CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd gydymdeimlad ar ran yr aelodau i'r Cynghorydd Fozia Akhtar ar farwolaeth drist ei mab fis diwethaf ac i'r Cynghorydd Rob Evans ar farwolaeth ei dad yn gynharach yn y dydd.
Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-
· Estynnwyd y dymuniadau gorau am wellhad buan i'r Cynghorydd Louvain Roberts yn dilyn ei llawdriniaeth ddiweddar ac i'r Cynghorydd Jim Jones a oedd hefyd yn gwella ar ôl llawdriniaeth ddiweddar;
· Llongyfarchwyd i Lyndsay Jayne McNicholl, Rheolwr Cartref Gofal Llys y Bryn yn Llanelli y dyfarnwyd BEM iddi yn ddiweddar yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod Covid-19.
· Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i'r bobl ganlynol o Sir Gaerfyrddin a dderbyniodd wobrau hefyd yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines:-
MBE:
Yr Hybarch Rachel Hannah Eileen Davies, Sylfaenydd Tir Diew am wasanaethau i Ffermio yng Ngorllewin Cymru
Paul David Harries am wasanaethau i Beirianneg a Chyflogaeth yng Ngorllewin Cymru
George Parker am wasanaethau i'r busnes a'r gymuned yn Llanelli
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig:
Paul Christopher Alan Buckingham am wasanaethau i'r GIG yng Nghymru yn ystod Covid-19
Jack William Gibbins, Arweinydd Tactegol gydag Ambiwlans Sant Ioan (Cymru) am wasanaethau i'r gymuned yn ystod Covid-19
Nigel Williams am wasanaethau i Lywodraeth Leol yn Abertawe yn ystod Covid-19
Phoebe Leigh McLavy, Aelod Tîm gyda WorldSkills UK am wasanaethau i Gystadleuaeth WorldSkills
Nicky Lloyd, Is-gadeirydd Canolfan Gymunedol Llangennech;
Rheolwr Nos McDonalds am roi te a choffi yn hael;
Jaqueline Seward, Cynghorydd Cymuned;
Alun James, Gofalwr;
Alun Bowen, Gofalwr;
Rob Willock, Cynghorydd Cymuned a'r
Cynghorydd Gwyneth Thomas.
· Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Covid-19 yn y Sir. Ynghyd â'r diweddariad cafwyd fideo byr "Voices from the Front Line" a oedd yn rhoi cipolwg ar brofiadau ein staff cartrefi gofal yn ystod y pandemig.
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.
Dogfennau ychwanegol: