Agenda a Chofnodion

Cyllideb/Budget., Cabinet - Dydd Llun, 19eg Chwefror, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Tremlett.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd G. Davies

11 - Penodi Llywodraethwr ALl

 

Ef yw Cadeirydd y Corff Llywodraethu yn Ysgol Brynaman.

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 29 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gofnod rhif 7 o gofnodion y cyfarfod diwethaf – Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a nodwyd y dylai'r penderfyniad ddarllen fel a ganlyn:-

 

“PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg at ddibenion ymgynghori.”

 

PENDERFYNWYD, ar yr amod y byddai'r newid a nodwyd uchod yn cael ei gynnwys, lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet oedd wedi'i gynnal ar 29 Ionawr, 2024, i nodi eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2024/25 i 2026/27 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2024/25 a'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion o'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau byddai mabwysiadu'r cynigion yn yr adroddiad yn galluogi'r Cabinet i gyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor Sir, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r broses ymgynghori. Fodd bynnag, roedd yn teimlo bod dyletswydd arno i dynnu sylw at risgiau'r strategaeth, yn ogystal â'r ansicrwydd yn y dyfodol ynghylch codiadau cyflog a chwyddiant, y mae'n rhaid i ni ei dderbyn fel rhan arferol o'n proses pennu'r gyllideb. Nodai'r adroddiad nifer o risgiau o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon a diffoddwyr tân, y risg o ran cyflawni ein buddsoddiad yn y Gwasanaethau Plant, a'r risg oedd ynghlwm wrth ostyngiadau yn y gyllideb ar draws pob rhan o wasanaethau'r Cyngor.

Cadarnhaodd y gallwn o hyd, os yw'r holl gynigion a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu, ddarparu Strategaeth Gyllideb sy'n:-

·        ymateb i'r ymgynghoriad;

·        sicrhau hyd y gellid fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal;

·        cydnabod bod pobl Sir Gaerfyrddin yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd bresennol ac sydd felly'n sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu; ac

·        yn paratoi'r Awdurdod hwn, i'r graddau mwyaf posibl, ar gyfer unrhyw ansicrwydd a allai ddigwydd yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at ddifrifoldeb y sefyllfa y mae'r Awdurdod yn ei hwynebu ac at y ffaith ein bod yn gwneud ein gorau glas dros drigolion Sir Gaerfyrddin yn ystod cyfnod heriol iawn.  Mae'r Adran Addysg yn wynebu'r ergyd fwyaf yn ei hanes gan ei bod yn arfer cael ei diogelu yn y gorffennol. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu gwneud hynny bellach ac mae'n wynebu toriadau fel pob adran arall. Mynegwyd siom eto nad yw cyflogau athrawon wedi eu hariannu'n llawn am y ddwy flynedd nesaf, sydd wedi cael effaith fawr ar y gyllideb. 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau am eu gwaith ar y gyllideb dros y misoedd diwethaf.  Mynegodd ei bryder fod hwn yn gyfnod heriol iawn, pan oedd Awdurdodau Lleol yn y sefyllfa amhosibl o geisio darparu gwasanaethau rheng flaen tra'n parhau i wynebu toriadau gan y llywodraeth ganolog.  Teimlai fod pwynt yn dod pan oedd yn rhaid gofyn rhai cwestiynau sylfaenol am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Ychwanegodd fod dyletswydd arnom ni i gyd dros y misoedd nesaf i wneud achos dros bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn gyffredinol, a thros yr angen am ragor o fuddsoddiad gan nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Pwysleisiodd ein bod, wrth bennu'r gyllideb, wedi ceisio diogelu gwasanaethau rheng flaen gan gadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i isafswm ar yr un pryd,  ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2024/25 - 2028/29 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am raglen gyfalaf bum mlynedd 2024/25 hyd at 2028/29. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yw £86.930m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £50.374m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £36.556m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Roedd y rhaglen gyfalaf newydd yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd, ond cynigiwyd tanymrwymo peth o'r cyllid oedd ar gael i roi hyblygrwydd ar draws y rhaglen i dalu am unrhyw gostau ychwanegol. Mae strategaeth gyfalaf yr Awdurdod, sy'n ofynnol gan y Côd Darbodaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, wedi'i diweddaru ac mae'n nodi'r cyd-destun hirdymor y gwneir penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi ynddo. Mae'n rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo a'r effaith ar gyflawni canlyniadau blaenoriaethol. Mae'r strategaeth gyfalaf yn cwmpasu gwariant ar Gronfa'r Cyngor a chyfalaf HRA a chafodd ei chynnwys fel Atodiad C i'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 

 

7.1  bod y Rhaglen Gyfalaf bum mlynedd a'r cyllid, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda chyllideb 2024/25 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2025/26 tan 2028/29 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

7.2  bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid Cyngor Sir neu allanol disgwyliedig;

7.3    bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y'i nodir yn Atodiad C o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo;

7.4  bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024.

 

</AI7>

 

8.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2024-25 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi.

 

Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu'n derfynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 

 

8.1  bod y Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024-25 a'r argymhellion ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

8.2   bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

 

 

9.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2023 I RHAGFYR 31AIN 2023 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill hyd at 31 Rhagfyr 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

10.

STRATEGAETH LEOL RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet fod Adran 10.7 o Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gyhoeddi eu strategaeth a'u cynllun rheoli perygl llifogydd lleol. Bydd y strategaeth, a gefnogir gan gynllun mwy tactegol, yn egluro ein sefyllfa bresennol o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, ein nodau ar gyfer 2030 a sut y byddwn yn eu cyflawni. Y ddogfen hon oedd y strategaeth leol a bydd y cynllun yn cael ei lunio yn chwarter 4.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo'r Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

 

11.

PENODI LLYWODRAETHWR AR RAN YR AWDURDOD LLEOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod lle gwag fel Llywodraethwr ALl ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Brynaman. Mae'r Cynghorydd Glynog Davies (Cadeirydd y Corff Llywodraethu) a'r Pennaeth yn enwebu Miss Gabriella Robinson, sydd eisoes wedi gwasanaethu am gyfnod fel rhiant-lywodraethwr. Roeddent o'r farn y byddai'r Corff Llywodraethu ar ei ennill o gael ei harbenigedd fel Llywodraethwr ALl.

 

O dan amgylchiadau arferol, penodir Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol gan y Cynghorydd Glynog Davies yn ei rôl fel Aelod Cabinet dros Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg.  Fodd bynnag, o ystyried yr amgylchiadau, roedd yn cael ei ddwyn gerbron y Cabinet i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Miss Gabriella Robinson i swydd Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd Brynaman.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: