Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 16eg Rhagfyr, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen a P.E.M. Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DEDDF HAPCHWARAE 2005 - SESIWN HYFFORDDI GAN Y COMISIWN HAPCHWARAE. pdf eicon PDF 511 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Paul Edmunds, Uwch-reolwr Cydymffurfio gyda'r Comisiwn Hapchwarae, a oedd wedi cael gwahoddiad i ddod i'r cyfarfod i roi sesiwn hyfforddiant i'r Pwyllgor ynghylch Deddf Hapchwarae 2005 a'r newidiadau diweddar i godau arferion y Comisiwn Hapchwarae ac i'w gyfarwyddyd i Awdurdodau Trwyddedu.

 

Daeth Deddf Hapchwarae 2005 i rym yn 2007 gan olygu bod system gynhwysfawr newydd o reoliadau hapchwarae yn weithredol ym Mhrydain. Sefydlodd y Ddeddf reoleiddiwr penodedig ar lefel genedlaethol sef y Comisiwn Hapchwarae. Hefyd rhoddwyd cyfrifoldeb i Awdurdodau Lleol reoleiddio hapchwarae yn lleol.

 

Eglurwyd bod Awdurdodau Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu safleoedd trwyddedu yn eu hardaloedd, a hefyd am faterion o ran peiriannau hapchwarae gwobrau llai ac am ymdrin â hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol.

 

Y Comisiwn Hapchwarae sy'n gyfrifol am roi trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol i weithredwyr hapchwarae masnachol. Yn ogystal mae'r ddeddfwriaeth yn galluogi'r Comisiwn i bennu cyfarwyddyd cyffredinol yn genedlaethol, sy'n cynnwys llunio'r Cyfarwyddyd i Awdurdodau Trwyddedu, y mae'n rhaid i Awdurdodau Trwyddedu roi sylw iddo.

 

Gan fod y Comisiwn wedi diweddaru'r ddogfen gyfarwyddyd hon ynghyd â'r Amodau Trwyddedau a'r Codau Arferion yn ddiweddar, cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf Hapchwarae a'r newidiadau diweddar i'r dogfennau cyfarwyddyd.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb ac ar ôl hynny diolchodd y Cadeirydd i Mr Edmunds am gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

4.

ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE. pdf eicon PDF 570 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu'r Polisi Hapchwarae presennol ym mis Rhagfyr 2012 a'i fod wedi dod i rym ar 31ain Ionawr, 2013. Eglurwyd ei bod yn ofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth, i'r polisi gael ei adolygu bob tair blynedd o leiaf er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r adborth gan y gymuned leol ynghylch bod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.

 

Yr oedd Adain Drwyddedu yr Awdurdod, ar y cyd ag Adain y Gyfraith, wedi adolygu'r ddogfen bolisi yng ngoleuni'r diwygiadau i'r cyfarwyddyd gan y Comisiwn Hapchwarae.  Yr oedd y swyddogion wedi bod yn cydweithio'n agos â'r Comisiwn Hapchwarae er mwyn sicrhau bod y ddogfen ddiwygiedig yn cwmpasu'r newidiadau oedd yn cael eu cyflwyno gan y Comisiwn, a oedd yn cynnwys cynnal cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr y Comisiwn Hapchwarae ac Awdurdodau Trwyddedu Sir Benfro a Cheredigion.

 

Fel rhan o'r adolygiad yr oedd yn ofynnol i'r Awdurdod ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, cynrychiolwyr busnesau hapchwarae a phobl oedd yn cynrychioli buddiannau preswylwyr a busnesau yn y cyffiniau, er mwyn i'r Awdurdod ystyried sylwadau'r rhain yn ffurfiol. Yr oedd yr ymgynghoriad wedi cychwyn ar 7fed Gorffennaf gan orffen ar 13eg Medi, 2015.

 

Yr oeddid wedi ymgynghori â rhyw 2000 o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys deiliaid trwydded a'u cynrychiolwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad, Cynghorwyr Sir, Adrannau'r Cyngor ac Awdurdodau Cyfrifol. Yr Awdurdodau Cyfrifol oedd yr Awdurdod Trwyddedu, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Comisiwn Hapchwarae, Iechyd yr Amgylchedd (Adain Llygredd), yr Awdurdod Cynllunio, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Plant.

 

Y tro hwn yr oeddid wedi cynnal yr arolwg drwy ddefnyddio'r cyfleuster ymgynghori Lleol-i ar wefan y Cyngor. Golygai hynny fod modd cysylltu â'r rhan fwyaf o'r ymgyngoreion drwy e-bost, gan leihau'r gost ochr yn ochr â sicrhau bod yr ymgynghoriad yn agored i fwy o bobl. Yr oedd cyfanswm o 44 o ymatebion wedi dod i law, a bu'r Pwyllgor yn ystyried dogfen ddiwygiedig ynghylch polisi hapchwarae a oedd yn cynnwys newidiadau er mwyn adlewyrchu'r ymatebion perthnasol i'r ymgynghoriad.

 

Rhoddodd y Pen-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor fod y Comisiwn Hapchwarae, ers iddo lunio ei adroddiad, wedi cyhoeddi fersiwn mwy diweddar o'r cyfarwyddyd, a'i fod ef felly yn gofyn am i'r Polisi Hapchwarae gael ei gymeradwyo er mwyn cwmpasu cyfarwyddyd diweddaraf y Comisiwn Hapchwarae ac er mwyn bod yn gyson â'r cyfarwyddyd hwnnw.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig, a oedd yn rhoi sylw i gyfarwyddyd diweddaraf y Comisiwn Hapchwarae, yn cael ei fabwysiadu.

 

5.

ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2003). pdf eicon PDF 544 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr oedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi ei fabwysiadu ym mis Ionawr 2011, ac yr oedd y Polisi Effaith Gronnol ynghylch Heol yr Orsaf, Llanelli wedi ei fabwysiadu yn 2012.  Eglurwyd ei bod yn ofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth, i'r Polisi Trwyddedu gael ei adolygu bob pum mlynedd o leiaf er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r adborth gan y gymuned leol ynghylch bod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.

 

Ers i'r Polisi Trwyddedu presennol gael ei adolygu ddiwethaf bu nifer o newidiadau i Ddeddf Trwyddedu 2003.  Yr oedd Adain Drwyddedu yr Awdurdod, ar y cyd ag Adain y Gyfraith, wedi adolygu'r ddogfen bolisi yng ngoleuni'r newidiadau hyn, y cyfarwyddyd diwygiedig gan y llywodraeth, a'r gyfraith achosion ddiweddar. Yr oedd y newidiadau statudol hyn wedi eu cynnwys yn y ddogfen bolisi.  Yn ogystal yr oedd yr Awdurdod wedi cynnal cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd Lleol, ac Awdurdodau Trwyddedu Sir Benfro a Cheredigion, er mwyn trafod adolygu'r polisïau trwyddedu lleol.

 

Ymhlith y prif newidiadau i'r ddeddfwriaeth yr oedd:-

 

·       bod y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Adain Trwyddedu yn Awdurdodau Cyfrifol;

·       cael gwared â'r prawf agosrwydd yn achos pobl sydd am gyflwyno sylwadau;

·       dadreoleiddio rhai mathau o adloniant o dan rai amgylchiadau;

·       newidiadau i amodau gorfodol trwyddedau.

 

Fel rhan o'r adolygiad yr oedd yn ofynnol i'r Awdurdod ymgynghori â'r Awdurdodau Cyfrifol, y trigolion lleol, busnesau, deiliaid trwydded a'u cynrychiolwyr er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn gallu ystyried sylwadau'r rhain yn ffurfiol. Yr oedd yr ymgynghoriad wedi cychwyn ar 7fed Gorffennaf gan orffen ar 13eg Medi, 2015.

