Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 22ain Rhagfyr, 2016 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. James a J. Williams, yn ogystal â Mrs. E. Heyes a Mrs. A. Pickles (Rhiant-lywodraethwyr). 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd D.J.R Bartlett

 

 

Eitemau 6 – 10

 

Ef yw Llywydd Cangen

Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

 

Y Cynghorydd C.A. Campbell

 

 

Eitemau 6 – 10

 

 

Ar hyn o bryd mae'n gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

 

Y Cynghorydd M.J.A. Lewis

 

 

Eitemau 6 – 10

 

 

Hi yw Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor y dylid nodi'r eitemau a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf sef ar ddydd Iau, 26 Ionawr 2017.

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 TAN 2019/20 pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i’r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i’r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18 hyd at 2019/20 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Roedd yr adroddiad yn rhoi’r sefyllfa bresennol i’r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion o anghenion gwariant, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016. Roedd hwn yn well na’r hyn a ddisgwylid yn gyffredinol mewn llywodraeth leol ac roedd yn sefyllfa well na chynllun rhagolygon cyllidebol gwreiddiol yr Awdurdod. Dywedwyd wrth yr aelodau bod y setliad terfynol wedi dod i law y diwrnod blaenorol ac y byddai’r Cyngor yn elwa o swm net ychwanegol o £382,000. Fodd bynnag, roedd y cyllid ychwanegol yn gysylltiedig â dyletswyddau y byddai disgwyl i’r Awdurdod eu cyflawni mewn perthynas â digartrefedd.  

 

Rhoddwyd gwybod hefyd i’r Pwyllgor bod y cynigion ar gyfer y gyllideb yn rhagdybio y byddai’r £24.6m o arbedion a nodwyd a chynnydd o 2.5% yn y Dreth Gyngor yn cael eu cyflwyno’n llawn. Byddai newid o 1% yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i +/-£790,000.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â’r hyn oedd yn ymddangos fel diffyg arian wrth gefn a fydd gan ysgolion o fis Mawrth 2018 ymlaen. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y ffaith bod ysgolion yn defnyddio eu harian wrth gefn i dalu am eu trafferthion ariannol presennol a bod angen adolygu polisi arian wrth gefn yr Awdurdod. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod pryderon yr aelodau ond nododd fod yr adroddiad yn seiliedig ar y data a oedd ar gael neu a oedd wedi cael ei roi gan yr ysgolion eu hunain. Nid oedd y ffaith nad oedd yna ffigurau ar hyn o bryd wedi’u rhagamcanu ar gyfer 2018 ymlaen yn adlewyrchiad cywir o’r sefyllfa debygol, ond yn hytrach yn adlewyrchu’r ffaith nad oedd yr ysgolion yn gallu rhagfynegi eu gweddillion ariannol mor bell â hynny i’r dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at orwariannau adrannol a’r risg na fyddai rhyw £1.8m o’r cynigion effeithlonrwydd gwreiddiol ar gyfer 2016/17 yn cael eu cyflwyno’n llawn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, Mynegwyd pryder hefyd ynghylch gorwariant yr adran Addysg a Phlant y bu’r Pwyllgor yn ei fonitro drwy gydol y flwyddyn, a holwyd pam nad oedd modd i hyn gael ei ddatrys a pham y caniatawyd i bethau fynd i’r sefyllfa honno yn y lle cyntaf. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod y sylwadau ond nododd fod y ffigurau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i’r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i’r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd ar gyfer 2017/18 hyd at 2021/22 (Atodiad A) a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Nodwyd y byddai’r adborth o’r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol y gyllideb a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r aelodau i’w ystyried ym mis Chwefror 2017. Nododd y Pwyllgor mai nod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, sydd werth £208 miliwn dros y 5 mlynedd, oedd cyflawni nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â pham oedd Talacharn wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg pan nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud mewn perthynas â dyfodol yr ysgolion yn yr ardal hon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wrth y Pwyllgor ei fod wedi’i gynnwys fel bod modd gwneud gwaith ailbroffilio, pe bai’r cynigion ar gyfer ysgolion yr ardal yn mynd rhagddynt a bod angen estyniad newydd i gynnwys mwy o ddisgyblion.

