Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Thomas a M.K. Thomas </AI1>
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||||||||
TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 186 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mrs Julie Michelle Bury, M4 Services, 14 Heol Hendre, T?-croes, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, am ganiatâd i gael ei heithrio o Amodau 5A a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i BMW 218 Gran Tourer ac iddo'r rhif cofrestru M4 4WYR.
Gan ei bod yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo pobl i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol yn unig, yr oedd Mrs Bury wedi gofyn am gael ei heithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddi arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl. Yn y gorffennol yr oedd yr eithriad hwn wedi cael ei ganiatáu i Mrs Bury ar gyfer nifer o gerbydau eraill oedd yn cael eu defnyddio ganddi.
Petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i eithrio Mrs Bury o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, byddai'r Amodau Trwydded canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded:-
(i) bod y BMW 218 Gran Tourer trwyddedig sydd â'r rhif cofrestru M4 4WYR yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth cludo i feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mrs Bury; (ii) petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na gwasanaeth cludo i feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath; (iii) bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mrs Julie Michelle Bury am ganiatâd i gael ei heithrio o Amodau 5A a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i BMW 218 Gran Tourer ac iddo'r rhif cofrestru M4 4WYR, yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
</AI3>
|
|||||||||||||
TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 185 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Philip Ashley Jenkins, 2 Llys Pendderi, y Bryn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i BMW 520 Auto (Ystad) ac iddo'r rhif cofrestru CP16 AUA.
Gan fod Mr Jenkins yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo dethol yn unig, yr oedd wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl. Yn y gorffennol yr oedd yr eithriad hwn wedi cael ei ganiatáu i Mr Jenkins ar gyfer cerbydau eraill oedd yn cael eu defnyddio ganddo.
Petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i eithrio Mr Jenkins o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, byddai'r Amodau Trwydded canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded:-
(i) bod y BMW 520 Auto (Ystad) trwyddedig sydd â'r rhif cofrestru CP16 AUA yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Jenkins; (ii) petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath; (iii) bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Philip Ashley Jenkins am ganiatâd i gael ei eithrio o Amodau 5A a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i BMW 520 Auto (Ystad) ac iddo'r rhif cofrestru CP16 AUA, yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
</AI4>
|
|||||||||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Kelvin Trevor Jones, 3 Llys Picton, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jones yn 72 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn un ar hugain oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na saith deg oed”.
Yr oedd Mr Jones wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei fod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Kelvin Trevor Jones am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
</AI5> |
|||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT- MR PETER FREDERICK PALMER PDF 184 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Peter Frederick Palmer, Llainwern, Maesycrugiau, Pencader am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Palmer yn 70 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn un ar hugain oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na saith deg oed”.
Yr oedd Mr Palmer wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei fod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Peter Frederick Palmer am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
HEFYD PENDERFYNWYD cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf ynghylch y posibilrwydd o ddirprwyo awdurdod i'r swyddogion brosesu ceisiadau gan bobl sydd yn h?n na70 oed.
|
|||||||||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Peter Morgan Salmon, 7 Tref Gwendraeth, Cydweli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Salmon ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Salmon yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Peter Morgan Salmon am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||||||||
Cofnodion: Hotel, Heol y Pentre, Sanclêr am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Andrew Robert Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
</AI8> <AI9>
|
|||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR CHRISTOPHER PHILLIPS PDF 183 KB Cofnodion: [SYLWER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.I. Jones y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Christopher Phillips, 22 Nant y Felin, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Phillips ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Phillips yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Christopher Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Y Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Jason Richard Vaughan, 17 Maesybryn, Sanclêr, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Vaughan ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Vaughan yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Jason Richard Vaughan am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu a bod ei drwydded yn cael ei hatal am 14 diwrnod. Y Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon ei bod yn angenrheidiol atal y drwydded er mwyn diogelu'r cyhoedd. </AI10>
|
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 7fed Ebrill, 2016 gan eu bod yn gywir.
|