Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Cabinet - Dydd Llun, 5ed Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a P.M. Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 8FED IONAWR 2018 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8fed Ionawr, 2018, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 - 2020/21 pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2018/2019 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/2020 a 2020/2021. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau amlinellu i'r Bwrdd nifer o ffactorau oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20fed Rhagfyr, 2017. Roedd y setliad yn fwy ffafriol na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, gan alluogi'r Cyngor i ailedrych ar rai o'i gynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach o ran y cynnig codiad cyflog diweddaraf. Er bod y setliad terfynol ar gyfer yr awdurdod hwn wedi cynyddu 0.2%, a oedd yn cyfateb i £1.48m yn ychwanegol i'r setliad amodol, roedd yn dal yn ostyngiad mewn cyllid mewn termau real, o ystyried chwyddiant a newidiadau eraill mewn prisiau. Hefyd roedd cyfrifoldebau ychwanegol ynghlwm wrth y setliad, gan gynnwys cynyddu'r terfynau cyfalaf ar gyfer gofal preswyl, rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r gwasanaethau hynny, ynghyd â £399k yn ychwanegol i atal digartrefedd. Yn ogystal er bod nifer o fylchau wedi'u trosglwyddo i'r setliad terfynol, roeddid yn disgwyl cadarnhad o hyd ar gyfran o'r rheiny a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb, a hyd nes y byddai'r rheiny wedi eu cyhoeddi roedd elfen o risg yn bodoli o ran y cynllun presennol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau at y costau dilysu yn y strategaeth, a oedd yn dod i £8.8m, gan ddweud bod y gost fwyaf sylweddol o'u plith yn ymwneud â'r cynnig codiad cyflog o 2% i'r staff, ynghyd â'r cam i sicrhau mai'r rhai oedd ar y graddfeydd cyflog isaf fyddai'n gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyflog. Pe byddid yn eu gweithredu, byddai hyn yn golygu y byddai'r pwynt cyflog isaf o £8.68 o Ebrill 2018 (cynnydd o 8.98%) yn cynyddu i £9.18 yn Ebrill 2019 (cynnydd pellach o 5.76%) ynghyd â chyflwyno graddfa gyflog newydd o Ebrill 2019 a fyddai'n atgyfnerthu pwyntiau presennol ar y raddfa ac yn unioni rhai o'r taliadau ar hap presennol rhwng pwyntiau cyflog. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniant cyflog cenedlaethol ar wahân, wedi'i bennu ar 2% o Fedi 2018.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau hefyd dynnu sylw'r Bwrdd at gynnig cyllideb tair blynedd presennol y Cyngor, a bennwyd yn Chwefror 2017, nad oedd ysgolion wedi'u diogelu ynddi o gwbl ar gyfer 2018/19. Fodd bynnag, o ystyried yr angen i gefnogi ysgolion lle bo hynny'n bosibl, ac o ganlyniad i arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r setliad, roedd wedi bod yn bosibl unwaith eto i ddiogelu ysgolion a pheidio â lleihau eu cyllidebau, gyda'r gyllideb ddirprwyedig ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2018/19 - 2022/23 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd yr holl gynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2018/19 hyd at 2022/2023. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £51.531m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2018/19. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £34.976m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a'r £16.735m o ffynonellau allanol. Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y 3 blynedd gyntaf o 2018/19 i 2020/21, a'r flwyddyn olaf o 2020/21. Dangosodd y bedwaredd flwyddyn, 2021/2022, ddiffyg o £1.5m y byddid yn ei adolygu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd y byddai cyfanswm y rhaglen dreigl bum mlynedd yn gweld buddsoddiad o bron £200m (amcangyfrifwyd £143m o gyllid gan y Cyngor Sir a £55m o gyllid allanol) a bod yr Awdurdod, fel rhan o'r rhaglen honno, wedi cynnwys prosiectau newydd ychwanegol a oedd o bwys i'r sir, er enghraifft cynlluniau newydd yr Adran Cymunedau ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, Casgliad Amgueddfa Caerfyrddin, Parc Howard a pharhau i gefnogi Tai'r Sector Preifat yn 2022/23. Byddai Adran yr Amgylchedd yn parhau i gael cymorth ar gyfer Gwella Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd, a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd yn 2022/23. Yn ogystal â hynny, o ganlyniad i arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, byddai'r gwariant ar adnewyddu ffyrdd ar gyfer 2018/19 £2.2m yn fwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1

bod y cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad B, gyda 2018/19 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2019/20 – 2022/23 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