 

Nodwyd bod Gors-las bellach wedi’i gynnwys yn y rhaglen a bod ysgol newydd i gael ei hadeiladu yn y dyfodol agos, er mai barn y Pwyllgor oedd bod yna lawer o ysgolion eraill mewn angen dybryd am gyfleusterau newydd. Soniodd yr aelodau am eu hymweliad â’r Hendy yn gynharach yn y flwyddyn gan fynegi eu pryder yngl?n â’r ffaith nad oedd yr ysgol hon wedi’i chynnwys yn y rhaglen er eu bod o’r farn bod angen adeilad newydd yno.  Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro yn cydnabod pryderon y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd ar gyfer 2017/18 hyd at 2021/22.

8.

CYNLLUN BUSNES YR ADRAN ADDYSG A PHLANT 2017-20 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i'r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i'r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft yr Adran Addysg a Phlant ar gyfer 2017-20 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut y byddai'n cefnogi 'pum ffordd o weithio' a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Croesawyd parodrwydd yr Adran i gydnabod heriau a meysydd i'w gwella. Awgrymwyd hefyd bod rhaid i'r adran ddelio â chymaint o faterion cymdeithasol eraill a rhoi sylw iddynt, a oedd yn eu tro yn gwanhau pwrpas traddodiadol a phrif bwrpas yr adran ac ysgolion y Sir ac yn effeithio arnynt yn ariannol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gymeradwyo'r Cynllun Busnes ar gyfer 2017-20.

9.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i'r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i'r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Derbyniodd y Pwyllgor fersiwn drafft o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn dilyn cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ar 19 Rhagfyr 2016, er mwyn rhoi ystyriaeth iddo. Atgoffwyd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg er mwyn cydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru (2013). Gan fod agenda'r cyfarfod wedi'i gyhoeddi cyn diwedd cyfnod yr ymgynghoriad, rhoddwyd trosolwg ar lafar i'r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod yn amlinellu'r themâu cyffredinol a materion sy'n codi o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Derbyniwyd cyfanswm o 20 o ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at yr angen i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd mewn addysg ac roedd Gweithgor Cyfrifiad y Cyngor - yr Iaith Gymraeg wedi tynnu sylw at y mater hwn ac wedi gwneud argymhellion yngl?n â hyn yn ei adroddiad terfynol.   Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cydnabod bod angen i'r gwaith hwn gael ei barhau ond rhoddodd sicrwydd i'r aelodau bod llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud ar y cyd ag Uned Polisi Corfforaethol y Cyngor wrth baratoi ymgyrch hyrwyddol a allai gael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd.

 

Cyfeiriwyd at y nifer o ddisgyblion nad ydynt yn parhau ar hyd y continwwm iaith mewn ysgol uwchradd pan fyddant yn gadael ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg. Mynegwyd siom ynghylch y niferoedd bychan o ddisgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyfnodau allweddol hwyrach a thra bod hyn wedi bod yn destun cryn drafod ers nifer o flynyddoedd, mae'r bwlch yn dal i fod heb gael ei leihau. Nododd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod yna ddarpariaeth ym mhob un o'r 'Canlyniadau' sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen ddrafft i fynd i'r afael â hyn a'i gwneud yn fwy naturiol i groesi o un cyfnod allweddol i'r llall.  Roedd yna gynnig hefyd i roi fforwm ar waith ar lefel ERW er mwyn mynd i'r afael â'r mater ymhellach. 

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys manteision dwyieithrwydd o safbwynt iechyd yr unigolyn yn y Cynllun hefyd, a chyfeiriwyd at ganfyddiadau'r corff o ymchwil rhyngwladol a oedd yn dynodi bod y gallu i siarad mwy nag un iaith yn lleddfu effeithiau clefyd Alzheimers am tua phum mlynedd, o gymharu â'r rheiny a oedd yn siarad un iaith yn unig.

