Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhian M Lloyd 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Y BROSES DDEMOCRATAIDD - DULLIAU NEWYDD O WEITHIO PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yn manylu ar sut y mae'r Awdurdod wedi trawsnewid ei ffordd o weithio yn sgil pandemig Covd19.
Er bod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn cynnal pob Cyfarfod Democrataidd yn rhithwir, mae'n bryd ystyried sut y bydd y Broses Ddemocrataidd yn gweithredu yn y dyfodol, hynny yw a ddychwelir i'r hen drefn o ran pawb yn bresennol yn gorfforol (ar ôl y codir y cyfyngiadau), a ddefnyddir cyfuniad o'r ddwy elfen, neu a fydd y cyfarfodydd yn parhau'n rhithwir yn unig. Mae cyfarfodydd democrataidd yn parhau i gael eu cynnal o bell er mwyn parhau i gynnal busnes arferol y Cyngor.
Mae swyddfeydd bellach i raddau helaeth yn wag ar draws yr ystâd ac wrth symud ymlaen mae'r awdurdod yn edrych ar opsiynau i gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, ac yn cydnabod bod yn rhaid iddo drawsnewid ei arferion gwaith ac ystyried sut rydym yn gweithio a faint o le sydd ei angen arnom mewn adeiladu.
Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gynnal adolygiad Gorchwyl a Gorffen o ofynion aelodau er mwyn pennu anghenion aelodau etholedig wrth symud ymlaen â'r ffordd newydd o weithio o ran swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd.
Cafwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Awgrymwyd 5 2 2 1 o ran gr?p gwleidyddol cytbwys o 10 aelod h.y. 5 aelod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 5 aelod ychwanegol
Gofynnwyd am gyngor cyfreithiol i ehangu'r aelodaeth a chadarnhaodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y gellir gosod yr aelodaeth yn ôl yr angen. Wrth ystyried y gwaith y Gr?p, dywedodd y gellid casglu barn yr aelodau drwy wahanol ddulliau, e.e drwy holiaduron neu sesiynau galw heibio rhithwir i gael barn aelodau. Dywedodd Rheolwr y Prosiect yn dilyn derbyn barn yr aelodau h.y. ymgynghori’n ehangach er mwyn ddatblygu a symud ymlaen â'r broses Ddemocrataidd newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac y dylid sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys 10 aelod sy'n wleidyddol gytbwys a fyddai'n cynnwys yn awtomatig aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gysylltu â'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer gweddill yr aelodau yn unol â'r argymhelliad uchod. |
|
PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL - CHWEFROR 2021 PDF 435 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad sy'n gofyn i'r pwyllgor nodi'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gyfer 2021/22.
Bydd penderfyniadau'r Panel yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2021/22, a fydd yn cael ei ystyried yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 19 Mai, 2021.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYNLLUN DATBLYGU AELODAU 2021-22 PDF 422 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yr adroddiad gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2021-22 a'r cynnig ar gyfer pecyn cymorth dysgu i gefnogi'r rhaglen. Rhoddodd wahoddiad i’r pwyllgor i roi sylwadau ar unrhyw ychwanegiadau, materion i'w dileu neu ddiwygiadau i'r cynigion.
Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys y cynnig cychwynnol ar y Model Cynghorydd yr 21ain Ganrif a gyflwynwyd i aelodau yn ôl ym mis Gorffennaf 2019 a bydd yn parhau i fod yn ddull cyfunol a chynhwysol o ddysgu sy'n adlewyrchu gwahanol arddulliau dysgu. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys y ddau faes datblygu penodol a drafodwyd eisoes gydag aelodau: · Sgiliau Sylfaenol - Sgiliau ymarferol a gwybodaeth (mae hyn yn cael ei gynnwys yn y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth dysgu a datblygu presennol) · Sgiliau Perthynol - Sgiliau cysylltiol, digidol a myfyriol (i fod yn effeithiol fel Cynghorydd ar gyfer yr 21ain Ganrif ac wedi'u cynnwys fel rhan o sgyrsiau dysgu).
Bydd y dysgu'n rhan o dair thema i gefnogi aelodau yn eu rôl.
Roedd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yn awgrymu cynhyrchu tudalen bwrpasol ar gyfer aelodau gan roi dealltwriaeth glir iddynt o'u sgiliau dysgu, eu hanghenion a'r ffordd ymlaen. Bydd y dudalen hon ar gael ar y Fewnrwyd a'r Wefan a all hefyd fod yn llwyfan recriwtio ar gyfer aelodau newydd posibl.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu ei bod wedi cysylltu â Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil a bydd yn cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau ei fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ein bod ar hyn o bryd yn aros am ragor o arian gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu cynhyrchu mwy o gynnwys digidol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 5.1 cymeradwyo'r cynnig ar gyfer y Pecyn Cymorth dysgu i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Aelodau. 5.2 cael arddangosiad i weld y dudalen bwrpasol hon ar gyfer aelodau yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
DATBLYGIAD AELODAU - ADOLYGIADAU O DDATBLYGIAD PERSONOL PDF 404 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yr adroddiad yn crynhoi'r broses a fydd yn cael ei harwain gan aelodau ar gyfer cynnal Adolygiadau Datblygiad Personol sy'n bodloni anghenion aelodau ac yn gwahodd mwy o gyfranogiad ac sy'n ystyried y broses a fydd ar gael i bob Aelod Etholedig.
Mae gan Aelodau Etholedig ystod eang o rolau a chyfrifoldebau y disgwylir iddynt ymgymryd â hwy. Bydd y broses o ran yr Adolygiad o Ddatblygiad Personol yn cynorthwyo Aelodau Etholedig i nodi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen i gyflawni'r rolau hyn yn effeithiol.
Mae templedi ar gael i Arweinwyr Grwpiau i gynorthwyo gyda'r adolygiadau ac i nodi y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gadarnhau unrhyw aelodau heb gysylltiad pleidiol gyda'r nod o gwblhau'r holl Adolygiadau Datblygiad Personol erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019-20 PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod blwyddyn ddinesig 2019-20 a nododd, oherwydd bod pob cyfarfod democrataidd wedi cael eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil Covid19, nid oedd yn bosibl cynnal cylch llawn cyfarfodydd Pwyllgor am y flwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac yn cael ei gyhoeddi ar y wefan. |
|
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2021-22 PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad sy'n manylu ar yr eitemau disgwyliedig ar agenda cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2021-22. Roedd hyn yn unol â'r Flaenraglen Waith gan sicrhau bod holl Bwyllgorau priodol yr Awdurdod wedi cyhoeddi'r rhaglenni diweddaraf sy'n eiddo i aelodau'r Pwyllgor.
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gyfle pellach i'r aelodau godi unrhyw eitemau ychwanegol yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR TACHWEDD 30AIN, 2020 PDF 278 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 30ain Tachwedd 2020 gan eu bod yn gywir. |