Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 25ain Mawrth, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.M. Hughes, A. Lenny ac A. Vaughan-Owen.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd C.A. Davies

5 - Derbyn Disgyblion i Ysgolion – Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n dod i fyny i 4 oed)

Yn gweithredu meithrinfa i blant

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

DERBYNIADAU YSGOLION - ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI 4) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd C.A. Davies y cyfarfod cyn i'r Cabinet ystyried y mater a phenderfynu arno].

  

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar yr adolygiad derbyn disgyblion i ysgolion cynradd. 

 

Yn 2018/19 cwblhawyd Adolygiad Gorchwyl a Gorffen gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae. Un o'r casgliadau a nodwyd yn yr adroddiad oedd bod Polisi Dod i fyny i 4 oed yr Awdurdod yn wahanol iawn i awdurdodau lleol eraill cyfagos a bod y Cyngor yn cynnal adolygiad ffurfiol o'i bolisi derbyn presennol ar gyfer addysg llawn amser i blant 4 oed (y Polisi Dod i fyny i 4 oed).

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023, bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar y rhesymeg dros gael gwared ar y polisi o bosibl ac asesiad o oblygiadau cael gwared ar y Polisi Dod i fyny i 4 oed mewn ysgolion unigol ar ffurf dadansoddiad o fylchau. O ganlyniad, penderfynodd y Cabinet ymgynghori ar gael gwared ar y Polisi Dod i fyny i 4 oed yn ystod yr ymgynghoriad blynyddol ar dderbyn disgyblion i ysgolion ym mis Ionawr 2024, i'w weithredu ym mis Medi 2025. Cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth rhwng 19 Ionawr 2024 ac 1 Mawrth 2024.

 

Roedd yr adolygiad o'r polisi derbyn disgyblion i addysg llawn amser yn rhan yn unig o adolygiad cyffredinol o ddarpariaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ledled y sir. Mae datganiad gweledigaeth y Cabinet yn amlinellu awydd i 'wella argaeledd lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg ym mhob ardal'. Trwy ddadansoddiad trylwyr o'r bylchau yn y ddarpariaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ledled Sir Gaerfyrddin, mae swyddogion wedi nodi cymunedau lle mae darpariaeth gyfyngedig ar hyn o bryd, h.y. diffyg darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar a/neu ofal plant. Fel rhan o weithredu polisi derbyn diwygiedig, bydd swyddogion yn datblygu cynigion i fynd i'r afael â'r bylchau hynny ac yn cyflwyno'r rhain i'r Cabinet i'w hystyried. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio â phartneriaid ar ddarparu addysg blynyddoedd cynnar neu greu ysgolion 3-11 i ddarparu'r cynnig addysg ledled y sir. Bydd swyddogion hefyd yn gweithio ar wella'r cynnig gofal plant yn y cymunedau hynny i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at Gynnig Gofal Plant 30 awr am ddim Llywodraeth Cymru yn lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Sir Gaerfyrddin, fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yn mynd ati i gael gwared ar y Polisi Dod i fyny i 4 oed a gweithredu Opsiwn B (fel y nodir yn yr adroddiad) o 1 Medi 2025, h.y. derbyn dysgwyr llawn amser i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

 

6.

CYMERADWYO NEWIDIADAU'R GRWP LLAFUR I AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y CABINET FEL A GANLYN:-

·       Y Cynghorydd Tina Higgins i gymryd y lle gwag ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig         

·       Y Cynghorydd Michael Thomas i gymryd y lle gwag ar Banel Ymgynghorol Datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol          

·       Y Cynghorydd Edward Skinner i gymryd y lle gwag ar Banel Ymgynghorol Rhianta Corfforaeth & Diogelu

·       Y Cynghorwyr Crish Davies ac Edward Skinner i gymryd y lleoedd gwag ar Banel Ymgynghorol Trawsbleidiol Newid Hinsawdd & Argyfwng Natur  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried yr enwebiadau canlynol a gyflwynwyd gan y Gr?p Llafur i lenwi seddi gwag ar Banelau Ymgynghorol y Cabinet:-

 

(1)  Y Cynghorydd Tina Higgins i gymryd y sedd wag ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Cefn Gwlad;

(2)   Y Cynghorydd Michael Thomas i gymryd y sedd wag ar y Panel Ymgynghorol ar Ddatblygiad y Cynllun Datblygu Lleol;

(3)   Y Cynghorydd Edward Skinner i gymryd y sedd wag ar y Panel Ymgynghorol ar Rianta Corfforaethol a Diogelu;

(4)   Y Cynghorwyr Crish Davies ac Edward Skinner i gymryd y seddi gwag ar y Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ar Newid yn yr Hinsawdd a'r Argyfwng Natur.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Cabinet, fel y nodir uchod.

 

7.

CYMERADWYO NEWIDIADAU'R GRWP PLAID CYMRU I AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y CABINET FEL A GANLYN:-

·       Y Cynghorydd Russell Sparks i gymryd lle’r Cynghorydd Hefin Jones ar Banel Ymgynghorol Newid Hinsawdd

·       Y Cynghorydd Meinir James i gymryd lle’r Cynghorydd Liam Bowen ar Banel Ymgynghorol Newid Hinsawdd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y newidiadau canlynol i aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Cabinet a gyflwynwyd gan Gr?p Plaid Cymru:-

 

(1) Y Cynghorydd Russell Sparks i gymryd lle'r Cynghorydd Hefin Jones ar y Panel Ymgynghorol ar Newid yn yr Hinsawdd;

(2) Y Cynghorydd Meinir James i gymryd lle'r Cynghorydd Liam Bowen ar y Panel Ymgynghorol ar Newid yn yr Hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Cabinet, fel y nodir uchod.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion brys.