Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 4ydd Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19EG CHWEFROR 2024 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2024 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

LLAWLYFR CYNNAL A CHADW Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - RHAN 4.8 - CYNLLUN GWASANAETH DROS Y GAEAF A THYWYDD GARW PRIFFYRDD pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cabinet yn ystyried adroddiad ar y Llawlyfr Cynnal a Chadw sy’n ffurfio Rhan 4 o'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd ac sy’n cael ei ddatblygu fel portffolio o lawlyfrau penodol sy'n ymdrin â rheoli ystod o gategorïau o asedau priffyrdd. Mae rhannau 4.1 i 4.7 wedi'u mabwysiadu o'r blaen. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys manylion am y Rhan 4.8 arfaethedig sy'n ymdrin â Chynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd.

 

Mae Rhan 4.8 o'r Llawlyfr Cynnal a Chadw yn nodi sut mae'r Cyngor Sir yn rheoli digwyddiadau eira, ein dull o drin llwybrau troed a llwybrau beicio, meysydd parcio, defnyddio a rheoli biniau graeanu a sut rydym yn atal gweithrediadau graeanu ar groesfannau rheilffordd. Mae adran Gwasanaeth Gaeaf Rhan 4.8 yn dod i ben drwy nodi sut mae adnoddau'n cael eu rheoli o ran peiriannau a cherbydau, personél gweithredol a stociau halen.  Caiff adrannau pellach eu cyflwyno yn y dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet bod angen diweddaru'r tabl o dan baragraff 4.8.10 ar dudalen 56 y Llawlyfr Cynnal a Chadw Priffyrdd (tudalen 32 o'r pecyn agenda) a byddai hyn yn cael ei wneud cyn cyhoeddi'r ddogfen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Rhan 4.8 o Lawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael eu mabwysiadu.

 

 

7.

POLISI CODI TÂL - TALIADAU GOFAL CYMDEITHASOL - DIWYGIADAU I'R POLISI PRESENNOL pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr adolygiad a gynhaliwyd o'r Polisi Codi Tâl presennol ar gyfer Taliadau Gofal Cymdeithasol ac yn manylu ar y diwygiadau arfaethedig.

 

Diweddarwyd y polisi codi tâl presennol ddiwethaf ym mis Ebrill 2019 a theimlwyd ei bod bellach yn bryd adolygu'r polisi ac ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol. O ganlyniad, yn seiliedig ar adolygiad lefel uchel yn y tîm gweithredol ac mewn ymgynghoriad â swyddogion eraill, nodwyd sawl newid, a byddai natur y newidiadau yn golygu bod angen awdurdod i ymgynghori'n ffurfiol ar y newidiadau allweddol arfaethedig yn y polisi. Roedd yr adroddiad yn nodi'r diwygiadau arfaethedig a awgrymwyd gan ofyn am awdurdod i ymgynghori yn eu cylch.

 

Nodwyd, er bod cyfeiriad yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad am yr angen i gael penderfyniad gan y Cyngor, nid oedd hynny'n wir mewn gwirionedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi awdurdod i ddechrau'r broses ymgynghori ar y newidiadau allweddol arfaethedig i'r Polisi Codi Tâl

 

8.

NODI BOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD DERYK CUNDY AR GRWP LLYWODRAETHU LLESIANT DELTA WELLBEING CYF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet bod hysbysiad wedi dod i law gan y Gr?p Llafur i enwebu'r Cynghorydd Martyn Palfreman i gymryd lle'r Cynghorydd Deryk Cundy ar Gr?p Llywodraethu Llesiant Delta Cyf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newid arfaethedig, fel y nodir yn yr adroddiad.  

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf</AI12>

 

11.

CAIS GRANT TWF BUSNES FFYNIANT A RENNIR GAN LISA FEARN LTD T/A Y SIED

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'i gystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion ar gais a dderbyniwyd am Grant Twf Busnes o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo dyfarnu Grant Twf Busnes o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Lisa Fearn Ltd - Y Sied.