7.2

bod cyllideb 2021/22 yn cael ei hadolygu dros y flwyddyn i ddod er mwyn ymdrin â'r diffyg yn y cyllid;

7.3

bod y rhaglen, yn ôl yr arfer, yn cael ei hadolygu, oni lwyddir i gael y cyllid Cyngor Sir neu allanol disgwyliedig.

 

 

8.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2018/19 - 2020/21 A LEFELAU RHENTI TAI 2018/19 - REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, ac a nodai'r holl gynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Cyfrif  Refeniw Tai 2018/19 hyd at 2020/21. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 30 Ionawr 2018, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi dechrau ar y buddsoddiad ar gyfer Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai dros £250m o gyfalaf wedi'i fuddsoddi i gyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn diwedd 2017/18, a bod y cynllun busnes presennol yn bwriadu buddsoddi £30m i gynnal a gwella'r stoc dros y tair blynedd nesaf, ynghyd â £26m i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o'r blaen, gyda golwg ar symud ymlaen i'r rhent targed pwynt canol.   Fodd bynnag, er nad oedd y polisi hwnnw wedi newid, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud, oherwydd Mynegai Prisiau Defnyddiwr cymharol uchel o 3%, efallai y byddai awdurdodau lleol yn dymuno ystyried defnyddio opsiwn is ar gyfer 2018/19. O gofio'r sylw hwn gan Lywodraeth Cymru, roedd yn cael ei gynnig bod yr Awdurdod yn pennu ei rent ar y lefel isaf a ganiateir, a oedd yn golygu cynnydd o 3.5% yn ogystal â £1.62, i greu rhent cyfartalog o £85.27 gan arwain at gynnydd o 4.34% neu £3.55.

 

Yn dilyn ystyried argymhellion Gr?p Llywio Safon Tai Sir Gaerfyrddin

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GAN Y BWRDD GWEITHREDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

8.1

cynyddu'r cyfartaledd rhent tai yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (targed pen isaf) h.y.:-

·        Bydd eiddo 'rhenti targed' yn cynyddu 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%)

·        Bydd eiddo lle'r oedd y rhent yn is na'r rhent targed yn cynyddu 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%) ynghyd â chynnydd o £1.62

·        Bydd yr eiddo a oedd yn uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

gan arwain felly at gynnydd yn y rhent ar gyfartaledd o 4.34% neu £3.55 ac at lunio Cynllun Busnes cynaliadwy, sy’n cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ac yn darparu adnoddau i'r Rhaglen Tai Fforddiadwy;

8.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.62 ar gyfer rhenti sy'n is na'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2018-21 pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2018-2021, a phrif bwrpas y cynllun oedd:

 

• egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid;

• cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf; a

• llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am y Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2018/19, sy’n cyfateb i £6.1m.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai pe bai'r adroddiad a'i argymhellion yn cael eu mabwysiadu, byddai'n arwain at wario rhyw £56m dros y tair blynedd nesaf ar gynnal a chadw a gwella ymhellach Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (£30m) a darparu'r Cynllun Tai Fforddiadwy (£26m) drwy ystod o ddatrysiadau gan gynnwys tai newydd. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

9.1

bod gweledigaeth Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a'r rhaglen o ran yr elfennau ariannol a chyflawni yn ystod y tair blynedd nesaf yn cael eu cadarnhau;

9.2

cadarnhau cyflwyno'r Cynllun i Lywodraeth Cymru.

 

 

10.

POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2018-2019 pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

9.1

bod y Polisi a'r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018/19 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo,

9.2

bod y Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.