Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 23ain Mai, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.D.Evans a P.A. Palmer.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 25ain Ebrill, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (RHEOLAETHAU CWN SIR GAERFYRDDIN) pdf eicon PDF 600 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 17 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a oedd wedi'i gynnal ar 21ain Mawrth 2016 ailystyriwyd yr adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwnnw ynghylch cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau Sir Gaerfyrddin ynghylch C?n) ond gan gynnwys yr ymatebion i'r ymgynghoriad llawn a oedd wedi'u hepgor yn anfwriadol yn yr adroddiad gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r penderfyniad gwreiddiol a oedd wedi'i wneud ar 21ain Mawrth 2016.

 

7.

SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU - ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL 2015-16 pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn rhoi crynodeb o'r gwaith archwilio a oedd wedi'i wneud yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ers i'r adroddiad diwethaf o'r fath gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015. Mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol lunio adroddiad bob blwyddyn ynghylch cynlluniau Cynghorau Cymru i wella eu gwasanaethau ac ynghylch sut yr oeddent yn darparu'r gwasanaethau hynny ac ar gyfer 2015-16 roedd wedi dod i'r casgliad bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi amlygu uchelgais o ran ei weledigaeth, ynghyd ag arweinyddiaeth ar y cyd a llywodraethu mwy cadarn a thryloyw, ac wedi sicrhau bod gwell canlyniadau i'w ddinasyddion er bod rhai dulliau gweithredu sydd wedi dyddio yn gallu cyfyngu ar gyflymder y cynnydd.

 

Er bod yr Aelodau o'r farn fod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn mynegwyd barn fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi methu, wrth gyfeirio at 'wendidau' neu 'ddulliau gweithredu sydd wedi dyddio', â rhoi enghreifftiau o arferion da neu welliannau y gellid eu gwneud. Cytunodd yr Arweinydd i nodi hyn mewn llythyr at Swyddfa Archwilio Cymru, yn benodol yng ngoleuni'r ffïoedd a dalwyd iddi gan y Cyngor am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

8.

AELODAETH Y PANEL GWELLA YSGOLION - Y GR?P ANNIBYNNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Ivor Jackson i gymryd lle'r Cynghorydd Giles Morgan ar y Panel Gwella Ysgolion.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

11.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried gwahoddiad gan Ken Skate AC, cyn-Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, am i'r Cynghorydd Meryl Gravell ddod yn Gadeirydd Gr?p Gorchwyl a Gorffen Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a fyddai'n rhoi argymhellion ynghylch y ffyrdd mwyaf realistig a hyfyw o sicrhau hyfywedd yr Ardd yn yr hirdymor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno bod y Cynghorydd Meryl Gravell yn cael ei phenodi'n Gadeirydd Gr?p Gorchwyl a Gorffen Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

12.

PENTREF LLESIANT A GWYDDORAU BYWYD, LLYNNOEDD DELTA, LLANELLI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion am gynnig i ddatblygu Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llynnoedd Delta, Llanelli, a oedd â photensial i drawsnewid economi Sir Gaerfyrddin gan fuddsoddi dros £100 miliwn a chreu dros 1000 o swyddi. Deilliodd y prosiect o syniad yn y gwaith a gyflawnwyd gan bartneriaeth ranbarthol rhwng dau Fwrdd Iechyd Prifysgol [Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda] a Phrifysgol Abertawe. Roedd y Bartneriaeth, a elwir yn ARCH [Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd] wedi cysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin yng nghanol 2015 ynghylch y cyfle i ddatblygu'r prosiect 'Llesiant' ac ers hynny roedd y cysyniad wedi datblygu'n gyflym iawn ac wedi denu diddordeb cenedlaethol. Mae Llynnoedd Delta wedi'i nodi'n safle strategol ar gyfer cyflogaeth a thwf ac roedd yn darparu'r sylfeini ar gyfer yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn un o'r cyfleoedd seilwaith mwyaf y mae'r Sir yn debygol o'i weld byth.

Yn sgil yr uchod roedd KNS (Kent Neuro Science Ltd) wedi cysylltu â'r Awdurdod. Cwmni yw hwn sydd â phrofiad llwyddiannus o gyflawni datblygiadau tebyg yn y sector iechyd, meddyginiaeth a llesiant. Yn unol â hynny, croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o KNS, Prifysgol Abertawe ac ARUP i'r cyfarfod a rhoddodd pob un ohonynt gyflwyniad ynghylch cysyniad Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd a'i fanteision ehangach o ran economi'r ardal.

Yn dilyn y cyflwyniadau diolchwyd i'r cynrychiolwyr am ddod i'r cyfarfod ac wedyn gadawodd y cynrychiolwyr y cyfarfod. 

Ailbwysleisiwyd maint y cynllun a'i fanteision economaidd tebygol i'r Sir ac argymhellwyd llofnodi cytundeb cyfyngol gyda KNS er mwyn i drafodaethau ac achos busnes llawn gael eu datblygu ymhellach.

Rhoddwyd teyrnged i'r swyddogion am y gwaith a oedd wedi'i wneud mewn perthynas â'r cynllun hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cytundeb cyfyngol gyda KNS, Kent Neuroscience Ltd, sef y datblygwr trydydd parti, gyda golwg ar sicrhau dyheadau'r Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Sir Gaerfyrddin.