Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 18fed Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Howell, B.A.L. Roberts a D. Phillps.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 5 MAWRTH, 2024. pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 5 Mawrth 2024 gan eu bod yn gywir.

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI4>

5.

MR LEE JENKINS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu at yr adroddiad yn ymwneud â Mr Lee Jenkins o 89 Stryd Iago, Llanelli sy'n meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.  Gofynnodd am dynnu'r ystyriaeth yn ôl er mwyn cael gwybodaeth ynghylch digwyddiad ers i'r eitem gael ei gosod ar yr agenda.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid tynnu'n ôl ystyriaeth o'r adroddiad yn ymwneud â Mr Lee Jenkins er mwyn cael gwybodaeth ynghylch digwyddiad a fu ers i'r eitem gael ei rhoi ar yr agenda.

6.

MR SIMON MATTHEW HARDY - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Simon Matthew Hardy o 3 Parc Heol Ddu, Pen y Mynydd,  yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod hwn.  Rhoddodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau yn ymwneud ag atal trwydded Mr Hardy.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Mr Hardy ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. 

 

Argymhellodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bod y gwaharddiad ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mr Hardy yn cael ei godi.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD codi'r gwaharddiad ar y Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat Mr Hardy.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded

7.

MR GEOFFREY KARIN DAVIES -TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Geoffrey Karin Davies o 37a Heol Newydd, Dafen, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.   Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â chais Mr Davies.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Mr Davies ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Hardy yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyncael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

  

PENDERFYNWYD bod y Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mr Geoffrey Karin Davies yn cael ei dirymu.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros gyfiawnhau dirymu'r drwydded ac felly nid oedd yn fodlon bod Mr Geoffrey Karin Davies yn berson addas a phriodol i barhau i feddu ar drwydded.