Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L. Evans.</AI1> |
|||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod. |
|||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr aelodau. |
|||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||
STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 - 2019/20 PDF 212 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2017/2018 a'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/2019 a 2019/2020 a oedd yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.
Amlinellwyd i'r aelodau gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb a oedd yn cynnwys cyllid ychwanegol posibl gan Lywodraeth Cymru am nifer o feysydd, yn bennaf, Gwasanaethau Cymdeithasol – £600k i gefnogi'r pwysau o ran y cyflog byw cenedlaethol, a chymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd wedi'u targedu at fusnesau ar y stryd fawr. Tynnwyd sylw hefyd at Ofal Cartref lle byddai £150k yn ychwanegol ar gael drwy gynyddu'r isafswm wythnosol o £60 i £70. Fodd bynnag, dywedodd hyd nes y ceir cadarnhad o ran gwerth yr holl grantiau penodol, a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb, roedd elfen o risg ariannol yn rhan o'r cynllun presennol.
Yn ogystal â'r uchod, dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod trafodaethau wedi bod ar waith ag Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor, yn unol â'r disgresiwn a ganiateir o dan y rheoliadau, o ran y posibilrwydd o wneud addasiadau i Isafswm y Ddarpariaeth Refeniw o falans gostyngol ar gost o 4% i ddefnyddio dull llinell syth o 2.5% petai hyn yn cael ei gymeradwyo gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cyngor, gallai arwain at ryddhau arian sydd o bosibl tua £2.4m. Petai'r addasiad yn cael ei gymeradwyo, ystyriwyd y byddai'n rhesymol i'r arbedion amcangyfrifedig gael eu defnyddio ar gyfer eitemau unigol, neu eitemau y gellid eu cefnogi yn y tymor byr drwy ddefnyddio arian wrth gefn. Yn hynny o beth, cynigiwyd bod y swm o £1m yn cael ei gynnwys yn Strategaeth Cyllideb Refeniw 2017/18 ac £1.5m i'r rhaglen gyfalaf yn 2017/18 er mwyn hwyluso'r gwaith brys ar gyfer Harbwr Porth Tywyn.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth ystyried y ffactorau uchod, ynghyd â'r ffaith bod yr Awdurdod wedi elwa ar setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, bu'n bosibl adolygu'r arbedion effeithlonrwydd cychwynnol a gynigiwyd yn y gyllideb wreiddiol. O ganlyniad, nodwyd £1.92m yn ychwanegol a allai fod ar gael yn 2017/18 a fyddai'n golygu bod modd rhoi ystyriaeth bellach i'r meysydd canlynol:
1. Adborth o'r ymgynghoriad ar yr arbedion a'r hyn y dylid ei roi ar waith, 2. Y cynnydd yn lefel y Dreth Gyngor 3. Unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn meysydd gwasanaethau penodol. Yn dilyn yr ystyriaeth honno, cynigiwyd y newidiadau canlynol i rai o'r cynigion am arbedion effeithlonrwydd yn yr adroddiad a oedd gobeithio yn dangos bod yr Awdurdod wedi gwrando ar y safbwyntiau a fynegwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori:-
· Bod y cynnig mewn perthynas â grantiau i'r sector gwirfoddol yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod hirach o amser a bod £135k o'r gostyngiad arfaethedig yn cael ei wrthdroi a bod gostyngiad o £35k fesul blwyddyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2017/18 - 2021/22 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a nodai'r holl gynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2017/18 – 2021/2022 gan ystyried yr ymarfer ymgynghori a gyflawnwyd.
Nododd y Bwrdd mai £71.760m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2017/18. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £46.642m gan y Cyngor Sir drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn, y grant cyfalaf cyffredinol a'r gweddill o £25.118m gan ffynonellau allanol. Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y 4 blynedd gyntaf o 2017/18 i 2020/21 er y byddai diffyg yn 2021/2022 a fyddai'n cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn i ddod.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd y byddai cyfanswm y rhaglen dreigl bum mlynedd yn gweld buddsoddiad o £210m (cyllid £124m gan y Cyngor Sir a £85m o gyllid allanol) a bod yr Awdurdod, fel rhan o'r rhaglen honno wedi cynnwys prosiectau newydd ychwanegol a oedd o bwys i'r sir, er enghraifft cynlluniau newydd yn Harbwr Porth Tywyn, Parc Gwledig Pen-bre, Cynnal a Chadw Priffyrdd a Phontydd, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Ffordd Gyswllt Cross Hands, Coridor Trafnidiaeth Dyffryn Tywi, Gweithdai Glanaman a Thechnoleg Gwybodaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||
CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2017/18 - 2019/20 A LEFELAU RHENTI TAI 2017/18 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, ac a nodai'r holl gynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2017/2020. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 20 Ionawr 2017 fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol yn darparu'r CHS erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith) yn darparu'r buddsoddiad i gynnal y CHS+ ac yn dechrau ar y buddsoddiad ar gyfer Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy at y pryder a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, yn ei gyfarfod ar 20 Ionawr 2017, ynghylch effaith bosibl newidiadau Budd-dal Tai Llywodraeth y DU, ar y rheiny o dan 21 oed, a gofynnodd a oedd effaith y ddeddfwriaeth arnynt yn cael ei monitro, yn enwedig o ran digartrefedd cudd a chenhedlaeth y rhai sy'n cysgu ar soffas ffrindiau ac sydd o dan 25 oed. Wrth gydnabod y pryderon hyn, amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai i'r Bwrdd y grwpiau amrywiol na effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth. Cadarnhaodd fod yr Awdurdod, ynghyd â nifer o'i bartneriaid, Cymdeithasau Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol eraill yn monitro effaith y ddeddfwriaeth. Yn ogystal, byddai'r Is-adran Dai yn darparu cyngor ac arweiniad i'r rheiny yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad (tudalen 253), ynghyd â sefydlu Strategaeth Tai ar gyfer y rheiny dan 35 oed.
Yn dilyn ystyried argymhellion Gr?p Llywio Safon Tai Sir Gaerfyrddin
PENDERFYNODD Y BWRDD GWEITHREDOL YN UNFRYDOL ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||
SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) "DARPARU'R PETHAU PWYSIG" CYNLLUN BUSNES 2017-20 PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Safon Tai Sir Caerfyrddin a Mwy 'Cyflawni'r Hyn sydd o Bwys 2017-2020', a prif bwrpas y cynllun oedd:
• egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid; • cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf; a • llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA), 2017/18, sy'n gyfwerth â £6.1m.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai pe bai'r adroddiad a'i argymhellion yn cael eu mabwysiadu, byddai'n arwain at £55m yn cael ei wario dros y tair blynedd nesaf yn cynnal a chadw a gwella ymhellach cynllun Safon Tai Sir Caerfyrddin a Mwy (£25m) a darparu'r Cynllun Tai Fforddiadwy (£30m) drwy ystod o ddatrysiadau gan gynnwys tai newydd. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||
POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2017-2018 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn unol â'r gofynion uchod, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2017–18 cyn iddynt gael eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol i'w mabwysiadu'n derfynol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Rheoli'r Trysorlys, 1 Ebrill 2016 – 31 Rhagfyr 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||||
HARBWR PORTH TYWYN - GWAITH CYNNAL A CHADW YN Y DYFODOL PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn cofnod 11 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2015, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ganlyniad yr archwiliadau i'r gwaith carthu y mae angen ei wneud yn Harbwr Porth Tywyn, ynghyd ag adolygiad o'r gofynion cynnal a chadw ar gyfer waliau rhestredig Gradd II yr harbwr. Roedd yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r materion a nodwyd, y risgiau a'r costau ynghyd ag ystod o opsiynau cynnal a chadw yn y dyfodol a oedd yn amrywio o 'ymagwedd gwneud dim' i raglen gynnal a chadw cynaliadwy wedi'i chynllunio a oedd yn rhoi rhyw fath o sicrwydd am y costau parhaus o ran y gwaith carthu a'r atgyweiriadau i wal yr harbwr. Fodd bynnag, nid oedd yr ymagwedd 'gwneud dim' yn berthnasol i waliau'r harbwr wrth ystyried eu statws rhestredig.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, yn ystod ei gyfarfod ar 20 Ionawr, 2017 wedi cymeradwyo canfyddiadau'r adroddiad ac wedi argymell sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael o fewn cyllidebau refeniw a chyfalaf y Cyngor i gynnal yr harbwr yn barhaus.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, mewn ymateb i argymhelliad gan y pwyllgor craffu, fel rhan o'i ystyriaeth gynharach o'r cynigion yn y gyllideb (Cofnod 5 a 6 uchod) ei fod wedi cytuno i roi £2.34m yn ychwanegol o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor i ariannu gwaith brys i'r Harbwr.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cundy ynghylch y posibilrwydd o werthu unrhyw dywod a silt o'r môr a oedd yn cael ei garthu o'r harbwr er mwyn lliniaru'r gost o garthu a gwneud gwaith atgyweirio i waliau'r harbwr, dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol nad oedd hyn yn bosibl.
Cafwyd datganiad yn cefnogi'r cynigion ar gyfer yr harbwr gan y Cynghorydd J. James.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, bod y rhaglen gynnal a chadw ar gyfer Harbwr Porth Tywyn a'r cynigion cyllido yn cael eu cymeradwyo. |
|||||||||
SAFLE CWRS FFORDD GAEEDIG AR GYFER RASIO BEICS PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2016 (cofnod 5), bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion i ddatblygu Cwrs Ffordd Gaeedig ar gyfer Rasio Beics yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd yn dilyn hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb gan berchenogion tir yn Sir Gaerfyrddin a allai fod â diddordeb mewn gweithio gyda'r Awdurdod a Beicio Cymru i ddatblygu'r cyfleuster ar eu tir, nodwyd dau safle posibl sef Parc Gwledig Pen-bre sy'n berchen i'r Cyngor a thir ar Gae Rasio Ffoslas. Dywedwyd wrth y Bwrdd, ar ôl ystyried y ddau safle posibl, bod Beicio Cymru, yn amodol ar gostau adeiladu ffafriol, yn ffafrio'r datblygiad ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cundy ynghylch yr amserlen o ran y ddarpariaeth ar gyfer y cwrs, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai pob ymdrech yn ei wneud er mwyn hwyluso'r ddarpariaeth ar frys.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||
GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL DRAFFT – CANOL TREF LLANELLI PDF 383 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion drafft i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli gyda'r nod o adlewyrchu'r amcanion adfywio corfforaethol ar gyfer canol y dref, ac ar yr un pryd sicrhau bod y materion ynghylch bywiogrwydd a hyfywedd yn cael ystyriaeth briodol gan ddefnyddio darpariaethau'r polisi cynllunio cenedlaethol. Dywedwyd wrth y Bwrdd, petai'r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno, byddai'n caniatáu ystod o ddefnyddiau o fewn ardal ofodol benodol heb angen cyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, yn amodol ar yr Awdurdod yn rhoi 'tystysgrif cydymffurfiaeth'.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cundy, ynghylch darparu cynllun ar gyfer datblygu Llanelli, cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor fod prif gynllun 30 mlynedd eisoes wedi cael ei baratoi, a oedd yn cael ei weithredu gan Dasglu Llanelli, ac roedd ar gael i'r cyhoedd ei weld.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|