'n ffordd o roi golwg gyffredinol inni ar gyflawniadau ysgolion unigol.

4.7

CWESTIWN GAN ELINOR WILLIAMS, FFRINDIAU YSGOL LLANEDI

Mae’r cyfleusterau yn yr Hendy yn cael eu hystyried o’r un safon â’r rhai yn ysgol Llanedi. Byddem yn dadlau bod yr amodau yn yr Hendy yn waeth a felly mae cynnig i symud plant o Llanedi i’r Hendy ddim yn golygu bydd ein plant yn elwa o gyfleusterau gwell. Pa gynlluniau sydd gan y Cyngor i neud gwelliannau i’r adeiladau a chyfleusterau yn ysgol yr Hendy er mwyn cyfoethogi’r cyfleon addysgiadol? Beth yw’r amserlen ar gyfer y gwelliannau a faint o gyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y pwrpas hwn yng nghyllideb y flywddyn nesaf?

Cofnodion:

Mae’r cyfleusterau yn yr Hendy yn cael eu hystyried o’r un safon â’r rhai yn ysgol Llanedi.  Byddem yn dadlau bod yr amodau yn yr Hendy yn waeth a felly mae cynnig i symud plant o Llanedi i’r Hendy ddim yn golygu bydd ein plant yn elwa o gyfleusterau gwell. Pa gynlluniau sydd gan y Cyngor i neud gwelliannau i’r adeiladau a chyfleusterau yn ysgol yr Hendy er mwyn cyfoethogi’r cyfleon addysgiadol? Beth yw’r amserlen ar gyfer y gwelliannau a faint o gyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y pwrpas hwn yng nghyllideb y flywddyn nesaf?

 

Ymateb y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant

 

Mae eich pryderon yn rhai hynod ddilys.  Rwy’n cofio aelodau'r Pwyllgor hwn yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol yr Hendy ym mis Hydref 2011, ac, yn dilyn yr ymweliad hwnnw, gwn fod llawer iawn o waith gwella ac adnewyddu wedi cael ei wneud. Fodd bynnag, mae eich pryder yn awgrymu'n gryf i mi y byddai trefnu ymweliad arall yn fuddiol i ni fel Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Cyfeillion Ysgol Llanedi am eu cwestiynau a'u cyfraniad at y cyfarfod.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf, i'w gynnal ar 14eg Mai 2016. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 14eg Ebrill 2016.

6.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD LLANEDI pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd D.J.R. Bartlett wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanedi a chychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod Tymor yr Haf 2016. Dywedwyd pe byddai penderfyniad i ymgynghori yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, y byddid wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Craffu –Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion a oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd dirywiad graddol wedi bod yn nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanedi, o 33 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2010 i 18 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2015, gan olygu bod 51% o leoedd gwag yn yr ysgol. Yn dilyn ymadawiad y Pennaeth parhaol diwethaf ym mis Rhagfyr 2013, roedd yr ysgol wedi wynebu heriau ac ansicrwydd ynghylch cyflawni swydd yr uwch-arweinydd.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Gan nad oedd disgwyl i nifer y disgyblion gynyddu’n sylweddol yn y dyfodol, ac o gofio’r heriau parhaus a oedd yn wynebu'r ysgol i sicrhau uwch-arweinyddiaeth barhaol, nid oedd modd cynnal y trefniadau presennol. Hefyd, roedd yr Adran o'r farn, o safbwynt addysgol, fod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn.

 

Cafodd y sylwadau canlynol eu gwneud wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd bod materion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn ogystal â'r rhai a godwyd gan Gyfeillion yr Ysgol, a fyddai'n ei gwneud yn anodd i'r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol, heb fod gwybodaeth bellach yn cael ei chyflwyno. Cyfeiriwyd at yr ystadau tai newydd yn yr ardal, yn ogystal â chategori iaith presennol Ysgol yr Hendy. Pe byddai rhieni a oedd yn symud i'r cartrefi newydd am gael addysg cyfrwng Cymraeg, ni fyddai Ysgol yr Hendy yn cynnig hyn, a byddai'r sefyllfa'n groes i bolisi iaith y Cyngor ei hun. Y teimlad oedd y byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth i'r materion hyn ynddynt eu hunain, yn ogystal â'r defnydd o gyfleusterau'r ysgol gan y gymuned. 

