Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
COFNODION - 18 RHAGFYR 2017 PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.
|
|||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 31 Hydref 2017.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £685k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,263k ar lefel adrannol. O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y byddai’r gyllideb wedi’i mantoli ar ddiwedd y flwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwariant y rhaglen gyfalaf yn erbyn cyllideb 2017/18 fel yr oedd ar 31 Hydref 2017. Byddai'r llithriant o £-4,095k yn ystod y flwyddyn yn cael ei gynnwys ym mlynyddoedd nesaf y rhaglen.
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r rhesymau dros sefydlu Cwmni Masnachu sy'n eiddo llwyr i'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llinell Gofal, a elwir yn ‘Llesiant Delta Wellbeing Cyf’, a pha mor ymarferol fyddai hynny. Byddai'r cwmni’n gallu cyrraedd marchnadoedd a ffrydiau incwm ehangach o lawer na gwasanaeth presennol Llinell Gofal. Byddai'r argymhelliad yn yr adroddiad yn amodol ar gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.
Wrth ymateb i gwestiwn, cytunwyd y dylai'r adroddiad gael ei ddiwygio cyn ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch sicrhau bod y cwmni arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion Teckal.
Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, gofynnodd y Cynghorydd D.M. Cundy a ellid manteisio ar y cyfle, wrth greu'r cwmni newydd hwn, i newid y ffordd yr ymdrinnir â Gofal Oedolion drwy roi strwythur gyrfaol i Weithwyr yn y Sector Gofal Cymdeithasol sy'n seiliedig ar gyfuniad o brofiad, addysg a hyfforddiant parhaus, arholiadau ac arbenigedd a geir drwy “brofiadau yn y swydd” er mwyn i bobl ifanc, a phobl fwy aeddfed, gael gyrfa ddilys, flaengar a gwerth chweil gyda chyflog da yn y Sector Gofal Oedolion, pa un a yw hynny yng nghartrefi gofal yr Awdurdod, ym maes gofal cartref neu'n yrfa sy’n gysylltiedig â darpariaeth y GIG lle mae cyfleoedd pellach?
Ymatebodd y Cynghorydd J. Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel a ganlyn:
Diolch i chi'r Cynghorydd Cundy, am eich cwestiwn. Yr ateb byr yw 'gellid', wrth gwrs. Mae cymwysterau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu diwygio yng Nghymru yn dilyn adolygiad. Bydd hyd at 20 o gymwysterau newydd yn cymryd lle'r rhai presennol. Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2019 ymlaen, a bydd y tystysgrifau cyntaf yn cael eu cyflwyno yn 2020. Y corff dyfarnu yw consortiwm sy’n cynnwys City & Guilds a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a fydd yn cydweithio â Chymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG Cymru, athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr i gynllunio a darparu'r cymwysterau newydd hyn. Mae'r sector yn cynnwys nifer o wahanol yrfaoedd i ofalwyr, nid dim ond mewn cartrefi preswyl i oedolion, ond mewn ysbytai, ac ym meysydd gofal plant, gofal cartref, afiechyd meddwl ac anableddau corfforol. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu haddysgu i ddysgwyr 14 oed a h?n ledled Cymru o Lefel 1 i 5. Byddant yn rhan o fframweithiau prentisiaethau hefyd. Mae datblygu a chefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol ac mae cryn dipyn o weithgarwch yn yr adran yn canolbwyntio ar hyn i'n galluogi i ymateb i her genedlaethol, sef bod llai o bobl na'r hyn sydd ei angen arnom yn mynd i'r maes gwaith hwn a bod mwy a mwy ohonynt yn dewis gadael wrth i gyflogau mewn swyddi sy'n cystadlu â’r swyddi hyn, ac sy'n gofyn llai o bosibl, megis manwerthu, gynyddu i'r un lefel. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud yn well na'r rhan fwyaf o awdurdodau o ran recriwtio a chadw'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||
TREFNIADAU TRIN A GWAREDU GWASTRAFF YN Y DYFODOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 9 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno). Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn crynhoi canfyddiadau'r achos busnes i greu Teckal* ar gyfer darparu trefniadau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol yn y Sir, ac yn manylu ar y camau nesaf ar gyfer sefydlu'r cwmni. [Darn o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd yw *Teckal’ sy'n caniatáu i gynghorau ddarparu gwasanaethau drwy endidau a reolir yn allanol heb fod yn rhaid iddynt ddilyn y rheolau a'r gweithdrefnau ynghylch tendro cystadleuol].
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
10.1 cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer sefydlu cwmni newydd sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal a hynny ar gyfer gwasanaethau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol (a reolir gan CWM ar hyn o bryd);
10.2 dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sefydlu trefniadau'r cwmni newydd a chwblhau'r strwythurau llywodraethu, gan sicrhau cyngor cyfreithiol, ariannol a thechnegol allanol priodol fel bo'r angen (drwy ymgynghori â'r Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ac Adnoddau);
10.3 dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ddatblygu cynllun busnes manwl ar gyfer Bwrdd Rhanddeiliaid arfaethedig y Cyngor.
|