Mater - cyfarfodydd

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

Cyfarfod: 22/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 7)

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

Cais i Lywodraeth Cymru am adolygiad o'r polisi Datblygiad Un Blaned Cafodd y polisi Datblygiad Un Blaned ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru'n Un yn 2010 ac mae'n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 –Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Mae gan y polisi amcan clodwiw sef y dylai Cymru, o fewn un genhedlaeth, ond ddefnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mewn egwyddor, mae'n cydymffurfio â'r hyn a gytunwyd gennym yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Datblygiad Un Blaned yn peri problemau

am dri rheswm penodol:

1.     Mae canfyddiad cyffredin bod y polisi'n cael ei ddefnyddio I ddiystyru'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hyn wedi arwain at gryn ddrwgdeimlad gan drigolion gwledig sy'n ei chael yn anodd – os nad yn amhosibl – i adeiladu cartref newydd ar gyfer y genhedlaeth iau ar eu tir.

2.     Mae TAN 6 yn nodi y gellid ond caniatáu annedd yng nghefn gwlad os yw'n cefnogi menter wledig sydd eisoes wedi'i sefydlu am o leiaf dair blynedd ac sydd wedi profi ei bod yn gynaliadwy. Nid yw cais am Ddatblygiad Un Blaned yn seiliedig ar dystiolaeth flaenorol, ond ar gynllun rheoli sy'n ceisio rhagweld llwyddiant y datblygiad dros gyfnod o 5 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio.

3.     Rhaid cyflwyno adroddiad monitro blynyddol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun rheoli. Gallai methu â bodloni telerau'r cynllun arwain at achosion gorfodi. Fodd bynnag, mae monitro cydymffurfiaeth yn peri problemau, oherwydd diffyg arbenigedd mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Cred Cyngor Sir Caerfyrddin fod y polisi Datblygiad Un Blaned, er ei fwriad clodwiw pan gafodd ei roi ar waith 10 mlynedd yn ôl, yn peri problemau ymarferol. Wrth ystyried y pryder cynyddol am y ffordd y mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu, effaith gronnol datblygiadau o'r fath, a'r problemau o ran monitro, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r polisi ac ystyried gosod moratoriwm ar geisiadau Datblygiad Un Blaned wrth i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rydym hefyd yn awgrymu y dylai adolygiad o'r fath ystyried a ellid cynnwys rhai elfennau o'r Datblygiad Un Blaned, sy'n ymwneud ag arferion cynaliadwy, mewn polisïau cynllunio prif ffrwd mewn ffordd fwy radical, er mwyn cael effaith ehangach ar leihau allyriadau carbon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:

“Cais i Lywodraeth Cymru am adolygiad o'r polisi Datblygiad Un Blaned

Cafodd y polisi Datblygiad Un Blaned ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru'n Un yn 2010 ac mae'n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Mae gan y polisi amcan clodwiw sef y dylai Cymru, o fewn un genhedlaeth, ond ddefnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mewn egwyddor, mae'n cydymffurfio â'r hyn a gytunwyd gennym yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. 

Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Datblygiad Un Blaned yn peri problemau am dri rheswm penodol:-

1.      Mae canfyddiad cyffredin bod y polisi'n cael ei ddefnyddio i ddiystyru'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hyn wedi arwain at gryn ddrwgdeimlad gan drigolion gwledig sy'n ei chael yn anodd os nad yn amhosibl i adeiladu cartref newydd ar gyfer y genhedlaeth iau ar eu tir.

2.      Mae TAN 6 yn nodi y gellid ond caniatáu annedd yng nghefn gwlad os yw'n cefnogi menter wledig sydd eisoes wedi'i sefydlu am o leiaf dair blynedd ac sydd wedi profi ei bod yn gynaliadwy. Nid yw cais am Ddatblygiad Un Blaned yn seiliedig ar dystiolaeth flaenorol, ond ar gynllun rheoli sy'n ceisio rhagweld llwyddiant y datblygiad dros gyfnod o 5 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio.

3.      Rhaid cyflwyno adroddiad monitro blynyddol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun rheoli. Gallai methu â bodloni telerau'r cynllun arwain at achosion gorfodi. Fodd bynnag, mae monitro cydymffurfiaeth yn peri problemau, oherwydd diffyg arbenigedd mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Cred Cyngor Sir Caerfyrddin fod y polisi Datblygiad Un Blaned, er ei fwriad clodwiw pan gafodd ei roi ar waith 10 mlynedd yn ôl, yn peri problemau ymarferol.  Wrth ystyried y pryder cynyddol am y ffordd y mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu, effaith gronnol datblygiadau o'r fath, a'r problemau o ran monitro, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r polisi ac ystyried gosod moratoriwm ar geisiadau Datblygiad Un Blaned wrth i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rydym hefyd yn awgrymu y dylai adolygiad o'r fath ystyried a ellid cynnwys rhai elfennau o'r Datblygiad Un Blaned, sy'n ymwneud ag arferion cynaliadwy, mewn polisïau cynllunio prif ffrwd mewn ffordd fwy radical, er mwyn cael effaith ehangach ar leihau allyriadau carbon.

Eiliwyd y Cynnig.

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais,

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei fabwysiadu.

Cyfarfod: 14/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 7.1)

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

Cais i Lywodraeth Cymru am adolygiad o'r polisi Datblygiad Un Blaned

Cafodd y polisi Datblygiad Un Blaned ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru'n Un yn 2010 ac mae'n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 –Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.  Mae gan y polisi amcan clodwiw sef y dylai Cymru, o fewn un genhedlaeth, ond ddefnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mewn egwyddor, mae'n cydymffurfio â'r hyn a gytunwyd gennym yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Datblygiad Un Blaned yn peri problemau am dri rheswm penodol:

1.     Mae canfyddiad cyffredin bod y polisi'n cael ei ddefnyddio i ddiystyru'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hyn wedi arwain at gryn ddrwgdeimlad gan drigolion gwledig sy'n ei chael yn anodd – os nad yn amhosibl – i adeiladu cartref newydd ar gyfer y genhedlaeth iau ar eu tir.