Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Gravell. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod. |
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 13eg Ebrill, 2016 wedi penderfynu “sefydlu panel apêl i ymdrin â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol, gan roi rôl ymgynghorol i swyddogion perthnasol, ochr yn ochr ag aelodau â phleidlais – yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant a'r aelod lleol ar gyfer y ward berthnasol”.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol, gan mai swyddogaeth weithredol fyddai penderfynu ar yr apeliadau, y byddai angen iddo fabwysiadu trefniadau llywodraethu a fanylai ar y ffordd y byddid yn gwneud penderfyniadau apêl. I'r perwyl hwnnw, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r trefniadau llywodraethu arfaethedig a oedd wedi'u nodi yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer y Panel Apêl Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
|
|
TIR A DDELIR MEWN YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL- CANIATÂD YMDDIRIEDOLWR PDF 488 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gais a oedd wedi dod i law gan Fforwm Trimsaran am i'r Cyngor, yn rhinwedd bod yn Ymddiriedolwr Maes Hamdden Trimsaran, roi caniatâd i'r Fforwm, yn unol â phrydles ddyddiedig 25ain Gorffennaf, 2000, is-osod gwagle'r to yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran i Awel Aman Tawe, elusen ynni gymunedol, at ddibenion gosod paneli haul.
PENDERFYNWYD bod Cyngor Sir Caerfyrddin, fel Ymddiriedolwr Maes Hamdden Trimsaran, yn rhoi caniatâd i Fforwm Trimsaran is-osod gwagle'r to yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran i Awel Aman Tawe at ddibenion gosod paneli haul.
|