Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 10fed Ionawr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H. I Jones, D.J.R. Llewellyn a J. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod.

Y Math o Fuddiant

T. Bowen

3 - Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd

T. Bowen

9 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd

 

3.

MR THOMAS JAMES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

(Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd T. Bowen Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar yr eitem hon).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Thomas James o 62 Teras Glyncoed, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr James ynghylch y mater hwnnw. Hefyd, gwahoddodd y Pwyllgor yr achwynwyr i gyflwyno sylwadau ar y dystiolaeth a oedd wedi dod i law.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr James ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei hatal am 7 diwrnod.

 

Yna bu i'r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y gohiriad gwnaeth y Pwyllgor ailymgynnull i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, roi rhybudd terfynol i Mr Thomas James ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau:

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd roedd y Pwyllgor wedi dyfarnu fel a ganlyn:

 

(1)  Pan archebwyd y tacsi rhoddwyd gwybod i Mr James y byddai angen i gadair olwyn gael ei rhoi yng nghist y tacsi.

(2)  Roedd cefn tost gan Mr James a oedd yn ei rwystro rhag codi'r gadair olwyn i gist y car.

(3)  Bu i Mr James gynorthwyo'r achwynydd i sleidro'r gadair olwyn i mewn i'r gist a llwyddodd i dynnu'r gadair mas ar ddiwedd y siwrnai, heb gymorth.

(4)  O wybod bod gan y teithiwr gadair olwyn, dylai Mr James fod wedi anfon tacsi arall i gasglu'r achwynydd. Wrth fethu â gwneud hynny perodd embaras diangen i'r achwynydd.

(5)  Er i Mr James ddarparu tystiolaeth ddibynadwy ynghylch ei broblemau iechyd ef ei hun, roedd ei anallu i anfon tacsi arall yn rheswm da dros roi rhybudd terfynol iddo yn yr achos hwn.

4.

MR MAURICE ALAN CRAYFORD - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Maurice Alan Crayford o 2 Heol Arfryn, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Crayford ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Crayford yn cael ei ganiatáu a bod Mr Crayford yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Maurice Crayford am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

5.

MR LEYTON GEORGE CARVER - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Leyton George Carver o Milton Banc Bungalow, Heol y Cyrnol, Betws, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Carver ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn cael ei roi i Mr Carver.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, roi rhybudd terfynol i Mr Leyton Carver ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

6.

MR MICHAEL MCKENZIE OWEN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Michael McKenzie Owen o Knoll, Meidrim, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Owen ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Owen yn cael ei ganiatáu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Michael Owen am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

7.

MR UMAAR BIN HAMEED - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Umaar Bin Hameed o 34 Parc y Delyn, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hameed ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Hameed yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Umaar Bin Hameed am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

8.

MR CHRISTOPHER ARTHUR JOHN OWEN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Christopher Owen o Tanybryn, Llanllwni, Pencader am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd yn bosibl i Mr Owen fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ei fod ar wyliau a'i fod wedi gofyn i'r Pwyllgor wrando ar y cais yn ei absenoldeb.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael clywed gan Mr Owen yn bersonol ac am i'r cais gael ei ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Christopher Owen am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

9.

MR WAYNE MATHIAS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

(Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd T. Bowen Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar yr eitem hon).

 

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Wayne Mathias o 22 Heol Copperworks, Llanelli, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Mathias ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Mathias yn cael ei wrthod.

 

Yna bu i'r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y gohiriad gwnaeth y Pwyllgor ailymgynnull i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Wayne Mathias am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFORD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 1AF RHAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar y 1af o Ragfyr, 2016 yn gofnod cywir.