Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

7 - Cais am Adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat -  Mr Emyr Glyn Davies

Mae'nadnabod yr ymgeisydd.

J.K. Howell

9 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Mr Daniel Simon Lawrence

Mae'rymgeisydd yn byw yn ei ward.

J.K. Howell

12 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Mr David Timothy Jones

Mae'rymgeisydd yn byw yn ei ward.

I.J. Jackson

8 - Cais am Adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Mr Anthony John Wathan

Mae'nadnabod yr ymgeisydd.

 

3.

TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT. pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Hywel Douglas Price Thomas, 2 Stryd Pryce, Llanelli am ganiatâd i gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Mercedes Vito ac iddo'r rhif cofrestru WV65 UTH.

 

Gan ei fod yn defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo pobl i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol yn unig, yr oedd Mr Thomas wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl.  Yn y gorffennol yr oedd yr eithriad hwn wedi cael ei ganiatáu i Mr Thomas ar gyfer cerbydau eraill oedd yn cael eu defnyddio ganddo.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i eithrio Mr Thomas o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, y byddai'r Amodau Trwyddedu canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded:-

 

-         Bod y Mercedes Vito trwyddedig sydd â'r rhif cofrestru WV65 UTH yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b, tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth cludo i feysydd awyr a gwasanaeth hurio dethol yn unig fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Thomas;

-         Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-         Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol â'r amodau yn yr adroddiad.

 

4.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR LEONARD ERIC SUMMERS. pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Leonard Eric Summers, 20 Rhos Las, Tregynnwr, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Summers yn 70 oed, a bod Amod 25 o Amodau'r Cyngor mewn perthynas â Thrwyddedau Gyrru Deuol ar gyfer Cerbydau Hacnai/Hurio Preifat yn datgan "Mae'n rhaid i'r gyrrwr fod yn un ar hugain oed o leiaf ac mae'n rhaid iddo beidio â bod yn h?n na saith deg oed”.

 

Yr oedd Mr Summers wedi cyflwyno tystysgrif feddygol oedd yn cadarnhau ei fod yn iach i yrru Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor ganiatáu cais Mr Leonard Eric Summers am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

5.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS SARAH JENNA WYNNE. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried yr eitem hon yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 3ydd Medi, 2015 (cofnod 5) gan nad oedd Mrs Wynne yn gallu bod yn bresennol. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Wynne wedi cysylltu â'r Adain Drwyddedu er mwyn rhoi gwybod na fyddai hi'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw gan y byddai hi ar ei gwyliau, a'i bod hi wedi gofyn i'r Pwyllgor ystyried ei chais yn ei habsenoldeb.

 

Felly bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mrs Sarah Jenna Wynne, 30 Heol y Santes Non, Caerfyrddin am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch nad oedd digon o wybodaeth ar gael i alluogi'r Pwyllgor i wneud penderfyniad gwybodus oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i roi eglurhad. Felly, gan fod y Pwyllgor yn ystyried atal neu ddiddymu'r drwydded,

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mrs Sarah Jenna Wynne am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor, ynghyd â rhoi gwybod iddi fod y Pwyllgor yn ystyried atal neu ddiddymu ei thrwydded a phe bai'n methu dod i'r cyfarfod hwnnw y gellid penderfynu ar y cais yn ei habsenoldeb.

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR CHRISTOPHER WAYNE PRICE. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Christopher Wayne Price, 11 Stryd Carwe, Porth Tywyn, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Price yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Christopher Wayne Price am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

7.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR EMYR GLYN DAVIES. pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd A. Davies y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Emyr Glyn Davies, 13 Banc y Ddraenen, Capel Hendre, Rhydaman am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Emyr Glyn Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

8.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANTHONY JOHN WATHAN. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd I.J. Jackson y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Anthony John Wathan, 22 Rhodfa Tywi, Llanymddyfri am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Yr oedd Mr Wathan yng nghwmni ei wraig a'i gyfreithiwr, Mr David Williams.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wathan ynghylch ei gais a chafodd ddatganiadau gan Mr Williams a Mrs Wathan.  Darllenodd Mr Williams dri llythyr geirda oedd yn cefnogi cais Mr Wathan.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Wathan yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Anthony John Wathan am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

9.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL SIMON LAWRENCE. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J.K. Howell y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Daniel Simon Lawrence, Penwaun, Rhos, Llandysul am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  

 

Yr oedd Mr Lawrence yng nghwmni ei fam, Mrs Phillips.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Lawrence ynghylch ei gais a chafodd ddatganiad geirda gan Mrs Phillips a sylwadau gan gynrychiolydd yr Heddlu.   

 

Yn wreiddiol yr oedd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi argymell bod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Lawrence yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.  Fodd bynnag rhoddodd hi wybod i'r Pwyllgor fod rhagor o wybodaeth wedi dod i law ers i'r agenda gael ei dosbarthu a bod y swyddogion yn argymell bellach fod y cais yn cael ei wrthod.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Daniel Simon Lawrence am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rhesymau

Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

 

10.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ANDREW STUART MARLING. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried yr eitem hon yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 3ydd Medi, 2015 (cofnod 8) gan nad oedd Mr Marling yn gallu bod yn bresennol. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd Mr Marling yn bresennol, a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Andrew Stuart Marling, 54 Parc y Bryn, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch nad oedd digon o wybodaeth ar gael i alluogi'r Pwyllgor i wneud penderfyniad gwybodus oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i roi eglurhad, ac felly

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Andrew Stuart Marling am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ynghyd â rhoi gwybod iddo y byddid yn penderfynu ar y cais yn ei absenoldeb pe bai'n methu dod i'r cyfarfod hwnnw.

application may be refused.

 

11.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS PATRICIA MARY BOTTOMLEY. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Bottomley wedi cysylltu â'r swyddogion gan ofyn am ohirio ystyried ei chais gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mrs Patricia Mary Bottomley am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

12.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DAVID TIMOTHY JONES. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J.K. Howell y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr David Timothy Jones, Green Hill Cottage, Saron, Llandysul am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.  Darllenodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd lythyr geirda oedd yn cefnogi cais Mr Jones.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei wrthod.

 

Yna PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr David Timothy Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rhesymau

Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR YR 26AIN AWST, 2015. pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-Bwyllgor Trwyddedu 'A' oedd wedi ei gynnal ar 26ain Awst, 2015 gan eu bod yn gywir.

 

 

14.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALWYD AR Y 3YDD MEDI, 2015. pdf eicon PDF 378 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 3ydd Medi 2015 gan eu bod yn gywir.