Agenda a chofnodion drafft

Cabinet - Dydd Llun, 17eg Hydref, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod.

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

7 – Cam 1 Rhaglen Adeiladu Tai Fforddiadwy Newydd 2016-2017;

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin;

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

12 – Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2018 – Cynigion Cychwynnol;

Mae'n byw yn y ward dan sylw;

Y Cynghorydd L.D. Evans

12 – Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2018 – Cynigion Cychwynnol;

Mae hi eisoes wedi mynegi ei barn i'r Comisiwn.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol oedd wedi eu cynnal ar 26 Gorffennaf ac 19 Medi 2016 yn gofnodion cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

GWASANAETH CASGLU GWASTRAFF GWYRDD O D? I D? pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion  i gyflwyno system newydd o dalu am gasgliadau gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd bob pythefnos, ar sail darparu biniau plastig 240 litr ag olwynion a fydd yn disodli'r gwasanaeth casglu presennol y codir tâl amdano, sy'n seiliedig ar ddarparu bagiau pydradwy.

Ystyriwyd bod y newid hwn yn y system gasglu yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:

Nid yw ffurf a dyluniad ein fflyd newydd o gerbydau, a gyflwynir ym mis Hydref 2016, yn caniatáu i borfa gael ei chasglu drwy'r system bresennol o fagiau. Byddai'r ffurf newydd yn mynd i'r afael â rhai anawsterau ymarferol o ran y cerbydau presennol;

Y newid posibl yn y dyfodol i'r broses o drin gwastraff bwyd os byddwn yn dewis newid i'r dull o drin bwyd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru, sef treuliad anerobig. Byddai hyn yn golygu symud i ffwrdd o'r arfer presennol o gymysgu porfa â gwastraff bwyd. Byddai hyn yn sicrhau elfen o baratoi ar gyfer y dyfodol gan roi mwy o hyblygrwydd i ni ddewis y modd mwyaf priodol o drin bwyd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 cefnogi'r cynigion ar gyfer cyflwyno system newydd o dalu am gasgliadau gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd o d? i d?, gan ddefnyddio biniau plastig ag olwynion yn gynwysyddion;

 

6.2 cymeradwyo'r lefel yr argymhellir o ran codi tâl, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

6.3 cymeradwyo gweithredu'r system/taliadau a argymhellir o ddydd Llun 3 Ebrill 2017 ymlaen, [bydd hyn yn cynnwys cyfnod gwyliau'r Pasg yn 2017].

 

7.

CAM 1 RHAGLEN ADEILADU TAI FFORDDIADWY NEWYDD 2016-2017 pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei bod wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.A.L Evans y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn amlinellu rhaglen datblygu Cam 1 ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy newydd gan y Cyngor a Chymdeithasau Tai, a sut y byddai'r Cyngor yn sicrhau cynifer o gyfleoedd cyllido â phosibl yn ystod y ddwy flynedd nesaf gan ddarparu 200 o dai newydd, â chyfanswm buddsoddiad o dros £15m. Cadarnhaodd yr adroddiad hefyd y safleoedd oedd ar gael i'w datblygu, y fanyleb ar gyfer tai newydd gan y Cyngor a'r opsiynau caffael oedd ar gael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1 cadarnhau y bydd rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor yn dechrau drwy ddatblygu 61 o dai fforddiadwy yn y pedwar safle y rhoddir y flaenoriaeth fwyaf iddynt, fel y nodir yn yr adroddiad (Dylan Llwynhendy, Garreglwyd Pen-bre, Maespiode Llandybïe a Phantycelyn Llanymddyfri);

 

7.2 cadarnhau bod yr amserlen ar gyfer darparu'r tai fforddiadwy ar ran o safle Pantycelyn yn cyd-fynd â chynigion datblygu'r ysgol;

 

7.3 cadarnhau y bydd safleoedd â blaenoriaeth 5,6 a 7 yn yr adroddiad (Y Waun Llwynhendy, Nantydderwen Drefach a Gwynfryn Rhydaman) yn cael eu datblygu yn ôl trefn blaenoriaeth pan fydd cyllid ychwanegol ar gael;

