7 RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES PDF 246 KB
Bod y Cyngor hwn yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach, y diwydiant ffermio a mentrau gwledig wedi'i wneud ers dechrau argyfwng Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin. Heb eu hymrwymiad llwyr i ddosbarthu i'n cymunedau a'u gallu I addasu eu harferion gwaith i ddarparu ar gyfer anghenion sy'n newid yn barhaus, byddai llawer o drigolion Sir Gaerfyrddin wedi ei chael yn anodd goroesi.
Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ategu gallu a phenderfyniad yr Awdurdod Lleol hwn i ymdopi cystal ag y mae wedi'i wneud yn ystod Covid-19.
Felly, rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ymrwymo I gynorthwyo a chefnogi'r busnesau hyn mewn cynifer o ffyrdd â phosibl yn ystod y cyfnod anwadal hwn, gan gofio hefyd am yr effaith negyddol na ellir ei rhagweld y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael arnynt.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
· Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan wedi datgan buddiant ariannol yn y cynnig hwn.
· Yn dilyn cyngor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith, roedd y Cynghorwyr K. Broom, C. Campbell, J.M Charles, A. Davies, W.T. Evans, K. Howell, A. James, J. Lewis, G. B. Thomas, J.E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a nodir yng Nghofnod 2.]
Yn dilyn trafodaeth ar y Cynnig a'r Gwelliant, dywedodd y Cynghorydd James wrth y Cyngor ei fod yn tynnu ei Rybudd o Gynnig yn ôl.
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES
Bod y Cyngor hwn yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach, y diwydiant ffermio a mentrau gwledig wedi'i wneud ers dechrau argyfwng Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin.
Heb eu hymrwymiad llwyr i ddosbarthu i'n cymunedau a'u gallu i addasu eu harferion gwaith i ddarparu ar gyfer anghenion sy'n newid yn barhaus, byddai llawer o drigolion Sir Gaerfyrddin wedi ei chael yn anodd goroesi.
Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ategu gallu a phenderfyniad yr Awdurdod Lleol hwn i ymdopi cystal ag y mae wedi'i wneud yn ystod Covid-19.
Felly, rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ymrwymo i gynorthwyo a chefnogi'r busnesau hyn mewn cynifer o ffyrdd â phosibl yn ystod y cyfnod anwadal hwn, gan gofio hefyd am yr effaith negyddol na ellir ei rhagweld y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael arnynt.
Dogfennau ychwanegol: