Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.</AI1>
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 23ain Awst 2016 yn gofnod cywir.</AI3>
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan yr Aelodau. Fodd bynnag, roedd wedi cael gwybod gan y Cynghorydd D.M. Cundy, ei fod yn dymuno gofyn cwestiwn ynghylch eitem 6 ar yr agenda, felly byddid yn rhoi sylw i hwn o dan yr eitem briodol yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod Adran 85 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo.
Nod Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw cyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru fel yr amlinellwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gynlluniau 3 blynedd ac mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol adolygu ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chyflwyno fersiwn diwygiedig ohono i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar ymatebion swyddogion i sylwadau a ddaeth i law yn dilyn ymgynghori ynghylch adolygu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2016/17.
Gofynnodd y Cynghorydd D.M. Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, a fyddai modd i'r Bwrdd Gweithredol argymell i'r Cyngor Llawn neu weithgor ymchwilio i fethodoleg ynghylch sut y mae'r polisi hwn yn cael ei roi ar waith yn y gyfraith fel ei fod yn dderbyniol gan bawb ac yn caniatáu i ysgolion dwy ffrwd drosglwyddo'n fwy cymunedol gynhwysol i gyfrwng Cymraeg ac nad yw'n eithrio plant ag anghenion arbennig neu anawsterau addysgol.
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ei fod wedi derbyn dogfen ymgynghorol gan Lywodraeth Cymru ynghylch y bwriad i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y ddogfen yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer cyrraedd y targed hwn ac yn cyfeirio at yr angen i gynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg gan mai dim ond drwy alluogi mwy o bobl i ddysgu Cymraeg y byddai'r targed o 1 filiwn o siaradwyr yn cael ei gyrraedd. Roedd ymarfer ymgynghori helaeth yn cael ei gynllunio a fyddai'n gyfle i bawb gyflwyno eu sylwadau. Nododd fod gan Sir Gaerfyrddin Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a Fforwm Addysg Cyfrwng Cymraeg sy'n monitro'r sefyllfa ac felly gofynnodd a oedd angen panel arall.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y fersiwn diwygiedig o'r Cynllun Cymraeg mewn Addysg. </AI6><AI7>
|
|
POLISI DEFNYDD MEWNOL O'R GYMRAEG. PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o'r Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg. Mae cyfrifoldeb statudol ar yr Awdurdod, yn unol â Mesur y Gymraeg (2011), i baratoi a chyhoeddi'r polisi hwn, sy'n ceisio hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd ac yn ein gweithle.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg.
|
|
POLISI ADRODD A YMATEB I ACHOSION O DORRI DIOGELWCH. PDF 308 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o'r Polisi Rhoi Gwybod am Achosion Torri Amodau ac Ymateb iddynt a oedd wedi'i ddiwygio yn dilyn cyngor gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Roedd y polisi drafft yn cryfhau gallu'r Awdurdod i ymateb yn briodol i dor-diogeledd data yn ymwneud â cholli gwybodaeth bersonol neu ei datgelu'n ddamweiniol.
Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r Awdurdod, yn ôl y gyfraith, roi mesurau sefydliadol priodol ar waith mewn perthynas â diogeledd y wybodaeth bersonol y mae'n ei thrin, sy'n cynnwys sicrhau bod polisïau addas mewn grym.
Cyfeiriwyd at bwynt 3.3 o'r polisi a theimlwyd y dylid newid y gair "occurring" ar ddiwedd y frawddeg gyntaf i'r gair "discovered".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi Rhoi Gwybod am Dorri Amodau ac Ymateb iddynt yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar gynnwys y newid.
|
|
BREXIT A'R EFFAITH BOSIBL AR SIR GAERFYRDDIN. PDF 416 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r ddealltwriaeth bresennol ynghylch gadael yr UE a'r goblygiadau posibl o ran faint o gyllid Ewropeaidd y mae'r Sir yn ei dderbyn, yn ogystal â chamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r effaith uniongyrchol ar Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1 derbyn yr adroddiad;
9.2 bod yr Awdurdod yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwariant yn cael ei gyflymu a bod buddsoddi o hyd ar ôl gadael yr UE;
9.3 cynorthwyo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lobïo ynghylch ymrwymiad cyllid pendant gan lywodraeth y DU i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yn y cyllid Ewropeaidd sydd wedi'i ddyrannu i Gymru hyd at ddiwedd cyfnod y rhaglenni presennol h.y. 2020;
9.4 symud y prosiectau presennol yn eu blaenau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyflymach.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. PDF 432 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw a oedd yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf fel yr oedd ar 30ain Mehefin, 2016 o ran blwyddyn ariannol 2016/17.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £1,854k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,710k ar lefel adrannol. Rhagwelid tanwariant o £404k yn y Cyfrif Refeniw Tai. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 12.1 derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb;
12.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17 PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2016/17, fel yr oedd ar 30ain Mehefin, 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
11.1 derbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf;
11.2 cymeradwyo'r trosglwyddiadau ariannol a amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 14 & 17 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 14 a 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
FFORDD GYSWLLT GORLLEWIN CAERFYRDDIN. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 13 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) a gwybodaeth sy'n datgelu bod yr Awdurdod yn cynnig gwneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddfiad.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am gynigion mewn perthynas â Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
|