6 CYNLLUN STRATEGOL AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN 2017-2022 PDF 541 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Cynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2017–2022 a ategwyd gan gyflwyniad. Roedd y Cynllun yn rhoi gweledigaeth ar gyfer rhaglen gwella amgueddfeydd uchelgeisiol ac roedd wedi nodi pum amcan allweddol i wireddu'r weledigaeth o gael gwasanaeth rhagorol erbyn 2022.
Roedd y Strategaeth wedi nodi nifer o heriau sylweddol y byddai angen i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin roi sylw iddynt er mwyn cyflawni nodau Strategol Corfforaethol y Cyngor. Yn ogystal, roedd y Cynllun newydd wedi cydnabod awydd i sicrhau gwelliannau sylweddol ar draws y gwasanaeth amgueddfeydd o ran diogelu casgliadau, cyfleusterau a'r gweithgareddau yn ymwneud â chwsmeriaid.
Dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth yr Aelodau fod cyllid gwerth dros £1 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i Ymddiriedolaeth Porth Tywi ac y byddai hynny'n mynd tuag at wella'r gerddi a'r amgueddfa yn Abergwili.
Codwyd pryder ynghylch lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni'r Strategaeth hyd at 2022, o ran materion ariannol a staff. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at yr adroddiad gan ddyfynnu "byddai goblygiadau ariannol datblygiadau yn cael sylw ar wahân fel rhan o broses rheoli prosiectau cymeradwy y Cyngor. Fodd bynnag, mae llawer o'r datblygiadau arfaethedig yn y cynllun hwn yn gysylltiedig â chyllid allanol. Er nad yw Achredu Amgueddfeydd bob amser yn hanfodol ar gyfer cyllid allanol, ni fydd rhai o'r prif gyllidwyr yn y sector hwn (Llywodraeth Cymru a'i chyrff cyswllt) yn ystyried ceisiadau gan amgueddfeydd awdurdod lleol mawr sy'n methu â chyrraedd y safon Achredu. Mae'r Cynllun Strategol hwn yn gysylltiedig â chais Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin am Achredu Amgueddfeydd.”
Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y byddai'r Awdurdod yn cyflwyno ceisiadau am gyllid allanol sy'n cynnwys Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Hefyd byddai nifer o geisiadau am gyfalaf mewnol yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses pennu cyllideb yn ddiweddarach eleni.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
6.1 cael a chymeradwyo Cynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2017-2022;
6.2 bod swyddogion arweiniol
yn cwrdd ag aelodau perthnasol i adolygu datblygiadau yn ymwneud
â:
Parc Howard; Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili; Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli ac Amgueddfa
Cyflymder Pentywyn.