Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Roberts a D. E. Williams.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024, gan eu bod yn gywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD
OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
MR CHARLES WYNNE JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Ystyried cais gan Mr Charles Wynne Jones o 90 Waun Burgess, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Charles Wynne Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MISS SAMANTHA BERYL GRIFFITHS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Miss Samantha Beryl Griffiths o 105 Amanwy, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Miss Griffiths.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Griffiths ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. Cafwyd sylwadau ar lafar hefyd gan gynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Miss Griffiths yn cael ei dirymu.
Ar hynny
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyncael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD atal Trwydded Yrru Ddeuol Miss Samantha Beryl Griffiths ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan 30 Mai 2024 er mwyn galluogi Miss Griffiths i ddarparu tystiolaeth feddygol ynghylch ei ffitrwydd i feddu ar drwydded.
Rheswm
Mae'r ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros atal y drwydded ond ni fyddai ei dirymu yn ymateb cymesur.
|
|
MR DANIEL JAMES MORSE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Daniel James Morse o 9 Stryd Robinson Uchaf, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod. .
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Morse yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Morse ac argymhellodd fod trwydded Mr Morse yn cael ei dirymu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Daniel James Morse ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm
Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.
|
|
MR EDWARD WALLACE HERBERT - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Edward Wallace Herbert o 37 Parc y Bryn, Caerfyrddin yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Herbert yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Herbert.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Herbert yn cael ei dirymu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymuTrwydded Yrru Ddeuol Mr Edward Wallace Herbert ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm
Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.
|
|
MR SIMON MARTIN VAUGHAN - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Simon Martin Vaughan o 9 Carregaman Isaf, Rhydaman yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat gyda'r awdurdod.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Vaughan yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Vaughan.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Vaughan yn cael ei dirymu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Simon Martin Vaughan ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm
Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.
|