Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 24ain Medi, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.D. Evans a J. Tremlett.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 30AIN GORFFENNAF, 2018 pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd mai'r adroddiad hwn oedd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cyngor a oedd yn cynnwys canlyniadau o ran ei Amcanion Llesiant ac yn darparu:-

 

Ø  Trosolwg ar berfformiad 2017/18,

Ø  Adroddiadau dwy dudalen ynghylch cynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant,

Ø  Dolen gyswllt er mwyn olrhain cynnydd pob cam a tharged a bennir ar gyfer pob Amcan Llesiant,

Ø  Gwybodaeth arall am berfformiad data alldro a Chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru yn yr atodiadau.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol, er bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan bwyllgorau craffu'r Cyngor, fod atodiadau yr adroddiad wedi cael eu diwygio yn sgil yr ystyriaeth honno er mwyn diweddaru'r data alldro a Chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru, nad oeddent ar gael adeg paratoi'r ddrafft.

 

Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 9 - Byw'n Dda / Heneiddio'n Dda, a gofynnwyd a ellid diwygio'r adroddiad er mwyn cynnwys gwaith blaengar sy'n cael ei gyflawni yn Ward Ty-isa, Llanelli gan Gr?p Llywio Ty-isa i drechu tlodi. Cadarnhawyd y gellid diwygio'r adroddiad yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18 yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A CHANMOLIAETH 2017/18 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 2017/18. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y canlynol:-

·       nifer y cwynion yr ymchwiliwyd ac ymatebwyd iddynt rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 fesul adran,

·        ystadegau o ran y negeseuon a gafwyd gan y Tîm Cwynion, ac a ailgyfeiriwyd. Roedd y rheiny'n ymwneud ag ymholiadau a cheisiadau am gymorth a oedd, unwaith y cyflwynwyd, yn cynnig y cyfle i geisio datrys anawsterau cyn i gwynion gael eu cyflwyno,

·        cwynion ynghylch unrhyw faterion o ran cydraddoldeb neu'r iaith Gymraeg,

·        cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt,

·        dadansoddiad o gwynion a chanmoliaeth fesul adran.

 

Dywedwyd er bod yr adroddiad yn nodi'r cwynion a'r ganmoliaeth ar gyfer yr awdurdod, fod cwynion ynghylch materion Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi cael eu rheoli ar wahân gan yr Adran Cymunedau yn 2017/18.  Cyflwynwyd adroddiad diwedd blwyddyn llawn i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 21 Mai, 2018, ac roedd ffigurau a dadansoddiad ynghylch hyn wedi cael eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod.

 

Hefyd dywedwyd wrth y Bwrdd, er bod yr adroddiad yn cynnwys manylion am gwynion a chanmoliaeth a gyflwynwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau/aelodau'r cyhoedd, byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys cwynion/canmoliaeth a gyflwynwyd gan aelodau etholedig yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2017/18.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2017/18 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 - Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a baratowyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Leol 2005, ac roedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2018. 

 

Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i dderbyn gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 21 Medi, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR EI FOD YN:-

8.1

cael a derbyn cynnwys y trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2018.

8.2

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol

 

 

9.

NODI BOD GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD KAREN DAVIES AR GYFER Y LLE GWAG SYDD GAN Y GRWP AR Y CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod Gr?p Plaid Cymru'r Cyngor wedi enwebu'r Cynghorydd Karen Davies i lenwi'r lle wag ar Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Cynghorydd Karen Davies wedi cael ei phenodi gan Gr?p Plaid Cymru i lenwi'r lle gwag ar Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru.

 

10.

NODI BOD GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB JAMES I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD JOHN PROSSER AR BANEL YMGYNGHOROL YR IAITH GYMRAEG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod Gr?p Llafur y Cyngor wedi enwebu'r Cynghorydd Rob James i gymryd lle'r Cynghorydd John Prosser fel ei gynrychiolydd ar Banel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Cynghorydd Rob James wedi cael ei benodi gan y Gr?p Llafur i gymryd lle'r Cynghorydd John Prosser fel ei gynrychiolydd ar Banel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg. 

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL,

 

Yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl a barn gyfreithiol.  Er y byddai budd y cyhoedd fel arfer yn cefnogi ymagwedd agored a thryloyw a chyhoeddi adroddiadau, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn, oherwydd er bod rhan fawr o'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad yn wybodaeth gefndirol a ffeithiol, mae manylion am bartneriaid a allai o bosibl ymwneud ag agweddau'r prosiect, y byddai eu harloesedd a'u buddiannau masnachol eu hunain yn cael eu peryglu drwy ddatgelu eu henwau yn ystod y cam hwn o'r broses, yn yr adroddiad hwn.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch darparu Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.