Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 17eg Hydref 2016 yn gofnod cywir.
|
||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2015/16 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN PDF 301 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol Adroddiad Monitro Blynyddol 2015/16 ynghylch gweithredu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a'r Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol. Roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol, sef y cyntaf i gael ei lunio, wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31ain Hydref 2016, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, ac roedd yn ddatganiad ffeithiol yn unig ynghylch gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol. Roedd yn darparu llinell sylfaen y gallai'r adran ei defnyddio i asesu a monitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud wrth weithredu polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol, a ydynt yn gweithredu ac yn gweithio'n effeithiol, ac yn helpu i nodi a oedd unrhyw dueddiadau hirdymor sy'n golygu bod angen o bosib roi ystyriaeth i ddiwygiadau posibl i'r Cynllun yn y dyfodol.
Dywedwyd bod y gwaith monitro wedi dechrau ar gyfer yr ail adroddiad, ac y byddai'r Cyngor yn ceisio sylwadau hyd at fis Mawrth 2017 ynghylch gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol a fyddai wedyn yn cyfrannu at yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol i'w gyflwyno, drwy broses wleidyddol y Cyngor, i Lywodraeth Cymru.
Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1 cyfeiriodd y Cynghorydd D.M. Cundy at bwysigrwydd y ddogfen, gan ei bod yn rhoi manylion am weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol ym mhob rhan o'r sir, a mynegodd farn y byddai'n cael budd o gyfraniad holl Aelodau'r Cyngor. Yn unol â hynny, gofynnodd fod y Bwrdd Gweithredol yn rhoi ystyriaeth i'r posibilrwydd bod y Cyngor yn cynnal trafodaeth flynyddol ynghylch yr Adroddiad Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
|
||||||||||
ADOLYGU'R POLISI YNGHYLCH MYNEDIAD AT DAI CYMDEITHASOL PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Gan fod y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid yr eitem hon).
Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad i'w ystyried ar yr adolygiad a gynhaliwyd ynghylch Polisi Mynediad at Dai Cymdeithasol y Cyngor a luniwyd yn sgil ymgynghori'n eang â'r cyhoedd a phartneriaid y Cyngor. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod gofal wedi'i gymryd, wrth lunio'r adroddiad, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn ymateb i'r ymgyngoriadau a oedd wedi dod i law. Y prif newidiadau i'r polisi oedd: · Symleiddio'r polisi, · Byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl yn Sir Gaerfyrddin ac i'r rheiny sydd â chysylltiad â'r Sir; · Lleihau nifer y bandiau cymhwyso o bedwar i ddau; · Dileu'r system bwyntiau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf fel yr oedd ar 31ain Awst 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant o £1,971k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,975k gan yr adrannau. Rhagwelid tanwariant o £667k yn y Cyfrif Refeniw Tai. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 12.1 derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb;
12.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt. |
||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17 PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2016/17, fel yr oedd ar 31ain Awst, 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn. |
||||||||||
STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2017/2018 i 2019/20 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad uchod a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar Gyllideb Refeniw 2017/18 a'r ddwy flynedd ariannol dilynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am amserlen y broses gyllidebu, yn rhoi crynodeb o setliad dros dro Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol, ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai angen i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Hefyd roedd yr adroddiad yn sylfaen i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei chynnal yn ystod Tachwedd 2016 – Ionawr 2017 gyda phwyllgorau craffu y Cyngor a'r gymuned cyn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ac wedyn i'r Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu elfennau allweddol y fersiwn drafft o strategaeth y gyllideb ac yn tynnu sylw at y ffaith y byddai setliad niwtral dros dro Sir Gaerfyrddin, er ei fod yn cael croeso, yn dal yn cael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor o ystyried ffactorau chwyddiant, newidiadau demograffeg a chyfrifoldebau newydd neu'r galw am wasanaethau. Fodd bynnag, roedd hefyd yn galluogi'r Cyngor i ailystyried y targedau effeithlonrwydd mewn perthynas ag ysgolion a'r cynnydd yn y Dreth Gyngor a gynigiwyd yn ei ragolygon cyllidebol, ac yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, parcio mewn canol trefi, cludiant ysgol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol a oedd yn codi tâl am ofal preswyl o £24-£30k.