 

Cyfeiriwyd at raglen ymweliadau ysgolion y Pwyllgor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD BANCFFOSFELEN pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd G.O. Jones (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant) wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Bancffosfelen a chychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod Tymor yr Haf 2016. Dywedwyd pe byddai penderfyniad i ymgynghori yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, y byddid wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd dirywiad graddol wedi bod yn nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Bancffosfelen, o 48 ar y gofrestr ym mis Ionawr 2011 i 35 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2016, gan olygu bod 64% o leoedd gwag yn yr ysgol. Ers i'r Pennaeth adael adeg y Pasg 2014, nid oedd Pennaeth parhaol wedi'i gyflogi yn yr ysgol, er bod trefniant anffurfiol rhwng Cyrff Llywodraethu Pontyberem a Bancffosfelen i wasanaeth cyflenwi rhan-amser (0.2) gael ei ddarparu gan Bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Pontyberem.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Hefyd, roedd yr Adran o'r farn, o safbwynt addysgol, fod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod yr eitem yn cynnwys ymateb i'r cynnig gan Gorff Llywodraethu Bancffosfelen ar ffurf adroddiad dwyieithog a oedd wedi'i gynnwys i'r aelodau ei ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wrth y Pwyllgor fod 23 o lythyrau wedi dod i law hyd yn hyn a wrthwynebai'r cynnig i gau'r ysgol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant hefyd ei fod wedi cael y ddeiseb yr oedd Cyfeillion yr Ysgol wedi ei chyflwyno, cyn dechrau'r cyfarfod.

 

Cafodd y sylwadau canlynol eu gwneud wrth ystyried yr adroddiad:

 

Yn yr un modd â'r sefyllfa yn Llanedi, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ymweld ag Ysgolion Bancffosfelen a Phontyberem cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynigion hyn.

 

Awgrymwyd, pe byddai'r Cyngor yn penderfynu cau'r ysgol, y dylai ystyried dyrannu'r dalgylch i ysgolion cyfagos eraill, os oeddent yn agosach i’r disgyblion. O  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I GAU YSGOL LLANMILOE, YSGOL GYNRADD WIRFODDOL RHEOLEDIG TREMOILET AC YSGOL WIRFODDOL RHEOLEDIG TALACHARN A CHREU YSGOL ARDAL NEWYDD pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Llanmilo, Ysgol Wirfoddol a Reolir Tremoilet, ac Ysgol Wirfoddol a Reolir Talacharn, a chreu ysgol ardal newydd. Pe bai'n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddai'r ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn cychwyn yn ystod Tymor yr Haf 2016. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, pe bai'r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo penderfyniad i ymgynghori, y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno wedyn i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd gostyngiad wedi bod yn nifer y disgyblion a fynychai ysgolion gwledig fel ysgolion cynradd Tremoilet, Llanmilo a Thalacharn, ac ar sail y data presennol a oedd ar gael, nid oeddid yn rhagweld y byddai newid sylweddol yn y duedd hon. Byddai gostyngiad yn niferoedd y disgyblion ar draws yr ysgolion yn creu rhagor o heriau addysgol ac ariannol, yn enwedig cynnal cymarebau disgybl/athro er mwyn darparu cwricwlwm effeithiol ar gyfer yr holl ddysgwyr. Roedd ystod o drefniadau 'ffedereiddio meddal' wedi bodoli rhwng y tair ysgol dros gyfnod o amser ac wedi galluogi ac amlygu manteision lefelau uwch o gydweithio rhwng ysgolion. Fodd bynnag, roedd y trefniadau hefyd wedi amlygu heriau a breuder modelau o'r fath, ac roedd y canfyddiadau hyn wedi atgyfnerthu'r angen am ddull mwy ffurfiol a datrysiad cynaliadwy i wasanaethu anghenion addysgol tymor hwy yn yr ardal hon.  Hefyd roedd recriwtio Penaethiaid yn her i ysgolion bach fel Llanmilo a Thremoilet.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Hefyd, gan nad oedd unrhyw argoel o welliant sylweddol yn niferoedd y disgyblion yn yr ardal hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, ac o gofio’r heriau parhaus a wynebai dwy o'r ysgolion i sicrhau uwch arweinyddiaeth barhaol, roedd yr Adran o’r farn na fyddai'n ddichonadwy cynnal y trefniadau presennol.

 

Hefyd nododd y Pwyllgor ei bod wedi cael ei nodi, yn dilyn adolygiad o Ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar Sir Gaerfyrddin, nad oedd ardal ddaearyddol Tremoilet/Llanmilo a Thalacharn yn gallu cynnig Hawliau Dysgwyr Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd. Fodd bynnag, pe byddai cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai'r ddarpariaeth hon ar gael i blant yn yr ardal hon.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor fod yr Esgobaeth leol yn bryderus ynghylch yr heriau difrifol yr oedd yr ysgolion dan sylw yn eu hwynebu, ac roedd o'r farn bod angen sefydlogrwydd yn y maes hwn a bod y cynnig i'w  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf blwyddyn ariannol 2015/16 fel yr oeddynt ar 31 Rhagfyr 2015 ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Rhoddwyd gwybod i mi fod y rhagolwg diweddaraf hwn ynghylch y gyllideb refeniw yn dangos gorwariant sylweddol o £1,269,000 ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch y costau parhaus a oedd yn gysylltiedig ag ymddeoliad gwirfoddol cynnar a dileu swyddi (£1,072,000) a gofynnwyd a oedd gan yr Adran gronfeydd wrth gefn i dalu'r rhain. Mynegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei siom ynghylch y gorwariant a dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai'r sefyllfa hon yn golygu na fyddai gan yr Adran gronfeydd wrth gefn yn weddill. Dywedodd hefyd fod yr Adran bellach yn gweld bod y pwysau cyllidebol yn cael effaith ar y gwasanaethau. Roedd hon yn her ddifrifol i swyddogion, ac roedd rhai cynigion yn cael eu llunio i geisio lleddfu'r pwysau hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn yr adroddiad.

10.

CANLYNIADAU CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL YSGOLION SIR GAERFYRDDIN 2016 pdf eicon PDF 368 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Cryno am Gategoreiddio Ysgolion ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin yn 2016. Roedd yr wybodaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad yn tynnu sylw at sefyllfa ysgolion y sir ar hyn o bryd, yn ogystal â meysydd i'w gwella. Ar y cyfan, nododd y Pwyllgor fod cyfran yr ysgolion yn y categori Gwyrdd neu Felyn ar draws Sir Gaerfyrddin 8% yn uwch o gymharu â 2014/15, a bod mwy na thri chwarter (77%) yr ysgolion yn y categori Gwyrdd neu Felyn bellach. Roedd cyfran yr ysgolion Gwyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 2% o gymharu â 2014/15, ac roedd 26 (23%) o'r ysgolion wedi'u categoreiddio'n rhai Ambr, ond nid oedd yr un ysgol wedi'i chategoreiddio'n Goch. Dywedodd y Pwyllgor mai'r gwelliant mwyaf yn 2015/16 oedd nifer yr ysgolion a oedd wedi symud o'r categori Ambr i'r categori Melyn.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hunanwerthusiad yr ysgolion eu hunain, bu i'r Prif Swyddog Addysg gydnabod bod ysgolion yn gwella i'r perwyl hwn, ac, yn dilyn cyfarwyddeb newydd gan Gynulliad Cymru, roedd seminar wedi'i chynnal gyda'r Penaethiaid er mwyn rhannu a thrafod arfer gorau. Roedd swyddogion yn falch o weld bod mwy o gysondeb rhwng ysgolion a bod penaethiaid yn cyfathrebu â'i gilydd ar y mater hwn. Hefyd dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wrth y Pwyllgor fod seminar ar gyfer llywodraethwyr ysgolion wedi'i threfnu ar gyfer 15 Mawrth 2016, a fyddai'n rhoi pwyslais penodol ar greu a gweithredu hunanasesiad effeithiol. 

 

Mynegwyd pryder nad oedd llywodraethwyr, yn gyffredinol, yn ymwybodol o'r broses gategoreiddio a sut yr oedd yn gweithio. Gofynnwyd a ddylai fod gan lywodraethwyr penodol gyfrifoldeb am gategoreiddio’r ysgolion, a dywedwyd y dylai pob llywodraethwr gael cyfle i drafod hyn yn rheolaidd.  Bu i'r Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion gydnabod y sylwadau, a dywedodd wrth y Pwyllgor fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan ei bod yn ofynnol, yn ôl yr agenda genedlaethol, i lywodraethwyr gael rhagor o hyfforddiant. Ychwanegodd y dylai penaethiaid, bob tymor, fod yn cyflwyno gwybodaeth i'r llywodraethwyr am y broses gategoreiddio a'r camau gwahanol a gymerwyd i bennu gwahanol gategorïau i ysgolion, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am yr ymweliadau gan swyddogion ERW bob tymor. Awgrymodd y dylai categoreiddio fod yn eitem reolaidd ar agendâu cyfarfodydd llywodraethwyr.

