Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, H. Jones, M.J.A. Lewis, B.D.J. Phillips a L. Roberts.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 ADOLYGIAD O'R BOLISI TRWYDDEDU AC ASESIADAU EFFAITH GRONNOL pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Asesiadau Effaith Gronnol yr Adolygiad o'r Polisi Trwyddedu yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Eglurodd yr adroddiad fod Deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r polisi trwyddedu gael ei adolygu bob pum mlynedd ac Asesiadau Effaith Gronnol (CIAs) bob tair blynedd, er mwyn sicrhau eu bod dal yn briodol. 

Amlinellodd yr adroddiad, fel rhan o'r broses adolygu, fod yr Awdurdod wedi cynnal ymarfer ymgynghori rhwng 30 Mai 2023 ac 8 Awst 2023. Ynghyd ag adolygu'r Asesiadau Effaith Gronnol presennol sydd mewn grym ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ynghylch mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol pellach ar gyfer Maes Nott, Heol y Brenin a Heol y Frenhines, Caerfyrddin.

 

Roedd crynodeb o ganlyniad y broses ymgynghori wedi'i atodi i'r adroddiad ymgynghori.  O ran y dystiolaeth a gyflwynwyd, ystyriwyd y tri opsiwn a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1   mai opsiwn 3 oedd yr opsiwn polisi mwyaf priodol ar gyfer yr Asesiadau Effaith Gronnol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yn Sir Gaerfyrddin orau;

 

3.2 ARGYMELL I'R CYNGOR GYMERADWYO Datganiad Polisi Trwyddedu a oedd yn adlewyrchu opsiwn 3 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 31 HYDREF, 2023. pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2023 yn gofnod cywir.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

6.

MR GARETH LAURENCE WILLIAMS - DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fodGareth Laurence Williams o 56 Is y Llan, Llanddarog yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Mr Williams (a oedd yn mynychu'r cyfarfod o bell) ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Williams yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor fod Mr Gareth Laurence Williams yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol o ran ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

 

7.

MISS GEORGIA ANN WILLIAMS CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Miss Georgia Ann Williams o 30 Parc y Ffordd, Tre Ioan, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Williams (a oedd yn mynychu'r cyfarfod o bell) ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Williams yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Miss Georgia Ann Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

8.

MR SIMON MATTHEW HARDY - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Simon Matthew Hardy o 3 Parc Heol Ddu, Pen y Mynydd, Llanelli yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Mr Hardy ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Hardy yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD atal trwydded Mr Simon Matthew Hardy tan 18 Ebrill 2024 a bod y mater i'w roi gerbron y pwyllgor yn ei gyfarfod y bwriedir ei gynnal ar 18 Ebrill 2024 pan fydd Mr Hardy yn darparu tystiolaeth feddygol ynghylch ei ffitrwydd.

 

Y Rhesymau:

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd Mr Hardy ar hyn o bryd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. Bernid bod hwn yn achos rhesymol dros atal ei drwydded.

 

 

9.

MR DAVID ANDREW JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at y cais ddaeth i law gan Mr David Andrew Jones o 15 Waun Burgess, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  Gan nad oedd Mr Jones yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gofynnodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu am ohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr David Andrew Jones tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

10.

MR NICHOLAS ANDREW RAINFORD - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Nicholas Andrew Rainford o 5 Cae Eithin, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Rainford a chynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Rainford yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Nicholas Andrew Rainford am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau:

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

11.

MRS CERI IRENE EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion: