Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd P.A Palmer.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnwyd sylw'r Bwrdd Gweithredol at gofnod 13 o'r cofnodion uchod ynghylch mabwysiadu fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Nododd, gan fod y newidiadau arfaethedig i'r polisi yn rhai bychain ac nad oeddent yn effeithio ar y polisi sylfaenol, fod y cofnodion wedi cael eu cymeradwyo gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Arbedion Effeithlonrwydd a Chydweithio, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr uchod, lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant o £126k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £1,716k gan yr adrannau. Rhagwelid tanwariant o £436k yn y Cyfrif Refeniw Tai. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 6.1 derbyn yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb;
6.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17 PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf mewn perthynas â chyllideb 2016/17, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2017. Ar sail y gyllideb o £67.178m a ragwelid, nodwyd bod amrywiad o £23.807m a oedd i'w briodoli i lithriad y prosiectau rhwng y blynyddoedd ariannol yn hytrach nag unrhyw newidiadau yn y gost.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.
|
|
FERSIWN DIWYGIEDIG O'R POLISI GWEITHIO YSTWYTH PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Gweithio Ystwyth y Cyngor gyda'r nod o wneud yn fawr o'r cyfleoedd ar gyfer gweithio ystwyth i ategu ei amcanion strategol drwy'r canlynol: · Moderneiddio'r gwasanaethau a ddarperir:- defnyddio technoleg newydd i ddarparu gwasanaethau, darparu posibiliadau ar gyfer symleiddio prosesau a bod yn agosach at y cwsmeriaid; · Recriwtio a Chadw:- Arferion gwaith gwahanol i helpu i recriwtio a chadw gweithwyr a werthfawrogir; · Strategaeth Swyddfeydd:- Byddai gweithio ystwyth yn helpu i leihau'r anghenion o ran swyddfeydd ac i ddefnyddio adeiladau'n fwy effeithiol; · Agenda gweithio hyblyg:- byddai gweithio ystwyth yn ategu'r agenda ehangach o ran cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan roi bod i weithlu mwy cynhwysol; · Amgylcheddol:- gall gweithio ystwyth olygu bod llai o deithiau car, bod llai o dagfeydd yn ystod yr oriau brig, a bod llai o lygredd yn cael ei greu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Gweithio Ystwyth.
|
|
STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2017 - 2020 PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch mabwysiadu Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-20 sy'n disgrifio blaenoriaethau a dyheadau strategol y Cyngor o ran y maes digidol ac yn rhoi braslun o gynllun y Cyngor i wireddu ei weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Mae hyn yng ngoleuni potensial technoleg ddigidol i drawsnewid y Sir a bywydau'r trigolion ac i greu arbedion hirdymor i'r Cyngor ar yr un pryd.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2017, wedi cymeradwyo'r Strategaeth yn amodol ar newidiadau, sef, cynnwys cyfeiriadau at aelodau etholedig a'r modd y byddai'r strategaeth o fudd mawr i'w gwaith a'u ffyrdd o ymwneud â'r gymuned.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo StrategaethTrawsnewid Digidol 2017-2020 yn amodol ar gynnwys cyfeiriad at aelodau etholedig.
|
|
RHYBYDDION O GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR AR Y 22AIN CHWEFROR 2017:- Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD PETER HUGHES GRIFFITHS “Mae gwir angen rhoi sylw arbennig ac uniongyrchol i’n hardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Felly, bod y Cyngor hwn yn sefydlu GWEITHGOR CEFN GWLAD a fyddai’n cynnwys cynrychiolwyr o’r tri Gr?p sydd ar y Cyngor. Byddai’r gweithgor (o ddilyn patrwm y Gweithgor Iaith) yn medru ymchwilio i sefyllfa ein hardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin trwy gasglu gwybodaeth, ymchwilio a derbyn tystiolaeth, cyn cyflwyno maes o law strategaethau, polisïau a chynlluniau gweithredu ger bron y Cyngor llawn.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths, a oedd wedi cael ei gyfeirio i'w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2017:-
“Mae gwir angen rhoi sylw arbennig ac uniongyrchol i’n hardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Felly, bod y Cyngor hwn yn sefydlu GWEITHGOR CEFN GWLAD a fyddai’n cynnwys aelodau o'r tri Gr?p sydd ar y Cyngor. Byddai’r Gweithgor (o ddilyn patrwm y Gweithgor Iaith) yn medru ymchwilio i sefyllfa ein hardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin trwy gasglu gwybodaeth, ymchwilio a gwahodd a derbyn tystiolaeth, cyn cyflwyno maes o law strategaethau, polisïau a chynllun gweithredu ger bron y Cyngor llawn.”
Gan fod yr etholiadau llywodraeth leol ar ddod, roedd y Bwrdd Gweithredol o'r farn y byddai'n synhwyrol i'r weinyddiaeth newydd roi ystyriaeth i sefydlu'r Gweithgor Cefn Gwlad a awgrymir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio trafod sefydlu Gweithgor Cefn Gwlad er mwyn i'r weinyddiaeth newydd ystyried y mater ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol sydd ar ddod.
|
|
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY “Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod yr emynydd William Williams, Pantycelyn, Sir Gaerfyrddin, fel un o’r Cymry mwyaf a fu erioed ac yn ymrwymo i gynnal achlysur arbennig i ddathlu trichanmlwyddiant ei eni er mwn cydnabod ei gyfraniad anferth i emynyddiaeth ar raddfa ryngwladol a’i effaith ar fywyd ein cenedl, yn ogystal ag hyrwyddo gwybodaeth am ei fywyd a’i waith mewn pob cyhoeddusrwydd addas a phosibl gan y cyngor yn ystof weddill y flwyddyn.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd A. Lenny, a oedd wedi cael ei gyfeirio i'w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2017:-
“Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod yr emynydd William Williams, Pantycelyn, Sir Gaerfyrddin, fel un o’r Cymry mwyaf a fu erioed ac yn ymrwymo i gynnal achlysur arbennig i ddathlu trichanmlwyddiant ei eni er mwyn cydnabod ei gyfraniad anferth i emynyddiaeth ar raddfa ryngwladol a’i effaith ar fywyd ein cenedl, yn ogystal â hyrwyddo gwybodaeth am ei fywyd a’i waith mewn pob cyhoeddusrwydd addas a phosibl gan y cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn.”
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod amryw o ddigwyddiadau wedi'u cynnal eisoes drwy'r sir i ddathlu trichanmlwyddiant geni William Williams ar 11 Chwefror 1717, a bod y Cyngor wedi cael cais am gymorth grant ar gyfer digwyddiad a gynhelir yn Llanymddyfri yn y dyfodol agos i ddathlu ei fywyd, ei waith a'i ddylanwad ar hanes Cymru. Nodwyd hefyd nad oedd y Cyngor yn ymwneud yn uniongyrchol â'r dathliadau ond mai'r bwriad oedd y byddai pob cymuned leol yn nodi'r trichanmlwyddiant mewn ffyrdd oedd yn gweddu orau i'w gofynion unigol, ac y byddai'r Cyngor yn rhoi ystyriaeth i unrhyw geisiadau ychwanegol a ddaw i law am gymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn ardal Llanymddyfri.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r mater.
|
|
HARBWR PORTH TYWYN - PRYDLES RNLI PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad ynghylch yr amodau arfaethedig y byddai'r Awdurdod yn cytuno arnynt gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ar gyfer rhoi prydles o 125 mlynedd, am rent hedyn pupur o £1.00 y flwyddyn, ar ddarn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Harbwr Porth Tywyn at ddibenion adeiladu gorsaf bad achub newydd. Nodwyd, o dan amodau'r cytundeb, y byddai'r orsaf bad achub bresennol yn cael ei hildio i'r Awdurdod er mwyn ei defnyddio fel swyddfa'r harbwr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r brydles arfaethedig ar dir yn Harbwr Porth Tywyn i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ar sail yr amodau a nodir yn yr adroddiad.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
Y DATBLYGIADAU O RAN HARBWR PORTH TYWYN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 13 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu i'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad manwl ynghylch cynigion ar gyfer rhedeg Harbwr Porth Tywyn yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a bod y Cyngor yn rhan o gytundeb cyfyngol, na fydd yn para'n hwy na chwe mis, i drafod opsiwn posibl o ran partneriaeth reoli ar gyfer Harbwr Porth Tywyn.
|
|
CYD-FENTER CROSS HANDS - CYTUNDEB ATODOL ARFAETHEDIG Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 13 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu i'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad manwl ynghylch cynigion bod yr Awdurdod yn cychwyn cytundeb atodol gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chyd-fenter Cross Hands.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr Awdurdod yn llunio cytundeb atodol i Gytundeb Cyd-fenter Cross Hands rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru, dyddiedig 13 Medi 2005, fel y nodwyd yn Atodiad 1 o'r Adroddiad hwn.
|
|
GORLLEWIN CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 13 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu i'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad manwl ynghylch trafodaethau eiddo mewn perthynas â Datblygiad Gorllewin Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r trafodaethau arfaethedig, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
|