Cofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 26ain Tachwedd, 2015 10.00 yb

Lleoliad arfaethedig: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr. Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies, I.J. Jackson, H.I. Jones, P.E.M. Jones a M.K. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod.

Y Math o Fuddiant

D.E. Williams

5 - Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Mrs. Katy Victoria Griffiths

Mae'r ymgeisydd yn byw yn ei ward.

 

 

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANDREW STUART MARLING pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried yr eitem hon yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Hydref, 2015 (cofnod 10) gan nad oedd Mr Marling yn bresennol a hynny, fel y daeth yn hysbys, oherwydd camgymeriad gweinyddol ar ran yr Awdurdod. Hysbyswyd y Pwyllgor fod hyn wedi cael ei unioni ond bod Mr. Marling wedi rhoi gwybod i'r swyddogion na fyddai'n gallu bod yn bresennol yn y gwrandawiad heddiw.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Andrew Stuart Marling am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

4.

CAIS AM ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS SARAH JENNA WYNNE pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs Sarah Jenna Wynne, 30 Heol Santes Non, Caerfyrddin i adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Wynne ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mrs. Wynne yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mrs. Sarah Jenna Wynne i adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

 

5.

TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS KATY VICTORIA GRIFFITHS pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

[NOTE:  Councillor D.E. Williams having earlier declared an interest in this item, left the Chamber prior to the consideration and determination thereof.]

 

The Committee was informed that Mrs. Katy Victoria Griffiths of Cedars, Mount Pleasant, Llangunnor, Carmarthen, was a licensed hackney carriage/private hire dual driver with the authority and the Committee interviewed Mrs. Griffiths with regard to an issue which had arisen in relation to her licence.

 

The Senior Licensing Officer recommended that Mrs. Griffiths be issued with a warning as to her future conduct.

 

The Committee thereupon

 

UNANIMOUSLY RESOLVED that, in line with the Council’s guidelines, Mrs. Katy Victoria Griffiths be issued with a warning as to her future conduct.

 

7.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR STUART WAYNE WILLIAMS pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Stuart Wayne Williams, 19 Stryd yr Ysgol, Y Morfa, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Williams yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. 

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr. Stuart Wayne Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

8.

TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DAVID WILLIAM SQUIRE pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor nad oedd Mr. Squire yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt ei fwriad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y mater a oedd wedi codi ynghylch Trwydded Yrru Ddeuol Mr. David William Squire ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ynghyd â rhoi gwybod iddo y gellid penderfynu ar y cais yn ei absenoldeb pe bai'n methu dod i'r cyfarfod hwnnw.

 

 

9.

CAIS AM ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BENJAMIN WILLIAM EDWARD COLLINS pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Benjamin William Edward Collins o Ffynnonau-Gleision am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Roedd Mr. Collins yng nghwmni ei dad. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Collins ynghylch ei gais a chafodd ddatganiad gan ei dad. 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Collins yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD,yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr. Benjamin William Edward Collins am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

10.

COFNODION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 448 KB

Cofnodion:

UNANIMOUSLY RESOLVED that the minutes of the meeting of Licensing Sub-Committee ‘B’ held on the 13th October, 2015 be signed as a correct record.

 

11.

COFNODION pdf eicon PDF 374 KB

Cofnodion:

UNANIMOUSLY RESOLVED that the minutes of the meeting of the Licensing Committee held on the 21st October, 2015 be signed as a correct record.

 

 

 

6.

TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR CERI DAVIES pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod Mr. Ceri Davies, 43 Heol Waterloo, Pen-y-groes, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod, a bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Davies ynghylch mater oedd wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Ceri Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.