 

7.4 cadarnhau mai dulliau adeiladu traddodiadol fydd y fanyleb a ddefnyddir ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, ac y bydd yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu'n unol â Lefel 3+ y Côd Cartrefi Cynaliadwy, y Gofynion Ansawdd Dylunio a'r Safon Tai am Oes;

 

7.5 cadarnhau bod Cam 1 rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor yn cael ei gaffael drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru;

 

7.6 cadarnhau y caiff ystyriaeth ei rhoi i lunio contract fframwaith adeiladu tai newydd penodol i gaffael Cam 2 rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor;

 

7.7 cadarnhau y gellir defnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol yn 2016/17 i brynu saith o dai yn y sector preifat;

 

7.8 cadarnhau bod ein partneriaid sy'n Gymdeithasau Tai yn gallu blaenoriaethu eu cynlluniau adeiladu tai newydd ar yr wyth safle a restrir yn yr adroddiad ac yn defnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi'r datblygiad, os bydd angen;

 

7.9 parhau i fabwysiadu ymagwedd hyblyg at lefelau rhent ar gyfer datblygiadau Grant Tai Cymdeithasol;

 

7.10 cadarnhau bod y Cyngor yn gallu gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ddiwygio'r trefniadau parthau cyfredol ar gyfer y sir, os oes risg sylweddol na fanteisir ar gyllid grant a chyfleoedd adfywio eraill.

 

 

8.

ADOLYGIAD CWRICWLWM 11-19 SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau Adolygiad Cwricwlwm 11–19 Sir Gaerfyrddin a gafodd ei gomisiynu ar y cyd gan yr Awdurdod a Choleg Sir Gâr, gan fod y ddau sefydliad o'r farn bod angen dull strategol a rennir er mwyn darparu addysg a hyfforddiant 11-19 yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn nodi'r camau gweithredu gofynnol er mwyn rhoi'r cwricwlwm newydd ar waith, a sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg dda ac yn barod ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu bywydau.

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y cynnig i ddatblygu Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llynnoedd Delta, Llanelli, [cyfeirir at hyn yng nghofnod 12 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2016] ac awgrymwyd y dylid ystyried trefnu cynhadledd, ar gyfer ysgolion uwchradd yn y lle cyntaf, i esbonio i bobl ifanc am y gyrfaoedd posibl sydd ar gael o ganlyniad yn y sector iechyd a gofal. Cytunodd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, ac Adfywio a Hamdden y byddent yn ymchwilio i'r mater gyda'r Is-adran Addysg pe bai'n cael ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 cymeradwyo datblygu cwricwlwm a rennir ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed yn ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin, Coleg Sir Gâr a darparwyr hyfforddiant lleol;

 

8.2  cymeradwyo gweithredu'r argymhellion sy'n cael eu cynnwys yn Adolygiad Cwricwlwm 11–19 Sir Gaerfyrddin

 

8.3 cefnogi'r awgrym a amlinellwyd uchod o ran cynhadledd i ysgolion uwchradd ar gyfleoedd gyrfa yn y sector gofal.

 

 

9.

STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Strategaeth ddrafft i hyrwyddo'r Gymraeg a gafodd ei pharatoi fel rhan o gyfrifoldebau'r Cyngor o ran Safonau'r Gymraeg. Datblygwyd y Strategaeth mewn partneriaeth lawn â Fforwm Strategol Iaith Gymraeg y Sir a oedd yn cynnwys partneriaid allweddol

megis y Mentrau Iaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth ddrafft.

