Mater - cyfarfodydd

Eitemau ar gyfer y Dyfodol

Cyfarfod: 23/05/2016 - Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Addysg & Phlant a Gofal Cymdeithasol & Iechyd (eitem 6.)

6. ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2015/16 pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:


Cyfarfod: 23/05/2016 - Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant (eitem 6)

6 ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2015/16 pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd E. Morgan wedi datgan buddiant sef bod ei ferch yn nyrs staff yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei adroddiad blynyddol ynghylch effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir. Bu'r Aelodau yn ystyried yr adroddiad a roddai drosolwg o'r cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn adroddiad y llynedd a thynnu sylw at y meysydd hynny sydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol. Hefyd nododd yr Aelodau fod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad i'r Cyngor yn flynyddol ar y ddarpariaeth, y perfformiad a'r risgiau yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei fod o'r farn bod cyflwyno'r adroddiad hwn i Aelodau'r Pwyllgorau Craffu yn rhan bwysig o ddatblygu'r ddogfen derfynol. Atgoffodd y ddau Bwyllgor fod y fersiwn drafft hwn yn gyfle iddynt hwy ystyried y cynnwys ac yn gyfle iddo ef, fel Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ystyried unrhyw sylwadau sydd gan aelodau etholedig.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw astudiaethau wedi cael eu cynnal ynghylch effaith symudiadau poblogaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. preswylydd sir arall sy'n derbyn gofal mewn ysbyty yn Sir Gaerfyrddin neu i'r gwrthwyneb). Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth yr Aelodau er nad oedd achosion o'r fath yn cael eu cofnodi yn ystadegau'r Awdurdod, eu bod yn cael effaith o ran rhoi pwysau ychwanegol ar y system gofal. Fodd bynnag, ychwanegodd nad oedd dim tueddiadau newydd neu sylweddol wedi dod i'r amlwg o'r proffil poblogaeth a data'r cyfrifiad a oedd wedi eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, roedd swyddogion wedi gwneud peth gwaith mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal o ardaloedd awdurdodau lleol eraill sy'n cael eu symud i Sir Gaerfyrddin, oherwydd y pwysau y mae symudiadau o'r fath yn eu rhoi ar wasanaethau'r Awdurdod ac yn benodol ar ysgolion y Sir. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth yr Aelodau fod y niferoedd yn gyfnewidiol a bod y ffigyrau hyn yn cael eu monitro'n rheolaidd gan swyddogion o'r Awdurdod ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Cydnabu fod nifer fawr o blant sy'n derbyn gofal yn byw yn y Sir ond bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes cymhleth a heriol hwn.

 

Holwyd ai oherwydd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod y mae llawer o blant yn symud i'r sir. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol mai dim ond ychydig o dystiolaeth sydd ar gael i awgrymu bod teuluoedd yn symud yn nes at ysgolion â gwasanaethau/canolfannau da o ran anableddau ond nad oedd dim tystiolaeth bod llawer o blant yn symud i ddalgylchoedd penodol.

 

Cyfeiriwyd at amserau teithio staff mewn ardaloedd gwledig a gofynnwyd a oedd hyn bellach yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6