Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Evans.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 6 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl o ran Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad.
|