 

10.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2016 I MEHEFIN 30AIN 2016 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill, 2016 hyd at 30 Mehefin, 2016.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

ADOLYGU NIFER Y CYNGHORWYR CYMUNED SY'N CYNRYCHIOLI WARD PONT-IETS A WARD LLANGYNDEYRN AR GYNGOR CYMUNED LLANGYNDEYRN pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais swyddogol gan Gyngor Cymuned Pont-iets a Llangyndeyrn i adolygu cymhareb y Cynghorwyr Cymuned ar gyfer Wardiau Cymunedol Pont-iets a Llangyndeyrn, gyda'r nod o leihau'r aelodaeth gyffredinol i 2 Gynghorydd Cymuned. Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am ymgymryd â'r adolygiad a byddai'n ystyried yr holl sylwadau a geir yn ystod pob cam o'r broses adolygu. Byddai'r adolygiad yn cael ei gyflawni o dan Adran 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac roedd copi o'r cylch gwaith wedi'i atodi i'r adroddiad. Yn dilyn cwblhau'r adolygiad, gallai'r Cyngor gynnig a gwneud newidiadau i nifer y Cynghorwyr sy'n cynrychioli Wardiau Cymunedol Pont-iets a Llangyndeyrn. Byddai unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r broses adolygu yn dod i rym ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod y cais yn cael ei gefnogi a bod y Cylch Gwaith a'r amserlen ar gyfer yr adolygiad yn cael eu nodi.

 

12.

ADOLYGIAD O ETHOLAETHAU SENEDDOL YNG NGHYMRU 2018 - CYNIGION CYCHWYNNOL pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr H.A.L Evans a L.D.Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar yr Adolygiad o Etholaethau a oedd cael ei gynnal gan y pedwar Comisiwn Ffiniau yn eu rhannau perthnasol o'r Deyrnas Unedig. Byddai'r adolygiad yn cael ei gynnal dros oddeutu dwy flynedd a hanner a byddai'r argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Senedd ym mis Medi 2018. Os cytunir, byddai'r etholaethau newydd yn dod i rym yn ystod yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2020. Roedd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gofyn am sylwadau cyn pen 12 wythnos ar ei gynigion cychwynnol fel y'u nodwyd yn yr adroddiad. Byddai'r holl sylwadau'n cael eu hystyried gan y Comisiwn a byddai'n argymell a ddylid diwygio'r cynigion cychwynnol yn dilyn y sylwadau, ac os felly, sut y dylid gwneud hyn.

 

Byddai'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cynnal 5 gwrandawiad cyhoeddus ynghylch yr adolygiad, a nodwyd bod gwrandawiad Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gynnal ar 12-13 Hydref yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg a bod llawer o aelodau'n bresennol.

 

Dywedwyd bod cwmpas i gynnig awgrymiad arall i'r hyn a nodwyd yn y cynigion cychwynnol o ran gogledd Sir Gaerfyrddin, a chynghorodd y Prif Weithredwr y byddai swyddogion yn ymchwilio i hyn ac yna'n adrodd yn ôl. Nodwyd hefyd na roddwyd ystyriaeth i'r bobl ychwanegol a oedd wedi cofrestru i bleidleisio cyn y Refferendwm diweddar ynghylch yr Undeb Ewropeaidd.   

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyflwyno ymateb i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn unol â’r amserlenni angenrheidiol.

 

13.

DATBLYGU MODELAU ERAILL AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y PROSIECT pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o ran datblygu Modelau Eraill ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ynghyd â phwyntiau dysgu allweddol a gwaith pellach yr oedd angen ei gwblhau.

Nodwyd bod y Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol, a chan fod Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn un o'r meysydd gwariant mwyaf yn y gyllideb, roedd rhaid sicrhau arbedion effeithlonrwydd mawr yn y maes hwn blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn ymateb i hyn, roedd y tîm rheoli adrannol yn dymuno edrych ymhellach ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan fodelau newydd eraill ar gyfer darparu gwasanaethau gyda'r bwriad o sicrhau ansawdd, cost effeithiolrwydd a'r gallu i ymateb i'r galw presennol ac yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1 bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ystyried y dystiolaeth yn y DU o ran cwmni masnachu llwyddiannus a Modelau Eraill ar gyfer Darparu Gwasanaethau;

 

13.2 bod gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol y Cyngor yn canolbwyntio ar wella eu heffeithlonrwydd a'u heffeithiolrwydd wrth ddilyn y trefniadau presennol.