 

Yr oeddid wedi ymgynghori â rhyw 2000 o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys deiliaid trwydded a'u cynrychiolwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad, Cynghorwyr Sir, Adrannau'r Cyngor ac Awdurdodau Cyfrifol.

 

Yr oeddid wedi cynnal yr arolwg drwy ddefnyddio'r cyfleuster ymgynghori Lleol-i ar wefan y Cyngor. Golygai hynny fod modd cysylltu â'r rhan fwyaf o'r ymgyngoreion drwy e-bost, gan leihau'r gost ochr yn ochr â sicrhau bod yr ymgynghoriad yn agored i fwy o bobl. Yr oedd cyfanswm o 89 o ymatebion wedi dod i law, a bu'r Pwyllgor yn ystyried dogfen bolisi ddiwygiedig ynghylch trwyddedu a oedd yn cynnwys newidiadau er mwyn adlewyrchu'r ymatebion perthnasol i'r ymgynghoriad.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r polisi, pe byddid yn ei gymeradwyo, yn weithredol o 10fed Chwefror 2016 ymlaen.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL

 

5.1     bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo;

5.2     bod y Polisi Effaith Gronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli fel y nodir yn Adran 10 o'r polisi;

5.3     bod rhagor o dystiolaeth yn cael ei chasglu mewn perthynas â'r posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin yn sgil yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori.

6.

ADOLYGU FFIOEDD A BENNIR YN LLEOL YN ADAIN IECHYD YR AMGYLCHEDD A THRWYDDEDU. pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr egwyddor o bennu ffioedd yn lleol wedi bod dan sylw'n ddiweddar mewn achos yn yr Uchel Lys, a bod canlyniad yr achos hwnnw wedi cadarnhau'r mathau o gostau y gall cynghorau eu hadennill drwy bennu ffioedd yn lleol. Yr oedd hyn yn cynnwys gweinyddu a rhoi trwyddedau, a chymryd camau gorfodi, lle bo hynny'n berthnasol, yn eu cylch.  Eglurwyd bod yn rhaid i'r modd y pennir ffioedd fod yn dryloyw a bod yn rhaid sicrhau nad yw'r ffi yn fwy na chost y weithdrefn a'i bod yn agored i'w harchwilio.

 

O ganlyniad i'r eglurhad hwn ynghylch y costau y gellid eu cynnwys wrth bennu ffioedd, yr oedd Panel Arbenigwyr Trwyddedu Cymru wedi llunio "pecynnau gwaith" gyda golwg ar sicrhau bod cysondeb o ran ymagwedd yr Awdurdodau Lleol wrth bennu eu ffioedd.  Hefyd yr oedd hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol i sicrhau bod yr holl gostau perthnasol yn cael sylw wrth gyfrif y swm.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried strwythur ffioedd arfaethedig ar gyfer yr Adain Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu, yr oedd y manylion am hynny ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL

 

6.1     hysbysebu'r ffioedd arfaethedig ar gyfer cerbydau hacnai/hurio preifat, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 i'r adroddiad, am gyfnod o 28 o ddiwrnodau fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 er mwyn i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau.  Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, caiff y ffioedd eu cyflwyno ar unwaith yn dilyn y cyfnod hysbysebu hwn.  Os bydd gwrthwynebiadau yn dod i law, bydd y ffioedd perthnasol a'r gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor i'w hystyried ymhellach ac i benderfynu arnynt;

 

6.2     hysbysebu gweddill y ffioedd yn Atodiad 1 am gyfnod o 28 o ddiwrnodau.  Cyflwyno’r ffioedd diwygiedig ar unwaith yn dilyn y cyfnod hysbysebu hwn.

 

 

7.

COFNODION - 26AIN TACHWEDD, 2015. pdf eicon PDF 378 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 26ain Tachwedd, 2015 yn gofnod cywir.