 

Cyfeiriwyd at ddefnyddio penaethiaid profiadol fel 'ymgynghorwyr her' a gofynnwyd a oedd y broses hon yn gynaliadwy mewn amodau ariannol o'r fath, yn enwedig gan fod y dull hwn yn rhoi baich ychwanegol ar yr 'ysgol a oedd yn anfon' ac ar lwyth gwaith y pennaeth. Rhoddodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai angen 'tîm craidd' ar ERW o hyd, ac mai cael cydbwysedd oedd y nod. Roedd defnyddio penaethiaid profiadol yn sicrhau bod arfer da yn cael ei rannu, ac roedd hynny o fudd i'r ymgynghorydd her yn ogystal â'r ysgol yr oedd yn ymweld â hi. Dywedodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL GYNRADD BETWS O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r arsylwadau a oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghori a fu mewn perthynas â newid ystod oedran Ysgol Gynradd Gymunedol y Betws o 4-11 oed i 3-11 oed.  Dywedwyd nad oedd yr un gwrthwynebiad wedi dod i law'r rhanddeiliaid ers diwedd cyfnod yr Hysbysiad Statudol. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cynnig hwn, yn ogystal â'r cynigion eraill ar gyfer newidiadau i ystodau oedran ysgolion, yn cael ei ystyried o dan yr hen broses o bennu trefniadaeth ysgol, am fod y cynigion wedi’u cychwyn cyn i’r Cyngor Sir gadarnhau'r broses newydd yn nhymor yr hydref 2015. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

11.1    Derbyn yr adroddiad.

 

11.2    Argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch gweithredu'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Betws o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

12.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL GYNRADD PEN-BRE O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r arsylwadau a oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghori a fu mewn perthynas â newid ystod oedran Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-Bre o 4-11 oed i 3-11 oed.  Dywedwyd nad oedd yr un gwrthwynebiad wedi dod i law'r rhanddeiliaid ers diwedd cyfnod yr Hysbysiad Statudol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

12.1   Derbyn yr adroddiad.

 

12.2    Argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch gweithredu'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-Bre o 4-11 oed i 3-11 oed.

13.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL GYNRADD PWLL O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r arsylwadau a oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghori a fu mewn perthynas â newid ystod oedran Ysgol Gynradd Gymunedol y Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed. Dywedwyd nad oedd yr un gwrthwynebiad wedi dod i law'r rhanddeiliaid ers diwedd cyfnod yr Hysbysiad Statudol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

13.1    Derbyn yr adroddiad.

 

13.2    Argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch gweithredu'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd y Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

14.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL GYNRADD Y BYNEA O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r arsylwadau a oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghori a fu mewn perthynas â newid ystod oedran Ysgol Gynradd Gymunedol Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed. Dywedwyd nad oedd yr un gwrthwynebiad wedi dod i law'r rhanddeiliaid ers diwedd cyfnod yr Hysbysiad Statudol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch nifer yr ysgolion yn y sir ag ystod oedran o 3-11, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod gan tua 40% o ysgolion y sir ystod oedran o’r fath. Bu iddo atgoffa’r Pwyllgor fod y pedair ysgol a oedd yn cael eu hystyried yn y cyfarfod mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, ac y byddai hyn yn sicrhau cyfnod pontio esmwyth o’r blynyddoedd cynnar i addysg ffurfiol. Roedd yr ardaloedd Dechrau’n Deg wedi’u targedu’n ddaearyddol, ac felly, nid oedd modd ailddosbarthu’r cyllid cysylltiedig i ardaloedd eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

14.1    Derbyn yr adroddiad.

 

14.2    Argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch gweithredu'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed.

15.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

16.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 21AIN O IONAWR 2016 pdf eicon PDF 324 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a oedd wedi ei gynnal ddydd Iau, 21ain Ionawr 2016 yn gywir.