Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL Cofnodion: · Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards ac I .J. Jackson; · Safodd yr Aelodau mewn tawelwch yn arwydd o deyrnged er cof am y Cynghorydd Tom Theophilus, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, a oedd wedi marw'n ddiweddar.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DYLAN EVANS PDF 156 KB Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Dylan Wyn Evans, 47 Trewern, Saron, Llandysul am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Evans yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Dylan Wyn Evans am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT MR DAVID WILLIAM SQUIRE PDF 157 KB Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Mr Squire wedi rhoi gwybod i'r Awdurdod na fyddai'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ar y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr David William Squire am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
|
|
DRWYDDED CERBYD HURIO HACNAI PDF 156 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Andrew Paul Roberts, 18 Dyffryn y Swistir, Llanelli am drwyddedu BMW 330D â'r rhif cofrestru BX11 KPK yn Gerbyd Hacnai gyda'r Awdurdod. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Roberts, a oedd yng nghwmni ei gyfreithiwr, ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Roberts yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Andrew Paul Roberts, 18 Dyffryn y Swistir, Llanelli, am drwyddedu BMW 330D â'r rhif cofrestru BX11 KPK yn Gerbyd Hacnai gyda'r Awdurdod.
Y rhesymau · Mae gan y Cyngor bolisi clir na fydd yn rhoi trwydded i gerbydau sy'n h?n na 5 oed; · Ystyriodd y Pwyllgor yn ofalus a ddylai wneud yn groes i'r polisi hwnnw yn yr achos hwn a daeth i'r casgliad na ddylai wneud hynny; · Roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr esboniad a roddwyd am beidio â chyflwyno'r cais cyn pen y cyfnod penodedig yn ddigon i gyfiawnhau gwneud yn groes i bolisi'r Cyngor yn yr achos hwn.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2016 yn gofnod cywir yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd T. Davies yn y rhestr o'r rhai oedd yn bresennol.
|