Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 5ed Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Roberts a D. E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 23AIN IONAWR, 2024. pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024, gan eu bod yn gywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

5.

MR CHARLES WYNNE JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Ystyried cais gan Mr Charles Wynne Jones o 90 Waun Burgess, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Charles Wynne Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

6.

MISS SAMANTHA BERYL GRIFFITHS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Miss Samantha Beryl Griffiths o 105 Amanwy, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.  Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Miss Griffiths.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Griffiths ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.  Cafwyd sylwadau ar lafar hefyd gan gynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Miss Griffiths yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyncael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD atal Trwydded Yrru Ddeuol Miss Samantha Beryl Griffiths ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan 30 Mai 2024 er mwyn galluogi Miss Griffiths i ddarparu tystiolaeth feddygol ynghylch ei ffitrwydd i feddu ar drwydded.

 

Rheswm

 

Mae'r ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros atal y drwydded ond ni fyddai ei dirymu yn ymateb cymesur.

 

7.

MR DANIEL JAMES MORSE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Daniel James Morse o 9 Stryd Robinson Uchaf, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod. .

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Morse yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Morse ac argymhellodd fod trwydded Mr Morse yn cael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Daniel James Morse ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.

 

 

8.

MR EDWARD WALLACE HERBERT - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Edward Wallace Herbert o 37 Parc y Bryn, Caerfyrddin yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r awdurdod.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Herbert yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Herbert.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Herbert yn cael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymuTrwydded Yrru Ddeuol Mr Edward Wallace Herbert ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.

 

 

9.

MR SIMON MARTIN VAUGHAN - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Simon Martin Vaughan o 9 Carregaman Isaf, Rhydaman yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat gyda'r awdurdod. 

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Vaughan yn bresennol ac y dylai'r Pwyllgor ystyried yr achos yn ei absenoldeb.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Vaughan.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Vaughan yn cael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Simon Martin Vaughan ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm

 

Roedd y ffeithiau a amlinellwyd i'r Pwyllgor yn rhoi achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.