Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 9fed Mai, 2016 9.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd. M.Gravell.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

DATBLYGU CWRS FFORDD GAEEDIG AR GYFER RASIO BEICS. pdf eicon PDF 545 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cynigion ar gyfer datblygu cwrs ffordd gaeedig ar gyfer rasio beics. Roedd yr Awdurdod yn y broses o ddatblygu strategaeth beicio (a cherdded) ar gyfer y Sir, gyda'r nod o wneud y Sir yn "Ganolbwynt Beicio Cymru”.  Bydd tri phrif faes i'r strategaeth - llwybrau datblygu, digwyddiadau a seilwaith a byddai'n cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ei hystyried yn y misoedd nesaf.

 

O ran seilwaith, un o'r meysydd allweddol sy'n cael ei ystyried yn hanfodol gan Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru ar gyfer datblygu beicio ymhellach yng Nghymru yw cyfleusterau cwrs rasio ffordd gaeedig o safon.  Defnyddir cyrsiau ffordd gaeedig ar gyfer digwyddiadau chwaraeon beicio cystadleuol, rasys ffordd, digwyddiadau hamdden a drefnir, hyfforddi a gweithgareddau hyfforddiant ac fel lleoliadau beicio anffurfiol sy'n cynnig amgylchedd di-draffig diogel.

 

Mae Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru wedi rhoi eu sêl bendith a'u cefnogaeth lwyr i gyfleuster ffordd gaeedig dan lifoleuadau pwrpasol yn Sir Gaerfyrddin.  Cytunwyd ar gyllid yn rhaglen gyfalaf yr Awdurdod, ac ni ragwelir y bydd costau cynnal yn y dyfodol.  Byddai'r cyfleuster yn unol â'r Safon Brydeinig a hwn fyddai'r gorau yng Nghymru os nad yn y DU. Byddai'n denu gwersylloedd hyfforddi, rasys a digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1     hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb gan dirfeddianwyr yn Sir Gaerfyrddin y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn cydweithio â'r Awdurdod a Beicio Cymru i ddatblygu'r cyfleuster ar eu tir;

 

5.2     bod yr Awdurdod yn arwain o ran gwaith dylunio ac adeiladu'r cyfleuster, ac y bydd hwn yn cael ei gafael drwy'r cytundeb fframwaith mewnol;

 

5.3     os bydd trydydd parti'n cael ei ffafrio, bydd yr Awdurdod yn llofnodi prif brydles â'r tirfeddiannwr, gan roi is-brydles i Beicio Cymru i weithredu'r cyfleuster, heb unrhyw gost i'r Awdurdod.

 

 

6.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

</AI6>

 

7.

Y GOLEUDY, CANOLFAN FENTER, DAFEN, LLANELLI.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 6 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch dyfodol Canolfan Fenter y Goleudy, Dafen, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

 

8.

SAFLE YSGOL PANTYCELYN, LLANYMDDYFRI.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 6 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch dyfodol Safle Ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1     camu ymlaen ag Opsiwn 1, fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

8.2   cymeradwyo'r argymhellion eraill y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.