 

Awgrymwyd hefyd y dylid newid y cymal 'byddwn yn mynd ati'n barhaus gyda'n partneriaid i fonitro'r galw yn ein hardaloedd trefol ac ehangu'r ddarpariaeth yn ôl yr angen' i 'hyrwyddo'n barhaus' gan y dylai'r Awdurdod fod yn hyrwyddo'r iaith yn hytrach nag aros am alwad am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

DATGANIAD CWRICWLWM DRAFFT SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i’r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i’r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad yn amlinellu cydrannau arfaethedig cwricwlwm i’w gynllunio’n lleol a chynigiodd fersiwn drafft o’r egwyddorion lefel uchel ar ffurf Datganiad Cwricwlwm Drafft Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod y byddai’r cynllun hwn, yn amodol ar gymeradwyaeth gorfforaethol, yn cael ei ddatblygu ymhellach mewn rhaglen dreigl rhwng 2017 a 2021, gan gynnwys ymarferwyr ysgolion ar bob cam o’r broses.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y cyflwyniad:

 

Cyfeiriwyd at y seminar diweddar i aelodau a gofynnwyd a fyddai yna sesiynau pellach yn cael eu cynnal yn fuan. Cadarnhaodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr y byddai rhagor o sesiynau yn cael eu cynnal unwaith y bydd manylion ac arweiniad pellach ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rhagwelwyd hefyd y byddai seminar yn cael ei chynnal gyda chyflogwyr lleol hefyd i gysylltu cwricwlwm y dyfodol â’u hanghenion a bod o fudd economaidd i’r sir.

 

Croesawyd yr hyblygrwydd arfaethedig i ddarparu ar gyfer anghenion lleol a hyrwyddo hanes lleol a gofynnwyd a yw ysgolion cynradd ar hyn o bryd yn rhoi digon o bwyslais ar hanes Cymru er mwyn i bobl ifanc leol a’r rheiny a allai fod wedi symud i’r ardal gael ymdeimlad o’u gwreiddiau a’u hanes. Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cytuno, a dywedodd ei bod yn bwysig bod plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi pwy oeddent a bod gwerthoedd yn cael eu gosod ynddynt a fyddai o fudd iddynt yn y dyfodol. Roedd yn cydnabod bod yna faterion pwysig iawn a lleol a materion hanesyddol a allai gael eu cynnwys yn y cwricwlwm ond ei bod hi hefyd yn bwysig peidio â chreu pobl ifanc fewnblyg ond yn hytrach meithrin gwerthfawrogiad o dreftadaeth Cymru a dymuniad i gyfrannu fel dinasyddion byd-eang.  Ychwanegodd fod y bardd lleol Mererid Hopwood wedi cael gwahoddiad i annerch Ymgynghorwyr Her ERW ynghylch yr agwedd benodol hon ar y cwricwlwm newydd mewn seminar yn y flwyddyn newydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gwaith presennol a wneir gan yr adran i feithrin a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud yn y maes hwn a bod gan y Sir nifer o adnoddau ardderchog a oedd yn cael eu defnyddio gan ysgolion.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd yn yr Alban a’r bwlch o ganlyniad rhwng yr hyn a ddysgwyd mewn ysgolion a’r fframwaith asesu. Gofynnwyd pa fesurau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru. Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cydnabod y pryder a dywedodd wrth y Pwyllgor fod is-gr?p eisoes wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor i nodi'r eglurhad dros beidio â chyflwyno adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR YR 10FED O HYDREF 2016 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Mr. Gareth Morgans ar gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Dros Dro grynodeb i'r Pwyllgor o rai newidiadau i dîm rheoli'r adran a fydd yn golygu bod penaethiaid gwasanaethau ac uwch reolwyr presennol yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol. Byddai rôl Pennaeth y Gwasanaethau Addysg hefyd yn cael ei llenwi trwy drefniant secondiad mewnol a byddai cadarnhad o hyn yn cael ei rannu â'r aelodau maes o law.  Mae rôl y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei helaethu trwy gael cyfrifoldebau ychwanegol am arwain prosiectau yn yr Adran Cymunedau. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun 10 Hydref 2016 yn gywir.