Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Louvain Roberts.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 12 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYNI'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

5.

MR BERNARD PRICE - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Bernard Price, o Barc Doc y Gogledd, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.  Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Price.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Price yn cael ei ddiddymu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyncael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddiddymu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mr Bernard Price.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded.

 

6.

MISS CHELSEA LOUISE MORSE - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at y cais gan Miss Chelsea Louise Morse o 13 Heol Troserch, Llangennech am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a gofynnodd am ohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Miss Chelsea Louise Morse tan un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

7.

MR DAVID ANDREW JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr David Andrew Jones o 15 Waun Burgess, Caerfyrddin yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.  Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Jones.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr David Andrew Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

R RADOSLAW ANDRZEJ WOJTASIAK - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Radoslaw Andrzej Wojtasiak o 15 Heol Langland, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.  Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Wojtasiak.

 

Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â Mr Wojtasiak, drwy ei gynrychiolydd, ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Wojtasiak yn cael ei ddiddymu. 

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNYWYD y byddai Mr Radoslaw Andrzej Wojtasiak yn cael rhybudd terfynol, gydag argymhelliad ei fod yn mynd ar gwrs rheoli dicter.

 

Rheswm

 

Nid oedd y ffeithiau a gyflwynwyd yn rheswm digonol dros atal neu ddiddymu'r drwydded. 

 

9.

MRS NICOLA JAYNE JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Nicola Jayne Jones, o 88 Stryd Fawr, Caecoed, Llandybïe, Rhydaman yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.  

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod nad oedd Mrs Jones yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor drafod ei chais yn ei habsenoldeb.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mrs Jones.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mrs Jones yn cael ei diddymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mrs Nicola Jones yn cael ei diddymu.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded.

.