Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 17eg Chwefror, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: MARTIN S. DAVIES  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, M.K. Thomas a J. Thomas

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T. Bowen

6 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat – Mr. Damian Hugh McCauley;

Yn adnabod yr ymgeisydd.

 

3.

DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT. pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. David Mark Jones-Dunstall o South Wales Travel, Bwthyn y Coed, 1 Dôl y Dderwen, Bonllwyn, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat yn achos ei Renault Grand Scenic â'r rhif cofrestru YT62 SYV.

Gan ei fod yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth hurio dethol a busnes yn unig, yr oedd Mr. Jones-Dunstall wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl. Yn y gorffennol yr oedd yr eithriad hwn wedi cael ei ganiatáu i Mr. Jones-Dunstall ar gyfer cerbyd arall oedd yn cael eu defnyddio ganddo.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i eithrio Mr Jones-Dunstall o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, y byddai'r Amodau Trwyddedu canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded:-

 

(i) Bod y cerbyd trwyddedig, sef Renault Grand Scenic ac iddo'r rhif cofrestru YT62 SYV, yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth hurio dethol a busnes, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Jones-Dunstall;

 

(ii) Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

 

(iii) Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cais a gyflwynwyd gan Mr. David Mark Jones-Dunstall am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd Renault Grand Scenic ac iddo'r rhif cofrestru YT62 SYV yn cael ei ganiatáu yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

4.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS LINDA VICTORIA MORGAN. pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs. Linda Victoria Morgan, 72 Heol Cwmfelin, y Bynea, Llanelli am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs. Morgan yn 70 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn un ar hugain oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo/iddi beidio â bod yn h?n na saith deg oed”.

 

Yr oedd Mrs. Morgan wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei bod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Yna

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL fod y cais gan Mrs. Linda Victoria Morganam adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio yn cael ei ganiatáu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANDREW STUART MARLING. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn a hynny am yr eildro yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 5ed Ionawr, 2016 (gweler cofnod 4) gan nad oedd Mr. Marling wedi dod i'r cyfarfod.  Er nad oedd Mr. Marling yn bresennol heddiw eto, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ei fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol y byddid yn rhoi sylw i'w gais yn ei absenoldeb.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr. Andrew Stuart Marling, 54 Parc y Bryn, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr. Marling yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Gan fod yn ymwybodol o argymhelliad Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a'r materion a godwyd ganddi ynghylch cais Mr. Marling, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch bod yr ymgeisydd wedi methu dod i'r cyfarfod i egluro ei gais ac nad oedd wedi bod yn ddigon cwrtais i gysylltu â'r swyddogion ynghylch ei amgylchiadau. Felly

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr. Andrew Stuart Marling am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd ac oherwydd bod yr ymgeisydd heb fod yn bresennol dro ar ôl tro, nid oedd y Pwyllgor, yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DAMIAN HUGH MCCAULEY. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

(NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd T. Bowen yn bresennol tra trafodid y cais).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Damian Hugh McCauley, 6 Heol Tregonig, y Morfa, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Roedd Mr. McCauley yng nghwmni cyflogwr posibl, sef Mrs. Rees.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. McCauley ynghylch ei gais, a chafodd dystlythyr gan Mrs. Rees, a sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.       

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr. McCauley yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr. Damian Hugh McCauley am  Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

7.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL DAVID ARTHUR. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Daniel David Arthur, 39 Coedlan Denham, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Roedd Mr. Arthur yng nghwmni ei rieni. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Arthur ynghylch ei gais, a chafodd dystlythyr gan ei dad, a sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu. 

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr. Arthur yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr. Daniel David Arthur am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.   

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR SEAN PATRICK DOHERTY. pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Sean Patrick Doherty, 2 Rhes-y-Glob, Dafen, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.     

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Doherty

 ynghylch ei gais a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.  Darllenodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd lythyr i'r Pwyllgor yn cefnogi Mr. Doherty.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr. Doherty yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr. Sean Patrick Doherty am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.   

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

9.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JAMIE LEE GOODIER. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod yn ei gyfarfod ar 5ed Ionawr 2016 (gweler cofnod 11) wedi penderfynu gohirio ystyried y cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a gyflwynwyd gan Mr. Jamie Lee Goodier o Asheldon, Heol yr Orsaf, Sanclêr, tan ei gyfarfod nesaf. Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd er y rhoddwyd gwybod i Mr. Goodier am y cyfarfod ac er iddo gael gwahoddiad i fod yn bresennol, nad oedd wedi dod i'r cyfarfod ac nad oedd wedi rhoi gwybod i swyddogion am unrhyw reswm dros beidio â bod yn bresennol. 

 

PENDERFYNWYD ohirio ymhellach ystyried cais Mr. Jamie Lee Goodier am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ynghyd â rhoi gwybod i Mr. Goodier y byddid yn penderfynu ar y cais yn ei absenoldeb pe bai'n methu dod i'r cyfarfod hwnnw.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR YR 5ED IONAWR 2016. pdf eicon PDF 434 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5ed Ionawr 2016 yn gofnod cywir.