Nodwyd bod y strategaeth yn cynnwys £7.8 miliwn ar gyfer gwaith dilysu hanfodol ynghyd â £2.4 miliwn yn ychwanegol i ymateb i bwysau gwariant newydd a nodwyd gan adrannau, a bod £1.8 miliwn o'r swm hwn wedi cael ei ddyrannu i Ofal Cymdeithasol. Unwaith eto roedd yr adrannau wedi clustnodi arbedion effeithlonrwydd fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a oedd yn werth cyfanswm o £8.8 miliwn ym Mlwyddyn 1 ynghyd â £16 miliwn yn ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ganlynol gan sicrhau y gallai'r Awdurdod, ar sail y rhagamcanion presennol, ddarparu gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd â cheisio sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor ar lefel dderbyniol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi golwg gyffredinol ar y cronfeydd wrth gefn, a oedd i'w hadolygu ymhellach, gan ragweld y byddai unrhyw arian wrth gefn sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r rhaglen gyfalaf a chyflawni cyfleoedd adfywio, a fyddai'n cynnal twf yn y Sir yn y dyfodol.
Roedd y cynigion cyllideb cyfredol, gan ystyried y ffactorau uchod, wedi cyfyngu'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor am 2017/2018 i 2.5%.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDL, fod cynnwys adroddiad y gyllideb yn cael ei nodi a'i gymeradwyo fel sylfaen i ymgynghori, a bod ymgais benodol yn cael ei gwneud i gael sylwadau gan ymgyngoreion ynghylch y cynigion effeithlonrwydd y manylwyd arnynt yn atodiad 'A' i'r adroddiad a ddosbarthwyd. |
||||||||||
Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn bwrw golwg gychwynnol ar y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd o 2017/18 i 2021/22, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried yn Chwefror, 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo, at ddibenion ymgynghori, y rhaglen gyfalaf arfaethedig.
|
||||||||||
ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016/17 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 23ain Chwefror, 2016 - gweler Cofnod 9), cafodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod o 1af Ebrill 2016 hyd 30ain Medi 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
ADOLYGIAD O ETHOLAETHAU SENEDDOL YNG NGHYMRU 2018 - CYNIGION CYCHWYNNOL PDF 192 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 13 o'i gyfarfod ar 17eg Hydref, 2016, ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o gynigion cychwynnol y Comisiwn Ffiniau ynghylch Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2018, i'r graddau y maent yn effeithio ar Sir Gaerfyrddin, ynghyd ag ymateb anwleidyddol drafft iddo ar sail yr heriau gweinyddol a logistaidd a godwyd gan y cynigion.
Dywedodd y Prif Weithredwr, wrth gyfeirio at yr ymateb drafft, fod swyddogion, wrth archwilio'r cynigion, wedi ymdrechu i gadw cymaint o'r sir gyda'i gilydd â phosibl, yn ogystal ag ystyried gofynion mathemategol y Comisiwn Ffiniau. Wrth wneud hynny, cynigiwyd y dylid cadw'r holl etholaethau gogleddol presennol yn y sir yn etholaeth arfaethedig Sir Gaerfyrddin, ac eithrio Llangyndeyrn, y cynigiwyd y byddai'n cael ei chynnwys yn etholaeth newydd Llanelli a Lliw. Awgrymwyd hefyd na ddylid derbyn y cynnig i gynnwys wardiau etholiadol Llangyfelach a Mawr yn etholaeth Llanelli a Lliw, ac y dylid eu cynnwys yn Etholaeth Gorllewin Abertawe.
Cadarnhaodd hefyd fod yr ymateb arfaethedig wedi bod yn seiliedig ar y materion gweinyddol a logistaidd a godwyd gan y cynigion, ac y byddai pleidiau gwleidyddol y Cyngor, ac unigolion, yn gallu ymateb yn uniongyrchol i'r Comisiwn Ffiniau ynghylch y cynigion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||
RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD GWEITHREDOL PDF 925 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith a luniwyd drwy gydgysylltu â'r holl adrannau a Rheolwr Busnes y Bwrdd Gweithredol a oedd yn tynnu sylw at y prif benderfyniadau polisi a chyllidebol oedd i'w gwneud dros y 12 mis nesaf. Nodwyd y byddai'r rhaglen yn dal i gael ei hadolygu a'i chyhoeddi ddwywaith y flwyddyn gan sicrhau y byddai rhaglen gyfredol ar waith yn barhaus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Flaenraglen Waith a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo i'w chyhoeddi. |