Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, D.J.R. Llewellyn a M.K. Thomas.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd P.E.M. Jones i'r siambr ar ôl ei salwch yn ddiweddar.</AI1>
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR NOEL WILLIAMS PDF 184 KB Cofnodion: [SYLWER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr H.I. Jones a D.E. Williams y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Noel Williams, 22 Brynmeurig, Tregynnwr, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Williams yn 70 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn 21 oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na 70 oed”.
Yr oedd Mr Williams wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei fod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL ganiatáu'r cais gan Mr Noel Williams am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR EDWIN SYLVANUS DAVID PDF 184 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Edwin Sylvanus David, 23 Nant y Gro, Llangennech, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr David yn 73 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn 21 oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na 70 oed”.
Yr oedd Mr David wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei fod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL fod y cais gan Mr Edwin Sylvanus David am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu.
|
|||||||||||||||||||||||||
TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR MARTIN CRAIG KNOWLES PDF 182 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Martin Craig Knowles, 3 Brynawelon, y Bryn, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Knowles ynghylch mater oedd wedi codi o ran ei drwydded.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Mr Knowles yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Martin Craig Knowles yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. </AI5><AI6>
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: [SYLWER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.I. Jones y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Kenneth John Joseph Duxberry, 18 Cwrt y Gloch, Peniel, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Duxberry ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Duxberry yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Kenneth John Joseph Duxberry am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr William John Spreadbury, 23 Glasfryn, Sanclêr, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Spreadbury ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Spreadbury yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr William John Spreadbury am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. </AI7><AI8>
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANDREW ALUN CROOKS PDF 182 KB Cofnodion: [SYLWER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd T. Davies y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Andrew Alun Crooks, 89 Heol Cross Hands, Gors-las, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Crooks ynghylch ei gais a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu. Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd lythyr oddi wrth gyflogwr presennol Mr Crooks a oedd yn darparu geirda i gefnogi'r cais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Crooks yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Andrew Alun Crooks am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y Rhesymau Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANTHONY LUKE SHERIDAN PDF 183 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Anthony Luke Sheridan, 32 Parcyrhun, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Yr oedd Mrs Pauline Watts, sef mam ei gymar, yn gwmni i Mr Sheridan. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Sheridan ynghylch ei gais a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu. Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd dri llythyr geirda i gefnogi cais Mr Sheridan, sef un gan ei ddarpar gyflogwr, un gan gyn-gydweithiwr ac un gan gymydog. Hefyd mynegodd Mrs Pauline Watts ei chefnogaeth i gais Mr Sheridan.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Sheridan yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Anthony Luke Sheridan am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y Rhesymau Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.</AI9>
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JAMIE LEE GOODIER PDF 183 KB Cofnodion:
Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 5ed Ionawr, 2016 (cofnod 11) gan nad oedd yr ymgeisydd yn gallu bod yn bresennol. Yr oeddid wedi gohirio ystyried y cais unwaith eto ar 17eg Chwefror, 2016 (cofnod 9) gan nad oedd yr ymgeisydd wedi dod i'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Goodier yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad, a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallasai ei gais gael ei ystyried yn ei absenoldeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn ystyried y cais heb i'r ymgeisydd fod yn bresennol.
Yna bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Jamie Lee Goodier, Asheldon, Heol yr Orsaf, Sanclêr am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Goodier yn cael ei wrthod.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Jamie Lee Goodier am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y Rhesymau Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.</AI10>
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 17eg Tachwedd, 2016 yn gofnod cywir.
|